Neidio i'r prif gynnwy

Mae deddfwriaeth sy'n cyflwyno'r dreth Gymreig gyntaf mewn bron i 800 o flynyddoedd wedi cael Cydsyniad Brenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp yng Nghymru pan fydd yn cael ei datganoli ym mis Ebrill 2018.

Mewn seremoni selio swyddogol heddiw, daeth y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Hon yw Deddf gyntaf tymor y Cynulliad hwn.

Mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol pan fydd Breinlythyrau o dan y Sêl Gymreig wedi'u llofnodi â llaw Ei Mawrhydi ei hun i ddatgan Ei Chydsyniad yn cael eu cyhoeddi i Glerc y Cynulliad. 

Rhoddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau yn ystod y seremoni selio, ac roedd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, hefyd yn bresennol.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:  

"Dyma garreg filltir arwyddocaol yn ein taith ddatganoli - am y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd bydd gan Gymru ei threthi ei hun.

“Bydd yn dod â rhagor o gyfrifoldeb wrth inni ddod yn atebol am godi cyfran o'n harian ein hunain a bydd yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."


Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: 

“Bydd y Ddeddf yn ein galluogi i gyflwyno treth trafodiadau tir a wnaed yng Nghymru yn lle treth dir y dreth stamp. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i elwa ar y cyllid sy'n cael ei godi gan y dreth bwysig hon. 

"Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i lunio'r Ddeddf hon ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw wrth iddi gael ei gweithredu."