Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1. Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r darpariaethau a fewnosodwyd yn Neddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ('Deddf 2006') gan Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ('Deddf 2016'), Nodiadau Esboniadol Deddf 2016 a rheoliadau 2021 sy’n ymestyn cwmpas y ddeddfwriaeth i gynnwys wardiau pediatrig cleifion mewnol.

2. Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllawiau statudol ar adrannau 25B a 25C o Ddeddf 2006. Dyma'r canllawiau statudol y mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru eu rhoi yn unol ag adran 25D o Ddeddf 2006.

3. Yn unol ag adran 25D, mae'n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ('BILl') ac Ymddiriedolaethau'r GIG ('Ymddiriedolaethau') y mae'r dyletswyddau yn adrannau 25B a 25C yn berthnasol iddynt ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan yr adrannau hynny.

Adran 25B (Dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio)

4. Mae adran 25B yn gosod dyletswydd ar BILl ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru (lle y bo'n berthnasol) i gyfrifo a chymryd pob cam rhesymol i gynnal lefelau staff nyrsio ac i hysbysu cleifion o'r lefel honno. Lefel y staff nyrsio yw nifer y nyrsys sy'n briodol i roi gofal i gleifion sy'n bodloni pob gofyniad rhesymol yn y sefyllfa berthnasol. Mae nifer y nyrsys yn golygu nifer y nyrsys cofrestredig (sef y rhai sydd â chofrestriad gweithredol o dan is-adran 1 neu 2 ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth). Wrth gyfrifo lefel y staff nyrsio, gellir ystyried dyletswyddau nyrsio yr ymgymerir â nhw o dan oruchwyliaeth nyrs gofrestredig neu ddyletswyddau nyrsio sy'n cael eu dirprwyo i berson arall gan nyrs gofrestredig.

5. Yn unol ag adran 25B(3), mae'r ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio yn gymwys ar hyn o bryd i wardiau meddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol a wardiau llawfeddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol. Mae adran 25B(3)(c) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau i ehangu'r ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio i leoliadau eraill. Gwnaed rheoliadau o dan yr adran hon a fydd yn ymestyn y ddyletswydd yn adran 25B i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio ar wardiau pediatrig cleifion mewnol.

Person dynodedig

6. Mae adran 25B(1)(a) yn nodi, lle mae BILl neu Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn darparu gwasanaethau nyrsio mewn lleoliad clinigol y mae'r adran hon yn berthnasol iddo, rhaid iddo/iddi ddynodi person neu ddisgrifiad o berson, a elwir yn "berson dynodedig", i gyfrifo lefel y staff nyrsio ar gyfer y lleoliad hwnnw.

7. Rhaid i'r person dynodedig weithredu o fewn fframwaith llywodraethu'r BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) sy'n awdurdodi'r person hwnnw i wneud y cyfrifiad hwn ar ran Prif Swyddog Gweithredol y BILl (neu'r Ymddiriedolaeth). Yn sgil y gofyniad i arfer barn nyrsio broffesiynol wrth gyfrifo lefelau staff nyrsio, dylai'r person dynodedig fod wedi'i gofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a meddu ar ddealltwriaeth o gymhlethdodau pennu lefel staff nyrsio yn yr amgylchedd clinigol.

8. Dylai'r person dynodedig hefyd fod yn unigolyn ar lefel ddigon uchel yn y sefydliad, megis Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio y BILl neu'r Ymddiriedolaeth.

Gofynion rhesymol

9. Rhaid i'r person dynodedig gyfrifo nifer y nyrsys sy'n briodol i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf sy'n bodloni'r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno gan ddefnyddio'r fethodoleg drionglog a nodir yn y canllawiau isod.

10. Mae gofynion rhesymol yn golygu ystyried anghenion holistaidd y claf, gan gynnwys gofynion cymdeithasol, seicolegol, ysbrydol a chorfforol. Prif nyrs y ward sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu hasesu a'u dosbarthu gan ddefnyddio disgrifyddion Lefelau Gofal Cymru berthnasol, fel y'u nodir yn y canllawiau gweithredol sy’n berthnasol ar gyfer y sefyllfa ofal honno.

Lefel y staff nyrsio

11. Rhaid i'r cyfrifiad a wneir gan y person dynodedig arwain at bennu lefel y staff nyrsio ar gyfer ardal y ward. Yn ymarferol, bydd y lefel ofynnol o staff nyrsio yn cael ei phennu a bydd rhestr ddyletswyddau arfaethedig ar gyfer ardal y ward yn cael ei llunio. Dylai'r gwaith o gynnal lefel y staff nyrsio gael ei ariannu o ddyraniad refeniw'r BILl (neu'r Ymddiriedolaeth), gan ystyried pwyntiau cyflog gwirioneddol staff a gyflogir ar ei wardiau.

Lefel y staff nyrsio
Term Diffiniad
Lefel ofynnol o staff Cyfanswm nifer y staff sydd ei angen i gyflawni'r rhestr ddyletswyddau arfaethedig (a bennir gan ddefnyddio'r dull trionglog yn adran 25C) a fydd yn galluogi nyrsys i roi gofal i gleifion sy'n bodloni pob gofyniad rhesymol yn y sefyllfa berthnasol. Mae hyn yn cynnwys staff i gyflenwi ar gyfer absenoldebau e.e. absenoldebau oherwydd mamolaeth a salwch; a swyddogaethau staff eraill sy'n lleihau'r amser sydd ar gael i staff ofalu am gleifion. Ni ddylid cynnwys unigolion ychwanegol megis myfyrwyr a phrif nyrsys/rheolwyr yn y rhestr ddyletswyddau arfaethedig.

12. Dylid gwneud y cyfrifiad: bob chwe mis o leiaf; wrth fewngofnodi data'r adnodd cynllunio'r gweithlu; pan fydd newid mewn defnydd/gwasanaeth sy'n debygol o newid lefel y staff nyrsio; neu os bydd y person dynodedig yn tybio bod angen ei wneud, er enghraifft yn dilyn adroddiad ar eithriadau gan y brif nyrs. Dylai lefel y staff nyrsio ar gyfer pob ward lle mae adrannau 25B i 25E y Ddeddf yn berthnasol gael ei chyflwyno'n ffurfiol gan y person dynodedig i Fwrdd pob BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) yn flynyddol. Yn ogystal, dylent gael diweddariad ysgrifenedig o lefel y staff nyrsio ar gyfer pob ward unigol (y mae adrannau 25B i 25E y Ddeddf yn berthnasol) pan fydd newid mewn defnydd/gwasanaeth sydd wedi arwain at newid lefel y staff nyrsio, neu os bydd y person dynodedig yn tybio bod angen gwneud hynny.

Camau rhesymol

13. Mae adran 25B(1) yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau ac Ymddiriedolaethau gymryd pob cam rhesymol i gynnal lefel y staff nyrsio. Ystyr cynnal yw sicrhau bod y lefel ofynnol o nyrsys cofrestredig ar gael i gyflawni'r rhestr ddyletswyddau arfaethedig. Staff parhaol ddylai wneud hyn, fodd bynnag gellir defnyddio gweithwyr dros dro os bydd angen. (Gweler yr adran barn broffesiynol am ganllawiau ar yr effaith a gaiff defnyddio staff dros dro ar y cyfrifiad.)

14. Cydnabyddir bod yr amgylchedd clinigol yn gymhleth ac y gall y rhestr ddyletswyddau arfaethedig gael ei hamrywio'n briodol weithiau er mwyn ymateb i ddibyniaeth cleifion ac aciwtedd yn y system. Dylai'r brif nyrs a'r uwch nyrs asesu'r sefyllfa yn barhaus a rhoi'r newyddion diweddaraf yn ffurfiol i'r person dynodedig. Dylai'r person dynodedig ystyried p'un a oes angen ail-gyfrifo lefel y staff nyrsio (e.e. o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 12).

15. Dylai BILlau ac Ymddiriedolaethau roi systemau ar waith sy'n eu galluogi i adolygu a chofnodi pob achlysur pan fo lefel y staff nyrsio yn wahanol i'r rhestr ddyletswyddau arfaethedig.

16. Y BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch cynnal lefel y staff nyrsio a dylai'r penderfyniadau hynny fod yn seiliedig ar farn broffesiynol y Cyfarwyddwyr Gweithredol sy'n gyfrifol am bortffolios Nyrsio, Cyllid, Gweithlu a Gweithrediadau a'r dystiolaeth a roddir ganddynt. Dylai'r BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) gytuno ar y fframwaith gweithredu ar gyfer y penderfyniadau hyn, a ddylai nodi'r camau gweithredu i'w cymryd a chan bwy.

17. Ystyrir bod y camau rhesymol - y dylid eu cymryd yn genedlaethol ac ar lefel BILlau/Ymddiriedolaethau i gynnal lefelau staff nyrsio - yn cynnwys y canlynol:

Camau cenedlaethol

  • rhannu a meincnodi data corfforaethol

Camau corfforaethol strategol

  • cynllunio'r gweithlu i sicrhau cyflenwad parhaus o staff gofynnol a aseswyd gan ddefnyddio System Gynllunio Cymru
  • recriwtio mewn modd gweithredol ac amserol ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus i staff
  • strategaethau cadw staff sy'n cynnwys ystyried canlyniadau Arolwg Staff GIG Cymru
  • strategaethau lles yn y gwaith sy'n helpu nyrsys i gyflawni eu rolau

Camau gweithredol

  • defnyddio staff dros dro o fanc nyrsio sy'n briodol i'r gymysgedd o sgiliau a nodir yn y rhestr ddyletswyddau arfaethedig
  • defnyddio staff dros dro o asiantaeth nyrsio sy'n briodol i'r gymysgedd o sgiliau a nodir yn y rhestr ddyletswyddau arfaethedig
  • defnyddio staff o feysydd eraill o fewn y sefydliad am gyfnod dros dro
  • cau gwelyau am gyfnod dros dro
  • ystyried newidiadau i lwybr cleifion

18. Wrth gymryd y camau hyn, dylai BILlau ac Ymddiriedolaethau ystyried eu dyletswyddau o dan adran 25A i sicrhau bod digon o nyrsys ar gael fel bod ganddynt ddigon o amser i ofalu am eu cleifion mewn ffordd sensitif lle bynnag y caiff gwasanaethau nyrsio eu darparu neu eu comisiynu.

19. Dylai'r camau hyn a'r fframwaith gweithredu gael eu cynnwys ym mholisi uwchgyfeirio a chynlluniau parhad busnes pob Bwrdd.

Hysbysu cleifion

20. Mae adran 25B(1)(c) yn nodi bod yn rhaid i BILlau ac Ymddiriedolaethau wneud trefniadau i hysbysu cleifion o lefel y staff nyrsio.

21. Dylai papurau bwrdd cyhoeddus blynyddol y BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) gynnwys lefel y staff nyrsio ar gyfer pob ward y mae adrannau 25B i 25E y Ddeddf yn berthnasol. Yn ogystal, dylai’r BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) dderbyn diweddariad ysgrifenedig gan y person dynodedig o lefel y staff nyrsio ar gyfer pob un o’r wardiau hynny pan fydd newid mewn defnydd/gwasanaeth sydd wedi arwain at newid lefel y staff nyrsio, neu os bydd y person dynodedig yn tybio bod angen gwneud hynny.

22. Rhaid i gleifion gael eu hysbysu o lefel y staff nyrsio ar gyfer pob ward y mae adrannau 25B i 25E y Ddeddf yn berthnasol iddynt, a'u hysbysu hefyd o'r dyddiad y cyflwynwyd y lefel staff nyrsio i Fwrdd pob BILl (neu Ymddiriedolaeth). Dylai hyn fod yn hawdd i unrhyw sy'n ymweld â'r ward ei weld.

23. Dylai 'cwestiynau cyffredin' ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 a’r rheoliadau cysylltiedig fod ar gael yn hawdd i gleifion. Dylai'r rhain gynnwys sut i godi pryderon ynghylch lefel y staff nyrsio.

24. Dylai'r wybodaeth gael ei darparu mewn fformat hygyrch sy'n ddealladwy i gleifion.

25. Rhaid i bob BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau sy'n berthnasol iddynt o dan Safonau'r Gymraeg i ddarparu'r wybodaeth hon.

Sefyllfaoedd Lle mae Adran 25B yn Berthnasol

26. Mae adran 25B(3) yn nodi'r sefyllfaoedd lle mae'r ddyletswydd i gyfrifo, a chynnal, lefelau staff nyrsio o dan adran 25B yn berthnasol. Ar hyn o bryd, mae adran 25B yn berthnasol i wardiau meddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol, wardiau llawfeddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol ac, o 1 Hydref 2021, wardiau pediatreg mewnol.

27. O dan unrhyw amgylchiadau, bydd y diffiniadau isod o wardiau yn berthnasol yn ôl prif ddiben y ward.

Wardiau meddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol

28. Mae 'ward feddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol' yn golygu ardal lle y caiff cleifion eu trin ar gyfer anaf neu salwch acíwt ac mae angen ymyrraeth feddygol gynlluniedig neu frys arnynt a roddir gan feddyg ymgynghorol neu o dan oruchwyliaeth meddyg ymgynghorol. Bydd y cleifion ar y wardiau hyn yn 18 oed neu’n hŷn, ond caiff unigolion hyd at eu pen-blwydd 18 oed dderbyn triniaeth ar ward feddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol ar rai achlysuron os yw’r farn broffesiynol lle mae barn broffesiynol yn credu mai dyma'r dewis gorau yn seiliedig ar anghenion clinigol y claf tra hefyd yn ystyried y protocolau asesu risg presennol yn ogystal â hawl y plentyn/gwarcheidwad i gymryd rhan yn y penderfyniad. Ystyrir bod cleifion yn cael eu trin os oes angen ymyrraeth gan y meddyg ymgynghorol a/neu ei dîm a/neu ymarferwyr uwch ar gyfer eu hanaf neu salwch.

Eithriadau:

Nid ystyrir bod y lleoliadau gofal canlynol yn dod o dan ddiffiniad 'wardiau meddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol':

  • unedau derbyn/asesu acíwt ar gyfer derbyniadau byrdymor at ddibenion asesu sy'n amlwg yn wahanol i wardiau meddygol acíwt i gleifion mewnol
  • unedau gofal dwys
  • unedau dibyniaeth fawr
  • unedau gofal coronaidd
  • unedau dialysis arennol
  • gwasanaethau mamolaeth
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • gwasanaethau anabledd dysgu
  • unedau neu wardiau gofal dydd
  • wardiau adsefydlu

Sylwch: nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Wardiau llawfeddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol

29. Mae 'ward lawfeddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol' yn golygu ardal lle y caiff cleifion eu trin ar gyfer anaf neu salwch acíwt ac mae angen ymyrraeth feddygol gynlluniedig neu frys arnynt a roddir gan feddyg ymgynghorol neu o dan oruchwyliaeth meddyg ymgynghorol. Bydd y cleifion ar y wardiau hyn yn 18 oed neu’n hŷn, ond caiff unigolion hyd at eu pen-blwydd 18 oed dderbyn triniaeth ar ward feddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol ar rai achlysuron os yw’r farn broffesiynol lle mae barn broffesiynol yn credu mai dyma'r dewis gorau yn seiliedig ar anghenion clinigol y claf tra hefyd yn ystyried y protocolau asesu risg presennol yn ogystal â hawl y plentyn/gwarcheidwad i gymryd rhan yn y penderfyniad. Ystyrir bod cleifion yn cael eu trin os oes angen ymyrraeth gan y meddyg ymgynghorol a/neu ei dîm a/neu ymarferwyr uwch ar gyfer eu hanaf neu salwch.

Eithriadau:

Nid ystyrir bod y lleoliadau gofal canlynol yn dod o dan ddiffiniad 'wardiau llawfeddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol':

  • unedau penderfyniadau llawfeddygol acíwt ar gyfer derbyniadau byrdymor at ddibenion asesu sy'n amlwg yn wahanol i wardiau llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol;
  • gofal dwys
  • unedau dibyniaeth fawr
  • gwasanaethau mamolaeth
  • unedau neu wardiau gofal dydd
  • gwasanaethau anabledd dysgu
  • gwasanaethau iechyd meddwl

Sylwch: nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Wardiau pediatrig i gleifion mewnol

30. Ystyr “ward pediatrig i gleifion mewnol” yw ardal lle bydd cleifion yn cael triniaeth am anaf neu salwch y mae angen ymyrraeth feddygol/llawfeddygol frys neu a gynlluniwyd ar ei gyfer, a bod yr ymyrraeth yn cael ei ddarparu gan – neu o dan oruchwyliaeth – meddyg neu lawfeddyg ymgynghorol. Bydd cleifion ar wardiau hyn yn 0-17 oed, ond caiff unigolion hyd at eu pen-blwydd 18 oed dderbyn triniaeth ar ward feddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol ar rai achlysuron os yw’r farn broffesiynol lle mae barn broffesiynol yn credu mai dyma'r dewis gorau yn seiliedig ar anghenion clinigol y claf tra hefyd yn ystyried y protocolau asesu risg presennol yn ogystal â hawl y plentyn/gwarcheidwad i gymryd rhan yn y penderfyniad. Ystyrir bod cleifion yn cael eu trin os oes angen ymyrraeth gan y meddyg ymgynghorol a/neu ei dîm a/neu ymarferwyr ar gyfer eu hanaf neu salwch.

Eithriadau:

Nid ystyrir bod y lleoliadau gofal canlynol yn dod o dan ddiffiniad 'wardiau pediatrig i gleifion mewnol':

  • unedau derbyn/asesu acíwt lle cafwyd derbyniadau tymor byr at ddibenion asesu sy’n hollol wahanol i wardiau pediatrig i gleifion mewnol
  • unedau gofal ddwys pediatrig sydd wedi’u lleoli ar wahân
  • unedau Dibyniaeth Fawr sydd wedi’u lleoli ar wahân
  • unedau achosion dydd sydd wedi’u lleoli ar wahân
  • unedau newyddenedigol
  • unedau oncoleg arbenigol
  • wardiau cardiaidd arbenigol
  • unedau dialysis arennol arbenigol a wardiau arennol
  • unedau iechyd meddwl
  • unedau anableddau dysgu
  • unedau cleifion allanol pediatrig
  • adrannau argyfwng pediatrig

Sylwch: nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

31. Y BILl a’r Ymddiriedolaethau ddylai benderfynu pa wardiau sy’n cyd-fynd â’r diffiniadau ar gyfer y wardiau uchod. Dylid cynnwys hyn yn y cyflwyniad ffurfiol o lefelau staff nyrsio i Fwrdd pob BILl (neu Ymddiriedolaeth) fel y nodwyd ym mharagraffau 12 a 21.

Section 25C (Nurse staffing levels: method of calculation).

Cyflwyniad

32. Mae adran 25C yn nodi'r dull y mae'n rhaid i'r person dynodedig ei ddefnyddio i gyfrifo lefel y staff nyrsio. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu dull trionglog.

33. Wrth gyfrifo lefel y staff nyrsio, rhaid i berson dynodedig:

  • arfer barn broffesiynol
  • ystyried y gymhareb gyfartalog o nyrsys i gleifion sy'n briodol ar gyfer rhoi gofal i gleifion sy'n bodloni pob gofyniad rhesymol, wedi'i amcangyfrif ar gyfer cyfnod penodol gan ddefnyddio adnoddau cynllunio'r gweithlu seiliedig ar dystiolaeth
  • ystyried y graddau y gwyddys fod lles cleifion yn arbennig o sensitif i'r gofal a roddir gan nyrs
Image
diagram lefel staff nyrsio

 

34. Mae'r broses drionglog yn hwyluso'r gwaith o ddilysu canlyniadau data a geir o'r adnodd cynllunio'r gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhoi mwy o sicrwydd drwy'r broses o groesddilysu mwy na dwy ffynhonnell.

35. Mae'r tair elfen hyn yn ystyriaethau annibynnol y mae'n rhaid eu triongli er mwyn cyfrifo lefel y staff nyrsio. Nid oes unrhyw hierarchaeth i'w hystyried; y person dynodedig fydd yn nodi'r flaenoriaeth ym mhob sefyllfa, yn ôl ei ddisgresiwn. Dylid cofnodi'r rhesymeg dros y penderfyniad hwn.

36. Dylai'r cyfrifiad a wneir gan y person dynodedig gael ei lywio gan y nyrsys cofrestredig o fewn y ward a'r strwythur rheoli nyrsys lle mae lefel y staff nyrsio yn gymwys. Mae hyn yn golygu y dylai safbwyntiau'r prif nyrs, yr uwch-nyrs/metron/nyrs arwain a chyfarwyddwr nyrsio'r gyfarwyddiaeth/y cyfarwyddwr nyrsio rhanbarthol/y prif nyrs/nyrs y bwrdd clinigol gael ei chyflwyno i'r person dynodedig.

37. Dylai'r ffordd y cafodd y safbwyntiau hyn eu hystyried ffurfio rhan o'r fframwaith gweithredu y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 16, a'r adroddiad blynyddol ar lefelau staff nyrsio ar gyfer Bwrdd pob BILl (neu'r Ymddiriedolaeth) y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 12.

Barn broffesiynol

38. Dylai'r farn broffesiynol a arferir gan y person dynodedig, wrth wneud pob cyfrifiad, gynnwys yr holl agweddau canlynol:

i. Cymwysterau, cymwyseddau, sgiliau a phrofiad y nyrsys sy'n rhoi gofal i gleifion. Mae hyn yn cynnwys ystyried datblygiad proffesiynol parhaus, y broses ail-ddilysu a gofynion hyfforddiant gorfodol sy'n berthnasol i'r nyrsys a gyflogir ar y ward, a sicrhau bod staff nyrsio yn cael amser i gael yr hyfforddiant priodol ar gyfer y gofal y mae'n ofynnol iddynt ei roi.

ii. Effaith defnyddio staff dros dro ar lefel y staff nyrsio, er enghraifft ystyried parhad gofal cleifion a'r ystod o weithgareddau y gall staff dros dro eu cynnal.

iii. Yr amodau sy'n berthnasol i'r gofal a roddir gan nyrs, gan gynnwys ystyriaethau sy'n ymwneud ag anghenion diwylliannol cleifion. Er enghraifft, ystyried arferion crefyddol a diwylliannol a allai effeithio ar lefel y staff nyrsio.

iv. Yr amodau sy'n berthnasol i'r gofal a roddir gan nyrs, gan gynnwys ystyriaethau sy'n ymwneud â dynameg timau amlbroffesiynol. Er enghraifft, pan fo gweithwyr amlbroffesiynol yn rhoi triniaeth yn ogystal â gofal cleifion mewnol.

v. Yr effaith bosibl a gaiff cyflwr a chynllun ffisegol y ward ar y gofal a roddir gan nyrs neu mewn sefyllfa arall lle y rhoddir gofal, er enghraifft effaith ystafelloedd sengl lluosog.

vi. Trosiant cleifion sy'n cael gofal a nifer gyffredinol y gwelyau a ddefnyddir. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau eraill ar y ward fel clinigau/triniaethau i gleifion allanol a'r defnydd o welyau hyblyg.

vii. Gwasanaethau neu ofal a roddir i gleifion gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill neu aelodau eraill o staff (er enghraifft, gweithwyr cymorth gofal iechyd), eu cymwysterau, cymwyseddau, sgiliau a'u profiad; mewn perthynas â'r gofal sydd angen ei roi a'r gofyniad i nyrsys cofrestredig gefnogi, dirprwyo a goruchwylio. Er enghraifft, rhoi bwyd a diod, a goruchwylio cleifion yn unigol.

viii. Unrhyw ofynion a bennir gan reoleiddiwr i gefnogi myfyrwyr a dysgwyr.

ix. Y graddau y mae'n ofynnol i'r nyrsys sy'n rhoi'r gofal ymgymryd â swyddogaethau gweinyddol.

x. Cymhlethdod anghenion cleifion yn ogystal â'u hanghenion meddygol neu lawfeddygol. Er enghraifft cleifion ag anableddau dysgu.

xi. Anghenion ieithyddol y claf a chynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhagweithiol heb i rywun orfod gofyn amdano, fel y nodir yn y fframwaith strategol Mwy na Geiriau.

39. Dylai barn broffesiynol y person dynodedig gael ei llywio gan unrhyw ganllawiau, egwyddorion neu waith ymchwil perthnasol ac arbenigol sy'n berthnasol i staff nyrsio proffesiynol a safonau arfer gorau presennol.

40. Ar ôl ystyried y ffactorau hyn, dylid cymhwyso cynnydd o 26.9% unwaith - cyn ei driongli â'r elfennau eraill - er mwyn darparu ar gyfer absenoldebau staff o'r ward. (Cytunwyd yn 2011 y dylai 26.9% gael ei ddefnyddio gan Gyfarwyddwyr Nyrsio yng Nghymru fel y ffactor cynnydd yn seiliedig ar dystiolaeth.) Bydd BILlau ac Ymddiriedolaethau yn cael eu hysbysu o unrhyw newid i'r cynnydd hwn gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru.

Adnodd cynllunio'r gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth

41. Rhaid defnyddio adnodd cynllunio'r gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ardal y ward. Mae hwn naill ai'n:

  • adnodd damcaniaethol sefydledig sydd wedi'i ddilysu i'w ddefnyddio drwy sefydlu sylfaen dystiolaeth o'i gymhwysedd mewn lleoliadau clinigol yng Nghymru

neu'n

  • adnodd a ddatblygwyd i'w ddefnyddio yn y GIG yng Nghymru sydd wedi'i ddilysu i'w ddefnyddio drwy sefydlu sylfaen dystiolaeth o'i gymhwysedd mewn lleoliadau clinigol yng Nghymru

42. Bydd BILlau ac Ymddiriedolaethau yn cael gwybod pa adnoddau sy'n bodloni'r diffiniad a nodir ym mharagraff 41 gan swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio. Bydd y Prif Swyddog Nyrsio yn penderfynu bod yr adnoddau yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael, gan gynnwys cymarebau amser nyrsys cofrestredig i anghenion cleifion yn y cyfrifiadau.

43. Mae canllawiau gweithredol ar ddefnyddio'r adnoddau yn cael eu darparu gan y Prif Swyddog Nyrsio a Chyfarwyddwyr Nyrsio Gweithredol y GIG yng Nghymru, ac yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen. Dylid dilyn y canllawiau gweithredol hyn.

Dangosyddion o les claf sydd yn arbennig o sensitif i'r gofal a roddir gan nyrs

44. Rhaid i'r person dynodedig ystyried yr amgylchiadau pan fo lles claf yn arbennig o sensitif i'r gofal a roddir gan nyrs fel rhan o'r dull trionglog bob tro y caiff lefel y staff nyrsio ei chyfrifo. Ar pob ward lle mae adrannau 25B i 25E y Ddeddf yn berthnasol, dylai'r ystyriaeth hon gynnwys dadansoddi'r data ar gyfer y sefyllfa gofal berthnasol mewn perthynas â'r dangosyddion safon canlynol:

a. Wlserau pwyso: dylai'r person dynodedig ystyried unrhyw wlserau pwyso y mae'r claf wedi'u datblygu a/neu sydd wedi gwaethygu wrth gael gofal fel claf mewnol.

b. Camgymeriadau wrth weinyddu meddyginiaethau: dylai'r person dynodedig ystyried unrhyw gamgymeriadau a wnaed gan staff nyrsio wrth baratoi, gweinyddu neu hepgor meddyginiaeth.

Ar wardiau meddygol/llawfeddygol acíwt i oedolion sy'n gleifion mewnol dylai'r ystyriaeth hon hefyd gynnwys:

c. Cleifion yn cwympo: dylai'r person dynodedig ystyried unrhyw achos o glaf yn cwympo.

Ar wardiau pediatrig i gleifion mewnol dylai'r ystyriaeth hon hefyd gynnwys:

d. Anafiadau ymdreiddio - dylai'r person dynodedig ystyried unrhyw anafiadau i claf yn ystod ymdreiddiadau mewnwythiennol.

Ym mhob achos, dylid ystyried y data sy'n ymwneud ag (a)-(c) uchod drwy adolygu p'un a gafodd lefel y staff nyrsio ei chynnal ar y pryd ac, os na ddigwyddodd hyn, p'un a oedd y methiant i gynnal lefel y staff nyrsio wedi cyfrannu at yr achos o gwympo, yr wlser neu'r gwall ac unrhyw niwed a ddioddefodd y claf.

45. Yn ogystal â'r dangosydd a nodir uchod, gall y person dynodedig ystyried unrhyw ddangosydd arall sy'n sensitif i lefel y staff nyrsio y tybiant sy'n briodol i'r ward lle mae lefel y staff nyrsio yn cael ei chyfrifo. Gallai enghreifftiau o ddangosyddion perthnasol eraill gynnwys:

  • profiad gleifion
  • anghenion gofal heb eu diwallu
  • methiant i ymateb pan fo cleifion yn gwaethygu
  • profiad staff
  • llesiant staff
  • gallu staff i gymryd gwyliau
  • cydymffurfiaeth staff â gofynion i gwblhau hyfforddiant gorfodol ac adolygiadau datblygu perfformiad

Amrywio lefelau staff nyrsio

46. Mae adran 25C(2) yn caniatáu i'r person dynodedig gyfrifo lefelau staff nyrsio gwahanol mewn perthynas â chyfnodau amser gwahanol ac yn dibynnu ar yr amodau sy'n berthnasol i'r gofal a roddir gan nyrs. Dylid ystyried hyn wrth lunio'r rhestr ddyletswyddau arfaethedig sy'n cael ei chyflwyno i Fwrdd pob BILl (neu Ymddiriedolaeth).

Adolygu

47. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus a'u diweddaru yn ôl yr angen ar ôl ymgynghori â BILlau, Ymddiriedolaethau ac eraill pan fydd unrhyw newidiadau i'r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt.