Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Gorffennaf 2015.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 405 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ledled Cymru gyfrannu at y set gyntaf o ymgynghoriadau er mwyn i ni gyflawni gofynion y Ddeddf.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Datblygwyd y rheoliadau a’r cod ymarfer drafft drwy broses ymgynghori gyda’n prif randdeiliaid.
Cafodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014. Y Ddeddf yw’r sylfaen i fframwaith statudol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Caiff y codau ymarfer eu cyhoeddi o dan adran 145.
Mae rhan 10 (Cwynion Sylwadau a Gwasanaethau Eiroli) yn ymdrin â:
- cydnabyddiaeth eglur i fanteision eiriolaeth
- yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael i bobl
- yr adegau allweddol pan fo’n rhaid i angen pobl am eiriolaeth gael ei asesu
- yr amgylchiadau/amgylchedd sy’n effeithio ar angen pobl am eiriolaeth
- pryd y mae’n rhaid darparu eiriolaeth annibynnol
- yr amgylchiadau pan fo’n amhriodol i rai pobl fod yn eiriolwyr
- y trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eiriolaeth
- y trefniadau codi ffioedd