Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Ar 1 Mehefin 2020, daeth y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn gyfraith.

Daeth y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, ac mae’r gwaith o’i gweithredu yn parhau.

Nod y Ddeddf yw:

  • cryfhau'r Ddyletswydd Ansawdd bresennol ar gyrff y GIG, ac estyn honno i gynnwys Gweinidogion Cymru ar gyfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd
  • gosod Dyletswydd Gonestrwydd ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG i sicrhau eu bod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau sy’n cael niwed yn ystod eu gofal
  • cryfhau lleisiau dinasyddion drwy Gorff Llais y Dinesydd i Gymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn lle’r cynghorau iechyd cymuned
  • ei gwneud yn bosibl penodi Is-gadeiryddion i Ymddiriedolaethau’r GIG, yn yr un modd â’r byrddau iechyd

Yn 2018, gwnaeth yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru nifer o argymhellion. Roedd yr argymhellion hynny’n cynnwys gwella ansawdd gwasanaethau ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn elfennau allweddol yn ymateb Llywodraeth Cymru: ‘Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol’. Maent hefyd yn cael eu hategu gan ddarpariaethau yn y Ddeddf.

Mae gwelliannau parhaus i'r ansawdd yn hanfodol i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol, a'i bod yn rhoi gwerth am arian. Mae sefydlu Llais, ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn sicrhau bod dinasyddion yn cyfrannu, yn cael eu clywed yn glir ac y gwrandewir arnynt. Mae hyn yn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u llunio’n unol ag anghenion a dewisiadau unigolion.

Dyletswydd Ansawdd

Mae ansawdd yn llawer mwy na bodloni safonau gwasanaethau; mae'n ofal ar draws y system gyfan, sy'n ddiogel, yn effeithiol, yn canolbwyntio ar y person, yn effeithlon ac yn deg. Mae’n digwydd yng nghyd-destun diwylliant sy'n dysgu hefyd. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae'r Ddeddf:

  • yn gosod Dyletswydd Ansawdd gyffredinol ar Weinidogion Cymru
  • yn ail-fframio ac ehangu'r ddyletswydd bresennol ar gyrff y GIG

Mae hyn yn sicrhau bod y cysyniad o 'ansawdd' yn cael ei ddefnyddio yn ei ddiffiniad ehangaf. Nid yw’n cael ei gyfyngu i ansawdd gwasanaethau a ddarperir i unigolion na safonau gwasanaeth.

Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod Gweinidogion iechyd Cymru a chyrff y GIG yn gweithio  gyda’r bwriad o wella ansawdd gwasanaethau iechyd.

Ceir manylion am y ffordd y bydd y Ddyletswydd yn gweithio'n ymarferol ar gyfer y GIG yn y canllawiau statudol, sydd wedi cael eu datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid. Mae hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu a’i ddarparu i helpu i'w rhoi ar waith.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Ansawdd mewn gofal iechyd ar ein gwefan.

Dyletswydd Gonestrwydd

Mae diwylliant o fod yn agored, yn dryloyw ac yn onest yn gysylltiedig â gofal o ansawdd da. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae'r Ddeddf yn gosod Dyletswydd Gonestrwydd ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG (cyrff a gofal sylfaenol y GIG) – i  gefnogi’r dyletswyddau proffesiynol presennol.

Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr y GIG ddilyn proses pan fydd defnyddwyr gwasanaethau yn dioddef canlyniad andwyol. Mae’n bosibl bod y canlyniad wedi arwain at niwed annisgwyl neu anfwriadol sy’n fwy nag ychydig o niwed neu gallai arwain at hynny. Mae hefyd yn bosibl bod y gofal iechyd a ddarparwyd yn ffactor neu gallai fod yn ffactor. Nid oes elfen o fai, gan ei gwneud yn bosibl canolbwyntio ar ddysgu a gwella, yn hytrach na beio.

Mae’r canllawiau’n ddogfen ymarferol a ddatblygwyd â rhanddeiliaid i helpu i roi’r ddyletswydd ar waith. Yn benodol, mae ystyr 'mwy nag ychydig' o niwed wedi’i esbonio’n fanylach yn y canllawiau. Mae’n cynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos i helpu dealltwriaeth a sicrhau cysondeb wrth roi’r ddyletswydd ar waith.

Mae'r Ddyletswydd yn ceisio hyrwyddo diwylliant o fod yn agored. Mae’n gwella ansawdd y gofal drwy annog dysgu yn y sefydliad ac osgoi digwyddiadau yn y dyfodol.

Drwy bwerau sydd eisoes yn bodoli, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud rheoliadau ar wahân (o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000). Mae’r rhain ar gyfer Dyletswydd Gonestrwydd ar ddarparwyr gofal iechyd annibynnol rheoleiddedig.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Gonestrwydd ar ein gwefan.

Corff llais y dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (Llais)

Mae Llais yn disodli cynghorau iechyd cymuned. Roedd y cynghorau iechyd cymuned wedi cynrychioli cleifion yn y gwasanaeth iechyd am bron i 50 mlynedd. Fel corff cenedlaethol newydd, bydd Llais yn arfer swyddogaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Nodau'r corff newydd i Gymru yw:

  • cryfhau llais dinasyddion mewn materion sy'n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed mewn modd effeithiol
  • sicrhau bod y rheini sy’n cwyno am eu gofal yn cael cyngor a chymorth
  • defnyddio profiadau'r defnyddiwr gwasanaethau i ysgogi gwelliant

Sefydlwyd y sefydliad newydd hwn fel corff cenedlaethol. Ond mae wedi’i strwythuro i gyflawni ei swyddogaethau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau i’r corff newydd, i gyrff y GIG ac i’r awdurdodau lleol gydweithredu, er mwyn iddynt gefnogi ei gilydd i hybu ymwybyddiaeth o Llais. Mae dyletswydd arnynt hefyd i wneud trefniadau i gynorthwyo'r corff newydd i geisio barn y cyhoedd am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cod ymarfer ar gyfer ceisiadau i fynd i safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol i geisio barn pobl. Hefyd, mae'n rhaid i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol ystyried canllawiau cyfreithiol newydd wrth ymdrin â sylwadau a gyflwynir iddynt gan Llais.

Mae’r canllawiau statudol, yn ogystal â gwybodaeth am Llais ar ein gwefan.

Is-gadeiryddion

O’r blaen, dim ond o blith eu haelodau annibynnol presennol yr oedd Ymddiriedolaethau’r GIG yn cael penodi is-gadeirydd. Yr unig adeg yr oedd yr aelodau’n cael dirprwyo oedd pan nad oedd y cadeirydd ar gael neu pan nad oedd yn medru cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae’r pwerau newydd yn y Ddeddf yn darparu cyfle i Weinidogion Cymru benodi is-gadeirydd i swydd benodol ar fyrddau Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae hyn yn galluogi'r is-gadeiryddion i wneud y canlynol:

  • cyfrannu'n llawn at waith Ymddiriedolaethau’r GIG
  • cryfhau gallu'r aelodau annibynnol
  • gwella'r prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau
  • sicrhau cysondeb ar draws Cymru

Gall Gweinidogion dynnu sylw at set o sgiliau gwahanol a mwy priodol yn y disgrifiad swydd. A gallai penodiad i rôl fwy pendant, sy'n gofyn am fwy o ymrwymiad amser, arwain hefyd at ddenu mwy o ddiddordeb ac ehangu'r pwll o ymgeiswyr.

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.