Neidio i'r prif gynnwy

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

1.1 Mae Deddf Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) yn gweithredu i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau cadarnhaol drafft neu ‘gwnaed’ mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru, y gellir eu defnyddio i sicrhau bod modd gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol, megis:

  1. i ddiogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru
  2. i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, lle y bo'n briodol
  3. i ymateb i newidiadau i bolisi trethi a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, un lle mae gennym dreth ddatganoledig gyfatebol - ar hyn o bryd mae trethi rhagflaenol yn cyfeirio at Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi – trethi'r DU sy'n cyfateb i'r trethi sydd bellach wedi'u datganoli yng Nghymru) a fyddai'n cael effaith ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru, a
  4. i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd/tribiwnlysoedd.

1.2 Prif effaith arfaethedig y Bil yw rhoi mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru a godir drwy drethi datganoledig, ac i osgoi goblygiadau andwyol i fusnesau, y farchnad eiddo, yr amgylchedd a'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

1.3 Mae’r adran ganlynol yn amlinellu sut y mae datblygu'r ddeddfwriaeth hon wedi cadw at y pum ffordd o weithio fel y’u nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru

1.4 Mae blaenoriaethau polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu 2021-26, i barhau i ddangos ei hymrwymiad i greu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn decach ac yn fwy cyfiawn yn gymdeithasol. Gall trethiant datganoledig fod yn sbardun pwerus i ddylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chynhyrchu refeniw i gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion Cymru, a'n galluogi i ddatblygu trethi mwy graddoledig. Bydd datganoli pwerau trethi'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull gweithredu cryfach o ran trethi canolog a lleol yng Nghymru, gan sicrhau ei bod yn gallu ymdrin yn well ag anghenion a blaenoriaethau dinasyddion a busnesau.

1.5 Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn cyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol o 'Gymru lewyrchus', gan gydnabod rôl graidd trethiant o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Prif amcan y Bil yw rhoi mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru i ddiogelu’r refeniw Cymreig, a godir drwy drethi datganoledig, sydd ar gael ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru ac i osgoi goblygiadau andwyol i fusnesau, y farchnad eiddo, a'r amgylchedd. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd yn amlwg â phump o’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

1.6 Mae'r cynnig wedi'i ddatblygu yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi trethi yng Nghymru, a nodir yn y Fframwaith Polisi Trethi:

  • Dylai trethiant godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sydd mor deg â phosibl.
  • Dylai helpu i gyflawni amcanion cyllidol a pholisi ehangach, yn enwedig cefnogi swyddi a thwf economaidd.
  • Dylai fod yn syml, yn glir, yn raddoledig ac yn sefydlog, gydag eglurder ac effeithlonrwydd deddfwriaethol a gweinyddol.
  • O ystyried rôl graidd trethiant wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus, bydd yn hanfodol ymgysylltu â threthdalwyr am elfennau cyffredinol a phenodol trethi Cymru.

Atal a’r tymor hir

1.7 Mae'r cynigion deddfwriaethol a gyflwynir gan y Ddeddf hon yn fesur ataliol i alluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn ystwyth pan fydd angen newid Deddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd. Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen yr ymyriad hwn i ddiogelu’r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, bob tro y ceir cylch cyllideb yn y DU, mae risg y gallai newid gael ei wneud sy'n effeithio ar drethi datganoledig ac sy’n cael effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Cymru.

1.8 Nod y Ddeddf yw cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â bwlch yn y tymor byr – sef y diffyg mecanwaith hyblyg i ymateb i angen dybryd i wneud newid i Ddeddfau Trethi Cymru – ond hefyd i ddiwallu anghenion hirdymor. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn anelu at gyd-fynd â chyd-destun tymor hwy os bydd diwygiadau i'r fframwaith cyllidol yn y dyfodol. Gellir ei hystyried yng nghyd-destun strategaeth dreth ehangach, gan gynnwys diwygio a chryfhau'r berthynas â llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill.

1.9 Er enghraifft, bydd angen i swmp y rheoliadau a gynhyrchir o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon gael ei adolygu’n barhaus fel rhan o ystyriaethau yn y dyfodol o ran pa bensaernïaeth hirdymor sy'n gyfrwng deddfwriaethol priodol i Gymru – boed hynny, neu beidio, yn Fil 'Trethi Datganoledig' blynyddol. Fodd bynnag, nid mater o ‘naill ai/ neu’ yw hyn, oherwydd hyd yn oed os bydd gan Gymru Fil Trethi Datganoledig blynyddol ystyrir y bydd angen mecanwaith o hyd i ymateb i ddigwyddiadau y tu allan i gylch y Bil hwnnw er mwyn diogelu cyllid Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru.

Cydweithio a chynnwys

1.10 Ar ôl i’r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi gael eu datganoli yn 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried dros y 3 blynedd ddiwethaf, gyda chymorth ein rhanddeiliaid a’n partneriaid, beth fyddai'r dulliau cywir a phriodol o sicrhau y gellir gwneud newidiadau i “Ddeddfau Trethi Cymru” ar fyr rybudd o dan rai amgylchiadau. Mae’r cydweithio ar ddatblygu'r Ddeddf hon yn adlewyrchu natur dechnegol y cynigion. Cafodd ymgynghoriad polisi 2020 Datganoli Trethi yng Nghymru –ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru nifer bach ond rhesymol o ymatebion gan gyrff treth a chyfrifyddiaeth proffesiynol yn bennaf. Mae'r cynnig polisi a'r darpariaethau deddfwriaethol drafft yn deillio o weithio'n agos a rhannu syniadau ac arbenigedd gyda rhanddeiliaid. Ar ben hynny, mae'r Datganiad Polisi ar ddefnyddio'r pŵer gan Weinidogion Cymru yn ôl-weithredol hefyd wedi'i baratoi ar y cyd a chan ymgynghori â rhanddeiliaid sy'n arbenigo ar drethi. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) hefyd wedi bod yn bartner allweddol sy'n ymwneud â datblygu'r cynnig a chynllunio'r modd y caiff ei gyflawni.

1.11 Mae ymgysylltu ehangach yn digwydd yn barhaus hefyd â rhanddeiliaid ynghylch trethiant datganoledig yn fwy cyffredinol. Cydnabyddir ei bod yn bwysig parhau i godi ymwybyddiaeth o drethi Cymreig ac rydym yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau cyllidol mawr, megis Cyllideb Cymru, er mwyn gwella dealltwriaeth o oblygiadau datganoli cyllidol i bobl a busnesau.

1.12 Mae gennym bartneriaethau gweithio cryf ag ACC a CThEM er mwyn i wybodaeth allweddol allu cael ei rhannu’n gyflym ac yn effeithiol drwy sianeli gweithredol sefydledig. Mae'r rhain yn cynnwys cynhadledd flynyddol Trysorlys Cymru a gweithio gyda chyrff proffesiynol. Mae'r Grŵp Ymgysylltu ar Drethi yn galluogi trafodaethau am ddatblygiadau o ran polisi trethi â'r rhai a all gynrychioli barn trethdalwyr Cymreig. Ceir manylion pellach am y gweithgarwch ymgysylltu yn fwy cyffredinol yn Adran 13 o'r Adroddiad ar Bolisi Trethi Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr 2021 (Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru Mawrth 2021). Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth fel y'i nodir yn Fframwaith Polisi Trethi Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ddiweddaru.

Effeithiau

1.13 Mae'r Ddeddf yn gweithredu i roi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol. Felly, prin yw'r effeithiau o ganlyniad i'r Ddeddf yn uniongyrchol. Byddai asesiad effaith ar wahân yn cael ei gwblhau bob tro y defnyddir y pwerau i wneud rheoliadau i weithredu newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnwys yr is-ddeddfwriaeth lle yr ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny. Bydd union natur yr ymgynghoriad yn dibynnu ar natur y cynigion a’r amser sydd ar gael.

1.14 At ei gilydd, mae trethi datganoledig yn codi refeniw i ariannu gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Gall trethiant datganoledig fod yn sbardun pwerus i ddylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chynhyrchu refeniw i gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion Cymru, a'n galluogi i ddatblygu trethi mwy blaengar. Mae hefyd yn ein galluogi i ddatblygu dull mwy strategol o ymdrin â threthiant canolog a lleol yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn gallu mynd i'r afael yn well ag anghenion a blaenoriaethau dinasyddion a busnesau.

1.15 Ochr yn ochr â'r costau a'r manteision a gyflwynir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ystyriwyd nifer o effeithiau posibl eraill a chynhaliwyd asesiad effaith integredig. Ceir crynodeb o’r asesiadau effaith isod.

1.16 Mae’n ofynnol i’r Gweinidogion roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth gyflawni unrhyw rai o’u swyddogaethau. Mae canlyniadau’r asesiad hwn yn dangos nad oes unrhyw effeithiau negyddol posibl ar blant a phobl ifanc yn sgil y Ddeddf. Mae’r asesiad effaith llawn ar gael yn Atodiad 1.

1.17 Daeth Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r casgliad nad yw’r ddeddfwriaeth yn cael unrhyw effeithiau penodol ar bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Fodd bynnag, gallai peidio â gweithredu’r ddeddfwriaeth hon arwain at lai o refeniw i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Byddai hyn, yn ei dro, yn golygu llai o gyllid i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus Cymru. Gellid dadlau y byddai unrhyw ostyngiad mewn refeniw yn debygol o gael effaith neu anfantais fwy ar aelwydydd incwm is yng Nghymru, gan fod y rhai sy’n elwa fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus yn tueddu i fod y rhai ar incwm is na’r cyfartaledd. Mae rhai grwpiau gwarchodedig yn fwy tebygol o fod yn y categori hwn. Felly, gellid ystyried bod cyflwyno’r Ddeddf hon a diogelu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yn gam cadarnhaol anuniongyrchol i’r grwpiau hyn. Mae asesiad effaith llawn ar gael ar gais.

1.18 Ystyriwyd cydnawsedd y Ddeddf â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Mae'r dadansoddiad hwnnw wedi canfod nad yw'r Bil yn debygol o gynnwys darpariaethau sy'n anghydnaws â'r Confensiwn. Nid yw'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith ôl-weithredol. Cydnabyddir y gall deddfwriaeth sy'n effeithio ar drafodion neu ddigwyddiadau yn y gorffennol, hyd yn oed os nad yw’n dechnegol ôl-weithredol, gyffwrdd â'r hawliau a nodir yn Atodlen 1 i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ("hawliau'r Confensiwn”). Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y Ddeddf yn taro cydbwysedd priodol rhwng rôl y ddeddfwrfa wrth graffu ar newidiadau i bolisi trethi, Rheol y Gyfraith a natur unigryw newidiadau polisi trethi a'u heffeithiau cyllidol ac economaidd uniongyrchol. Mae budd i’r cyhoedd mewn rheoli'r newidiadau hynny er mwyn cynnal cysondeb refeniw ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus ehangach ac osgoi ansefydlogrwydd yn y farchnad. Nid yw'r dull a gynigir yn ddigynsail ac rydym o'r farn bod y dadleuon o ran budd i’r cyhoedd yn glir.

1.19 Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data a ddaeth i'r casgliad nad yw'r Ddeddf yn creu unrhyw ofynion newydd sy'n ymwneud â phreifatrwydd na rhannu gwybodaeth. Ni fydd unrhyw effaith o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon.

1.20 Mae'r effaith ar y Gymraeg wedi'i harchwilio drwy Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg a ddaeth i'r casgliad nad fyddai’r ddeddfwriaeth yn cael unrhyw effaith benodol ar ddefnyddio'r Gymraeg nac ar gymunedau Cymraeg. Bydd y Ddeddf yn helpu i weithredu’r trethi datganoledig yn effeithiol. Gall hyn, yn ei dro, helpu i gyflawni ein hamcanion polisi o ran y Gymraeg yn uniongyrchol. Mae asesiad effaith llawn ar gael ar gais.

1.21 Daeth ystyriaeth o effaith y ddyletswydd ar fioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac adnoddau naturiol i'r casgliad na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y meysydd hyn. Nid oes angen Asesiad Amgylcheddol Strategol nac Asesiad o’r Effaith ar Gyllidebau Carbon.

1.22 Mae'r Asesiad Statudol o'r Effaith ar Gyfiawnder yn crynhoi canlyniad yr ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Daeth yr asesiad i'r casgliad nad yw'r cynigion yn debygol o gael unrhyw effaith ar y system gyfiawnder, neu mai effaith fach y byddent yn ei chael. Mae’r asesiad effaith ar gael yn Atodiad B.

1.23 Daeth yr asesiad sgrinio prawfesur gwledig i'r casgliad nad oes unrhyw effaith negyddol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon.

1.24 Daeth asesiad effaith economaidd-gymdeithasol i'r casgliad nad oes unrhyw effaith negyddol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Un o fanteision anuniongyrchol unrhyw reoliadau yn y dyfodol a alluogir gan y pwerau yn y ddeddfwriaeth hon fyddai diogelu refeniw Cymru ac, o ganlyniad, diogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Costau ac arbedion

1.25 Nodir goblygiadau ariannol y Ddeddf yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol, yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a gyhoeddwyd fel rhan o ddogfennaeth y Ddeddf wrth ei gyflwyno.

2. Casgliad

Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

2.1 Mae Deddf Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i "Ddeddfau Trethi Cymru" drwy reoliadau pan fydd digwyddiad allanol penodedig yn digwydd. Yn gyffredinol, dim ond os/pan fydd mater penodol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn dewis ymdrin â hwy drwy gyflwyno rheoliadau, gan ddefnyddio’r pwerau yn y Ddeddf, y mae'n debygol y bydd y cynnig yn effeithio ar bobl. Byddai asesiad effaith ar wahân, gan gynnwys costau, yn cael ei gynnal bob tro y defnyddir y pŵer i wneud rheoliadau. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cynnwys yr is-ddeddfwriaeth pan ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny. Byddai union natur yr ymgynghoriad hwnnw yn cael ei benderfynu pan fyddai’r cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn cael eu datblygu.

2.2 Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar bobl (gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; plant a'u cynrychiolwyr, a siaradwyr Cymraeg) o ganlyniad i'r Ddeddf ar ei phen ei hun, ac adlewyrchir hyn, a natur dechnegol y cynigion, yn y ffordd y mae'r cyhoedd a rhanddeiliaid wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Ddeddf hon.

2.3 Cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Gorffennaf a 15 Hydref 2020, gyda'r bwriad o gael barn rhanddeiliaid i lywio datblygiad pellach y ddeddfwriaeth ac i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Fe'i dosbarthwyd i randdeiliaid yn electronig, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

2.4 Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu allanol rhithwir gyda chynrychiolwyr sefydliadau rhanddeiliaid. Cafodd yr ymgynghoriad nifer fach ond rhesymol o ymatebion, a hynny oddi wrth gyrff treth a chyfrifyddiaeth proffesiynol yn bennaf. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar 20 Rhagfyr 2020. Yn ystod hydref 2021, cynhaliwyd sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yr ymddiriedir ynddynt, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y newidiadau polisi a gyflwynwyd ers ymgynghoriad 2020, a hefyd i rannu adrannau o'r ddeddfwriaeth ddrafft. Cawsom gefnogaeth barhaus i'r egwyddorion polisi sy'n sail i'r ddeddfwriaeth hon – ac yn benodol pa mor anodd yw hi ar hyn o bryd i Weinidogion Cymru allu ymateb yn briodol i newidiadau polisi treth a wneir gan lywodraeth y DU sy'n effeithio ar drethi datganoledig. Yn yr un modd, rhannwyd drafft o'r datganiad polisi ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau ag effaith ôl-weithredol. Mae Awdurdod Cyllid Cymru hefyd wedi bod yn bartner allweddol wrth ddatblygu'r cynnig a chynllunio'r modd y caiff ei roi ar waith.

Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

2.5 Diben bwriedig Gweinidogion Cymru wrth gyflwyno'r Ddeddf hon yw galluogi i newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru gael eu gwneud drwy reoliadau pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn ofynnol i newidiadau o'r fath gael effaith ar unwaith neu'n fuan wedi hynny. Caniateir y newidiadau hynny er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol, fel y nodir ym mharagraff 1.1

2.6 Mae angen yr ymyriad hwn yn bennaf i ddiogelu’r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, er enghraifft, bob tro y bydd cylch cyllideb yn y DU, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y risg y gallai fod newid sy'n effeithio ar dreth ddatganoledig ac sy'n cael effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau ac na all Gweinidogion Cymru ymateb iddo mewn modd amserol. Gall ymyriad o'r math hwn fod yn briodol hefyd pan fo angen i Drysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru ‘gau’ cynlluniau osgoi trethi yn gyflym neu sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol. Fel y nodir ym mharagraff 1.5, mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn cyfrannu'n gadarnhaol at y nod llesiant cenedlaethol o 'Gymru lewyrchus', gan gydnabod rôl graidd trethiant wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

2.7 Ni fydd y ddeddfwriaeth sylfaenol yn cael fawr o effaith ar bobl a chymunedau, y Gymraeg a'r amgylchedd. Ni fyddai unrhyw effaith ar bobl a chymunedau ond yn amlwg os/pan fyddai mater penodol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn dewis mynd i'r afael â hwy drwy gyflwyno rheoliadau gan ddefnyddio’r pŵer yn y Ddeddf hon. Yn yr achos hwn, mae'r math o effaith yn debygol o gael ei gyfyngu i grwpiau penodol o unigolion neu gyrff corfforedig. Gallai hyn amrywio o'r rhai sy'n ceisio osgoi treth, i dalwyr treth sy’n prynu eiddo preswyl newydd. Byddai asesiad effaith penodol a fyddai'n cynnwys ystyried yr effeithiau ar bobl a chymunedau, y Gymraeg a'r amgylchedd yn cael ei gynnal ar unrhyw reoliadau a gyflwynir.

Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:

i. Yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,

2.8 Nododd Llywodraeth Cymru yn yr ymgynghoriad yn 2020 Datganoli Trethi: Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru dair mantais allweddol i gyflwyno Deddfau Trethi Cymru:

  • Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau cyhoeddus yng Nghymru
  • Cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru eu buddsoddi i wella llesiant
  • Darparu ysgogwyr cyllidol gwell ar gyfer Gweinidogion Cymru, a defnyddio'r ysgogwyr hynny i wella canlyniada i bobl Cymru.

2.9 Mae'r manteision hyn yn cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016. Nod y Ddeddf honno yw gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru a helpu i greu gwlad yr ydym i gyd yn awyddus i fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

ii. Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau cyhoeddus yng Nghymru, i gynyddu'r effaith ar y Nodau Cenedlaethol

2.10 Bwriedir i'r ddeddfwriaeth ddarparu dull ychwanegol o fynd i'r afael yn gyflym â gweithgarwch osgoi a ganfyddir, gan sicrhau bod y rhai sy'n agored i dalu trethi datganoledig Cymru yn talu'r swm cywir o dreth. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ei chyllid a ddefnyddir i gyllido gwasanaethau cyhoeddus. Bydd costau methu ag atal gweithgarwch osgoi mor gyflym â phosibl yn dibynnu ar y gweithgarwch a dargedir. Gallai fod yn gyfystyr â cholli symiau sylweddol o refeniw trethi.

iii. Cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru eu buddsoddi er mwyn gwella llesiant

2.11 Mae'r ddeddfwriaeth yn cefnogi'r nod o gael system casglu a rheoli trethi sy’n bodloni blaenoriaethau Cymru. Mae'n darparu offeryn ychwanegol i sicrhau y gall Gweinidogion Cymru wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru mewn ffordd hyblyg a chymesur, yn enwedig mewn ymateb i lywodraeth y DU yn gwneud newidiadau i drethi rhagflaenol a allai effeithio ar adnoddau cyffredinol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ei chyllid a ddefnyddir i gyllido gwasanaethau cyhoeddus, neu ddarparu gostyngiadau treth i drethdalwyr yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

iv. Darparu gwell ysgogiadau cyllidol i Weinidogion Cymru

2.12 Nod y Ddeddf yw sicrhau bod gan Weinidogion Cymru ysgogiad cyllidol ychwanegol i ymateb i amgylchiadau allanol a gwneud newidiadau drwy is-ddeddfwriaeth (gan ddefnyddio naill ai'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’) mewn meysydd o Ddeddfau Trethi Cymru lle mai'r unig opsiwn ar hyn o bryd fyddai cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, gydag amserlenni hwy, neu ddeddfwriaeth frys (neu mewn rhai achosion y pwerau cadarnhaol drafft sy'n bodoli eisoes ond lle tybir bod angen cyflwyno'r newid ar unwaith).

2.13 Nodwedd allweddol o ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ o dan rai amgylchiadau yw y gellir rhoi effaith y newidiadau ar waith ar unwaith, gan gynyddu, diogelu neu leihau refeniw, gan ddibynnu ar bolisi Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn rhoi mwy o eglurder i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr gan y bydd y newidiadau’n cael eu gwneud i’r ddeddfwriaeth yn gyflym. Bydd galluogi Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau ar unwaith i'r trethi datganoledig yn lleihau'r effaith bosibl ar adnoddau cyffredinol Llywodraeth Cymru hefyd. Mae galluogi newidiadau deddfwriaethol i gael effaith ar unwaith hefyd yn sicrhau y gall trethdalwyr elwa o'r newidiadau hynny cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn rhoi gwell rheolaeth i Weinidogion Cymru dros y refeniw o drethi datganoledig, ac felly dros gyllideb Cymru. Mae hyn yn unol â'r nod llesiant o greu Cymru ffyniannus, gan alluogi Gweinidogion Cymru i ddefnyddio gwell ysgogiadau cyllidol i wella canlyniadau pobl Cymru cyn gynted â phosibl.

2.14 Yn olaf, mantais ychwanegol yw y bydd yr ysgogiad cyllidol gwell hwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng Gweinidogion Cymru a Llywodraeth y DU, gan fod llywodraeth y DU eisoes yn gallu gwneud newidiadau i drethi sy'n bodoli eisoes ar unwaith drwy Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 ac, yng nghyswllt treth dir y dreth stamp, drwy bwerau gwneud rheoliadau (Section 109 Finance Act 2003).

2.15 Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol Deddf Deddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu) a'r prosesau y gellir eu rhoi ar waith i liniaru'r effeithiau negyddol. Ar y cyfan, ein barn ni yw bod ein dull o weithredu'r Ddeddf yn cefnogi ein nod cyfreithlon i helpu i ddiogelu refeniw Llywodraeth Cymru.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?

2.16 Mae'r Bil yn rhoi pwerau i'w defnyddio yn y dyfodol drwy is-ddeddfwriaeth fel y bo angen. Mae hyn yn golygu na chaiff unrhyw beth ei roi ar waith pan gaiff y Bil y Cydsyniad Brenhinol neu pan gaiff ei gychwyn. Fodd bynnag, gellir asesu effaith y Bil hwn a'r rheoliadau cysylltiedig mewn sawl ffordd. Er ei fod yn bosibl pennu amserlen adolygu benodol, byddai angen ystyried y posibilrwydd na fydd y pwerau wedi cael eu defnyddio, neu na fyddant wedi cael eu defnyddio'n helaeth, cyn yr adolygiad.

2.17 Rhoddir dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediaeth ac effaith y Ddeddf a chyhoeddi casgliadau’r adolygiad hwnnw cyn pen 4 blynedd o’r dyddiad y daeth y Ddeddf i rym. Cynhelir yr adolygiad fel un rhwymedigaeth benodol, ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw adolygiadau pellach o’r ddeddfwriaeth.

2.18 Ar ôl i gasgliadau’r adolygiad gael eu cyhoeddi, bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi datganiad i gadarnhau a gaiff y rheoliadau a ganiateir drwy adran 7 o’r Bil i ymestyn oes y pŵer gwneud rheoliadau eu gwneud ai peidio.

Atodiad 1: Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

1.1 Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gweithredu drwy alluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Felly, nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol o ganlyniad i'r Ddeddf ei hun, ac nid yw’r Ddeddf ar ei phen ei hun yn debygol o gael unrhyw effaith ar blant a phobl ifanc. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny. Penderfynir ar union natur yr ymgynghoriad gan ddibynnu ar natur y cynigion a’r amser sydd ar gael. Byddai asesiad effaith ar wahân yn cael ei gwblhau bob tro y defnyddid y pŵer i wneud rheoliadau i weithredu newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, gan gynnwys ystyried yr effaith ar blant a phobl ifanc.

1.2 Prif effaith arfaethedig y ddeddfwriaeth yw rhoi mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru a godir drwy drethi datganoledig, ac i osgoi goblygiadau andwyol i fusnesau, y farchnad eiddo, yr amgylchedd a'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae trethi datganoledig yn codi refeniw i ariannu gwariant cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

1.3 Gallai peidio â gweithredu'r ddeddfwriaeth hon arwain at lai o refeniw i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, a fyddai yn ei dro yn golygu llai o adnoddau i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys, er enghraifft, ysgolion, gwasanaethau iechyd, darpariaeth y blynyddoedd cynnar), a allai gael effaith ar blant a phobl ifanc. Mae’r Ddeddf hon, drwy ddiogelu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, yn gam cadarnhaol anuniongyrchol er mwyn plant a phobl ifanc.

1.4 Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol ar blant a phobl ifanc o ganlyniad i'r Ddeddf hon.

2. Sut mae eich darn o waith yn cefnogi ac yn hyrwyddo hawliau plant?

2.1 Nid yw'r Ddeddf ei hun yn effeithio ar blant a phobl ifanc gan mai ei phrif swyddogaeth yw darparu pŵer gwneud rheoliadau y gall Gweinidogion Cymru ei ddefnyddio i ymateb i ddigwyddiadau allanol penodol sy’n effeithio ar Gyllideb Llywodraeth Cymru neu ar drethdalwyr Cymru. Mae gan y pŵer i wneud rheoliadau a ddarperir gan y Ddeddf y potensial i gefnogi llawer o'r erthyglau o fewn y Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn anuniongyrchol gan mai'r prif nod yw diogelu refeniw Cymru a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau cyhoeddus sydd o fudd i blant a phobl ifanc. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ysgolion ac ysbytai neu ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.

Atodiad 2: Asesiad o’r effaith ar gyfiawnder

1.1 Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau'r ddeddfwriaeth hon ar y system gyfiawnder yw nad yw'n cael unrhyw effaith neu nad yw’n cael fawr o effaith.

1.2 Y rheswm dros hyn yw:

  • Mae'r Ddeddf yn gweithredu i roi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol pan fo'n ofynnol i newid i Ddeddfau Trethi Cymru, neu reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny, gael effaith ar unwaith neu'n fuan iawn wedi hynny.
  • Felly, nid oes unrhyw effaith ar y system gyfiawnder o ganlyniad uniongyrchol i'r Ddeddf.
  • Byddai asesiad effaith rheoleiddiol ar wahân, gan gynnwys effaith unrhyw is-ddeddfwriaeth ar y system gyfiawnder os yw'n berthnasol, yn cael ei gwblhau pan ddefnyddir y pwerau a ddarperir gan y Ddeddf i wneud rheoliadau i weithredu newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.
  • Felly, nid yw gweddill y ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder wedi'i chwblhau.

1.3 Mae'r Ddeddf yn galluogi i newidiadau o'r fath gael eu gwneud drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a allai, ar adegau prin, gynnwys darpariaeth ôl-weithredol, yn dibynnu ar ofynion deddfwriaethol y sefyllfa. Nid oes unrhyw effaith ar y system gyfiawnder o ganlyniad uniongyrchol i'r Ddeddf.

1.4 Effaith fwriadedig y Ddeddf yw rhoi mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru ar unwaith er mwyn osgoi goblygiadau andwyol i fusnesau, y farchnad eiddo, yr amgylchedd a'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Heb yr opsiwn hwn, gallai Llywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa lle y mae angen iddi weithredu â chyllideb lai neu ddod o hyd i ffyrdd eraill o godi refeniw o'r fath er mwyn cynnal y lefelau presennol o adnoddau.