Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Chwefror 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 72 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
This consultation document seeks views on commencing the provision within the Equality Act 2010.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ddarpariaeth sy’n gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymhorthion ategol yn rhan o’u dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer plant anabl.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi y bydd un o Weinidogion Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gychwyn y ddyletswydd newydd sy’n ymwneud â chymhorthion ategol llunio unrhyw reoliadau dan adran 22 o Ddeddf 2010 a chynnal unrhyw ymgynghoriad ynghylch y materion hyn yng nghyswllt Cymru. Fodd bynnag mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i ymgynghori yng nghyswllt Cymru ar ran Gweinidog y DU dan adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio ymatebion ynghylch dau fater. Yn gyntaf y dyddiad y dylai’r ddyletswydd newydd ddod i rym gan gynnwys yr angen i ystyried a oes unrhyw resymau pam na ddylai’r ddyletswydd gychwyn neu pam y dylai’r ddyletswydd gychwyn yn hwyrach na mis Medi 2012. Yn ail a fyddai rheoliadau dan adran 22 o Ddeddf 2010 yn angenrheidiol i ddiffinio’r ddyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymhorthion ategol.