Cafodd canllawiau i gefnogi staff y GIG i roi'r ddeddfwriaeth ar waith eu datblygu trwy ymgynghori â nyrsys, cleifion, staff a grwpiau rhanddeiliaid.
Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy'n oedolion, yn ogystal â dyletswydd ehangach i ystyried faint o nyrsys y mae eu hangen er mwyn darparu gofal i gleifion yn sensitif ym mhob lleoliad.
Mae'n sicrhau hefyd fod y GIG yn cydnabod yn ehangach barn broffesiynol nyrsys wrth nodi anghenion eu cleifion, ac yn cefnogi nyrsys o'r ward i'r bwrdd i gael y sgyrsiau angenrheidiol ac anodd yn aml ynghylch anghenion eu cleifion o ran adnoddau yn seiliedig ar yr anghenion hynny.
Cyflwynodd Kirsty Williams AC yr hyn a fyddai'n dod yn Fil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ym mis Rhagfyr 2014 fel Bil Aelod Preifat. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.
Cafodd canllawiau i gefnogi staff y GIG i roi'r ddeddfwriaeth ar waith eu datblygu trwy ymgynghori â nyrsys, cleifion, staff a grwpiau rhanddeiliaid.
Dywedodd Vaughan Gething yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Mae rhoi'r ddeddfwriaeth ar Lefelau Staff Nyrsio ar waith yn gam pwysig ymlaen i Gymru, ac rydym wedi gwneud hynny am ein bod yn deall bod sylfaen dystiolaeth yn dangos bod gofal nyrsio o ansawdd uchel gyda'r niferoedd iawn a'r cymysgedd iawn o sgiliau'n gwneud gwahaniaeth o bwys i ofal cleifion a chanlyniadau cleifion.
“Mae gennym system erbyn hyn i rymuso a chefnogi nyrsys ar y rheng flaen, ac arweinwyr nyrsys i ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i ddeall a chynllunio ar gyfer y lefelau cywir o ofal; gyda'r niferoedd iawn o nyrsys y mae eu hangen i sicrhau bod y claf yn cael y profiad gorau posibl.”
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Jean White:
“Dw i wrth fy modd bod Cymru wedi cymryd yr awenau wrth gyflwyno'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'n gyfle gwych inni gael y Lefelau Staff Nyrsio iawn i ddiwallu anghenion ein cleifion ac i rymuso ein nyrsys gyda'r sylfaen dystiolaeth a fydd yn cefnogi ac yn helpu i lywio eu barn broffesiynol.
Mae 'na ymdeimlad o falchder yng Nghymru yn ein cymuned nyrsio ac rydyn ni'n darllen yn rheolaidd am sut y mae'r cyhoedd yng Nghymru'n rhannu'r teimlad hwnnw, mewn llythyron sy'n canmol y gofal eithriadol y maent wedi'i gael gan ein staff nyrsio. Rydyn ni am i'r gwaith o weithredu'r Ddeddf hon ategu'r balchder hwnnw'n a'i weld yn lledaenu i bob cwr o'n gweithlu ac rydyn ni am anfon neges i'r byd ein bob ni yng Nghymru'n gwerthfawrogi ein nyrsys.”
Dywedodd Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru:
“Llwyddwyd i gyflawni rhywbeth arbennig, a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd cleifion yn elwa ar ddeddfwriaeth a fydd yn eu diogelu ac yn sicrhau amgylchedd gofal diogel. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng lefelau isel o staff nyrsio a chynnydd sydyn ym marwolaeth cleifion. Mae'r gyfraith newydd hon yn golygu y bydd nifer priodol o nyrsys wrth erchwyn y gwely yn darparu gofal i gleifion. Mae RCN Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Kirsty Williams AC a Llywodraeth Cymru wrth geisio sicrhau'r ddeddfwriaeth hon. Rydym yn falch o gadarnhau mai'r ddeddfwriaeth hon yw'r gyntaf o'i math i'r DU ac Ewrop."