Neidio i'r prif gynnwy

Mae democratiaeth yng Nghymru yn cael ei chryfhau heddiw wrth i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r diwygiadau sy’n dod yn gyfraith heddiw yn gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y ddeddfwriaeth nodedig hon, a gafodd ei phasio gan uwchfwyafrif o Aelodau o'r Senedd ym mis Mai, yn creu Senedd fodern, fwy effeithiol i wasanaethu a chynrychioli pobl Cymru.

Yn sgil y gyfraith newydd, bydd gan y Senedd fwy o gapasiti i graffu ar bolisïau, deddfau a chynlluniau gwario, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Dyma rai o'r newidiadau allweddol a fydd yn cael eu rhoi ar waith mewn pryd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026:

  • 96 Aelod o'r Senedd, i’w hethol gan ddefnyddio system rhestrau caeedig a fydd yn gwbl gyfrannol. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu henwi ar y papurau pleidleisio.
  • 16 etholaeth yng Nghymru, a phob un yn ethol chwe Aelod o'r Senedd yr un.
  • Bydd rhaid i bob Aelod o'r Senedd a phob ymgeisydd am sedd fod yn byw yng Nghymru.
  • Bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd o 2026 ymlaen.

Mae ymrwymiad hefyd, ar ôl etholiad 2026, i adolygu'r newidiadau a gyflwynir gan y Ddeddf ac i ystyried goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi yn y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething:

Mae hon yn foment hanesyddol i ddemocratiaeth yng Nghymru. Yn ystod y 25 mlynedd ers datganoli, mae'r Senedd wedi cael mwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys pwerau deddfu ac amrywio trethi, ond does dim twf cyfatebol wedi bod yn ei chapasiti – roedd rhaid i hynny newid.

Bydd y diwygiadau hanesyddol hyn yn cael gwared ar y diffyg cydbwysedd er mwyn creu Senedd fodern sy'n adlewyrchu Cymru'r unfed ganrif ar hugain yn well.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw:

O’i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, Cymru sydd yn y sefyllfa waethaf o ran tangynrychiolaeth ar hyn o bryd. Bydd y ddeddfwriaeth nodedig hon yn cryfhau ein democratiaeth er mwyn gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well – yn y Senedd ac mewn cymunedau ym mhob cwr o'r wlad.

Cafodd y ddeddfwriaeth ei siapio yng ngwres proses graffu'r Senedd i sicrhau bod gan ein Senedd y gallu sydd ei angen arni i archwilio cyfreithiau, adolygu cynlluniau gwario a sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.