Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu darpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’).
Cynnwys
DCRhT/9010 Cyflwyniad
Mae’n rhaid i ACC allu gwneud yn siŵr bod y symiau cywir o dreth wedi’u talu ar yr adeg iawn er mwyn cyflawni ei swyddogaeth gyffredinol, sef casglu a rheoli trethi datganoledig. Er mwyn gwneud hyn, mae’n bosibl y bydd angen iddo wneud y canlynol:
- rhoi hysbysiadau gwybodaeth, casglu gwybodaeth ac archwilio dogfennau, neu
- archwilio mangre ac unrhyw offer neu ddogfennau sy’n cael eu cadw yn y fangre honno
DCRhT/9020 Golwg Gyffredinol ar Hysbysiadau Gwybodaeth
Caiff ACC ddefnyddio'r mathau canlynol o hysbysiadau gwybodaeth i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu ddogfen:
- Hysbysiadau trethdalwr
- Hysbysiadau trydydd parti
- Hysbysiadau trydydd parti anhysbys
- Hysbysiadau adnabod
Caiff ACC roi hysbysiadau cyswllt dyledwr hefyd, sy’n dod o dan ofynion a gweithdrefnau gwahanol.
Caiff ACC roi hysbysiad gwybodaeth pan fydd angen cael yr wybodaeth neu’r ddogfen y gofynnir amdani at ddibenion gwirio “sefyllfa dreth” person, ac os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen.
Caiff ACC naill ai bennu neu ddisgrifio’r wybodaeth neu’r dogfennau a geisir. Mae hyn yn golygu efallai y bydd ACC yn gofyn am ddogfen benodol (ee dogfen gontract benodol), dogfennau o fath penodol, neu ddogfennau sy’n cynnwys math penodol o wybodaeth (ee unrhyw ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â thrafodiad penodol, neu â chyfnod penodol o amser).
Mae’r cysyniad o “sefyllfa dreth” rhywun yn eang, ac mae’n cynnwys rhwymedigaeth person i dalu unrhyw dreth ddatganoledig neu gosbau cysylltiedig, llog ac unrhyw symiau perthnasol eraill a dalwyd (neu a all fod yn daladwy) gan y person yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys symiau cysylltiedig a all fod yn daladwy i’r person gan ACC.
Felly, mae modd defnyddio hysbysiad gwybodaeth yng nghyswllt ymholiad sydd ar y gweill i ffurflen dreth neu hawliad neu i helpu ACC i ddyfarnu neu asesu. Mae’n debyg mai anaml iawn fyddai rhwymedigaeth bosibl person yn y dyfodol yn cael ei gwirio, ond gall fod yn berthnasol, er enghraifft, yng nghyswllt rhai mathau o drafodiadau tir sy’n cael eu cynnal dros gyfnod hir ac y gallai ffurflen dreth gael ei dychwelyd cyn y bydd yr holl rwymedigaeth ar gyfer treth wedi codi mewn cysylltiad â hyn.
Mewn rhai amgylchiadau, dim ond pan fydd y tribiwnlys yn cymeradwyo hynny y bydd hysbysiad gwybodaeth yn cael ei roi.
Mae nifer o gyfyngiadau sy’n atal ACC rhag darparu gwybodaeth benodol neu ddogfennau penodol mewn amgylchiadau arbennig.
Pan fydd hysbysiad gwybodaeth yn cael ei roi, mae’n rhaid i’r sawl sy’n ei dderbyn gydymffurfio â’r hysbysiad.
DCRhT/9030 Hysbysiadau trethdalwr
Caiff ACC roi hysbysiad trethdalwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r sawl sy’n derbyn yr hysbysiad (y trethdalwr) gyflwyno gwybodaeth neu ddogfen i ACC. Mae’n rhaid i’r tribiwnlys gymeradwyo hysbysiad trethdalwr.
DCRhT/9040 Hysbysiadau trydydd parti
Caiff ACC roi hysbysiadau trydydd parti sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy’n ei dderbyn ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen mewn cysylltiad â pherson arall (y trethdalwr). Ni chaiff ACC roi hysbysiad trydydd parti heb gymeradwyaeth y tribiwnlys neu gytundeb y trethdalwr.
Mae’n rhaid i hysbysiad trydydd parti enwi’r trethdalwr ac mae’n rhaid rhoi copi ohono i’r trethdalwr. Ond gall y tribiwnlys ddatgymhwyso un o'r gofynion hyn neu’r ddau os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai enwi’r trethdalwr neu roi copi o'r hysbysiad i’r trethdalwr niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu’r dreth yn ddifrifol.
Mae nifer o ofynion ychwanegol yn berthnasol yng nghyswllt hysbysiad trydydd parti sy’n cael ei roi yng nghyswllt grŵp o ymgymeriadau neu bartneriaeth.
Grŵp o Ymgymeriadau
Pan fydd hysbysiad trydydd parti yn cael ei roi i berson at ddibenion gwirio sefyllfa dreth rhiant-ymgymeriad neu unrhyw rai o’i is-gwmnïau:
- rhaid i’r hysbysiad nodi ei ddiben (yn ogystal â bodloni’r gofynion eraill sy’n ymwneud â hysbysiadau trydydd parti); ac
- ystyrir mai’r rhiant-ymgymeriad yw’r “trethdalwr” (at ddibenion cytuno â’r hysbysiad ac anfon copi ohono ato)
Partneriaethau
Pan fydd hysbysiad trydydd parti yn cael ei roi, at ddibenion gwirio sefyllfa dreth partneriaeth, i rywun nad yw’n un o’r partneriaid:
- rhaid i’r hysbysiad nodi ei ddiben (yn ogystal â bodloni’r gofynion eraill sy’n ymwneud â hysbysiadau trydydd parti) a rhoi enw cofrestredig y bartneriaeth (neu’r enw y mae’n cael ei adnabod wrtho), a
- rhaid rhoi copi o’r hysbysiad i un o’r partneriaid o leiaf
Caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso unrhyw rai o’r gofynion hyn os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai cydymffurfio â nhw niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi’n ddifrifol.
DCRhT/9050 Cymeradwyaeth y tribiwnlys i hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd parti
Ni chaiff ACC roi hysbysiad trethdalwr heb gymeradwyaeth y tribiwnlys. Ni chaiff ACC roi rhybudd trydydd parti heb gytundeb y trethdalwr neu gymeradwyaeth y tribiwnlys. Bydd y prawf y mae’n rhaid i’r tribiwnlys ei ddilyn wrth benderfynu a yw am gymeradwyo hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti yn dibynnu ar a yw’r derbynnydd wedi cael gwybod y bydd ACC yn gofyn am gymeradwyaeth.
Os nad yw’r derbynnydd wedi cael gwybod y bydd ACC yn gwneud cais i’r tribiwnlys gymeradwyo hynny, mae’n rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod y gofynion ar gyfer rhoi’r hysbysiad wedi’u bodloni; ac y gallai rhoi hysbysiad am y cais niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu’r trethi datganoledig.
Os yw’r derbynnydd wedi cael gwybod y bydd ACC yn gofyn am gymeradwyaeth y tribiwnlys, rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod: y gofynion ar gyfer rhoi’r hysbysiad priodol wedi’u bodloni; bod y sawl sy’n derbyn yr hysbysiad wedi cael gwybod am yr wybodaeth neu’r dogfennau y mae ACC yn gofyn amdanynt; a bod y derbynnydd wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau ynghylch y cais hwnnw i ACC. Pan fydd sylwadau’n cael eu gwneud, mae’n rhaid i ACC roi manylion y sylwadau hynny i’r tribiwnlys. Yn achos hysbysiad trydydd parti, mae’n rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod ACC wedi rhoi gwybod i’r trethdalwr sy’n destun yr hysbysiad pam ei fod yn gofyn am yr wybodaeth neu’r dogfennau.
Pan fydd y derbynnydd wedi cael gwybod bod ACC yn mynd i ofyn am yr wybodaeth neu’r dogfennau mewn hysbysiad ffurfiol, mae’n drosedd o dan adran 115 DCRhT os bydd person yn celu, yn difa neu’n cael gwared fel arall â'r wybodaeth neu’r dogfennau.
Caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso rhai o’r gofynion uchod os bydd rhoi hysbysiad o’r cais i’r trethdalwr neu drydydd parti yn niweidio'r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.
Caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y mae’n ystyried sy’n briodol (er enghraifft efallai y bydd y tribiwnlys yn credu ei bod yn rhesymol i ACC ofyn am rai dogfennau ond nid rhai eraill, ac efallai y bydd yn cyfyngu ar gwmpas yr hysbysiad gwybodaeth yn unol â hynny).
DCRhT/9060 Hysbysiadau trydydd parti anhysbys
Caiff ACC roi hysbysiad trydydd parti anhysbys, ar ôl i’r tribiwnlys gymeradwyo hynny, sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (y derbynnydd) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen sy’n ymwneud â sefyllfa dreth person na ŵyr ACC pwy ydyw neu ddosbarth o bersonau na ŵyr ACC pwy ydynt fel unigolion.
Er mwyn cymeradwyo hysbysiad trydydd parti anhysbys, mae’n rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon nad yw ACC yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth neu’r dogfennau o ffynhonnell arall. Mae’n rhaid i’r tribiwnlys hefyd fod yn fodlon bod sail resymol dros gredu y gallai’r person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’r personau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â nhw fod wedi methu (neu y gallant fethu) â chydymffurfio â’r gyfraith sy’n ymwneud â threthi datganoledig (er enghraifft, efallai fod gan ACC le i gredu nad yw’r person sy’n ymwneud â’r trafodiad tir am ddod ymlaen a dychwelyd ffurflen dreth). Caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y mae’n ystyried sy’n briodol.
DCRhT/9070 Hysbysiadau adnabod
Caiff ACC roi hysbysiad adnabod, os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo hynny, sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu rhywfaint o wybodaeth am berson (naill ai un person neu ddosbarth o bersonau), sef enw’r person, cyfeiriad hysbys olaf a dyddiad geni, er mwyn cadarnhau pwy yw’r trethdalwr. Caiff ACC roi hysbysiad adnabod pan fydd ganddo sail dros gredu y bydd y derbynnydd yn gallu canfod pwy yw’r trethdalwr (o’r wybodaeth sydd gan ACC) a bod y derbynnydd wedi cael gwybodaeth berthnasol am y trethdalwr wrth redeg busnes.
Er bod hysbysiad adnabod yn debyg i hysbysiad trydydd parti anhysbys, mae’r wybodaeth a all fod yn ofynnol yn llawer mwy cyfyngedig ac nid oes yn rhaid i ACC brofi bod sail dros gredu y gall fod y person anhysbys wedi methu â chydymffurfio â’r gyfraith sy’n ymwneud â threthi datganoledig. Ar sail ymarferol, mae’r drefn hon yn debygol o gael ei defnyddio pan fydd ACC yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd sy’n arwain at rwymedigaeth ar gyfer treth (ee trafodiad tir) ac mae’n dymuno cysylltu â’r personau sy’n gysylltiedig â hynny, ond nid yw’n gwybod pwy ydynt. Mae’n bosibl y bydd yn defnyddio’r pŵer hwn cyn cyrraedd unrhyw bwynt lle na fydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r gyfraith er mwyn iddo allu cysylltu â’r trethdalwr i roi cyfle iddo ef neu hi roi trefn ar ei f/materion treth.
DCRhT/9080 Hysbysiad cyswllt dyledwr
Caiff ACC roi hysbysiad (hysbysiad cyswllt dyledwr) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu manylion cyswllt (cyfeiriad person ac unrhyw wybodaeth gyswllt arall) ar gyfer person arall os bydd arno angen cysylltu â pherson sydd mewn dyled i ACC ond nad yw ACC wedi gallu cael gafael arno. Dim ond os yw person wedi cael gafael ar y manylion cyswllt wrth redeg busnes y gellir defnyddio’r weithdrefn hon. Ni ellir defnyddio’r weithdrefn hon i ofyn am wybodaeth gan elusennau na phobl sy’n darparu gwasanaethau i elusennau am ddim.
DCRhT/9090 Terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
Pan fydd tribiwnlys yn cymeradwyo hysbysiad gwybodaeth, rhaid i ACC roi’r hysbysiad hwnnw cyn pen 3 mis i gael y gymeradwyaeth honno, neu gyfnod byrrach os yw’r tribiwnlys yn pennu hynny.
DCRhT/9100 Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
Mae’n rhaid i’r sawl sy’n derbyn hysbysiad gwybodaeth gydymffurfio â’r hysbysiad a darparu’r wybodaeth neu’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt o fewn cyfnod o amser, lleoliad (na all fod yn rhywle sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) ac yn y dull a nodir yn yr hysbysiad gwybodaeth. Mae'r ddyletswydd i gydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth yn cael ei gohirio pan fydd y derbynnydd wedi gofyn am adolygu’r hysbysiad neu wedi apelio yn ei erbyn. Mae’n bosibl y bydd person nad yw’n cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth yn agored i gosb.
Pan fydd hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen, mae’n bosibl i’r person gydymffurfio drwy gyflwyno copi o’r ddogfen wreiddiol (oni bai fod yr hysbysiad yn gofyn yn benodol am y gwreiddiol, neu os yw ACC yn gofyn am hynny cyn pen 6 mis i gyflwyno’r copi).
DCRhT/9110 Cyfyngiadau cyffredinol
Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen os yw wedi ei chreu dros chwe blynedd cyn dyddiad yr hysbysiad, oni roddir yr hysbysiad gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys. Ni fydd modd rhoi hysbysiad gwybodaeth at ddiben gwirio sefyllfa dreth rhywun sydd wedi marw dros 4 blynedd ar ôl y farwolaeth. Dim ond os yw’r ddogfen yn ei feddiant neu os oes ganddo bŵer dros y ddogfen y bydd yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen.
Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth na dogfen (yn rhannol nac yn llawn) pan fo’n ymwneud ag adolygiad neu apêl sydd ar y gweill yng nghyswllt unrhyw dreth (pa un ai a yw’r dreth yn “dreth ddatganoledig” ai peidio). Er enghraifft, os yw CThEM yn cynnal ymholiad i ffurflen dreth hunanasesu incwm person, ni chaiff ACC ofyn am wybodaeth yng nghyswllt sefyllfa dreth ddatganoledig yr un person os yw’r wybodaeth hefyd yn gysylltiedig ag ymholiad gan CThEM.
Ni chaiff ACC ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu deunydd sydd wedi’i greu, wedi’i gaffael neu sydd ym meddiant rhywun fel arall at ddibenion newyddiaduraeth. Hefyd, ni chaiff ACC ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu cofnodion personol na gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chadw mewn cofnodion, fel cofnodion meddygol.
Ni chaiff ACC roi hysbysiad trethdalwr yng nghyswllt trafodiad neu gyfnod cyfrifyddu (i wirio sefyllfa dreth y rhain) pan fydd person wedi dychwelyd ffurflen dreth yng nghyswllt y trafodiad neu’r cyfnod cyfrifyddu hwnnw. Os yw ACC yn dymuno gwirio’r sefyllfa dreth yng nghyswllt y ffurflen dreth, dylai agor ymholiad i’r ffurflen dreth. Fodd bynnag, mae’n bosibl rhoi hysbysiad trethdalwr os oes hysbysiad ymholiad wedi’i roi ac os na gwblhawyd yr ymholiad (mewn geiriau eraill, mae’r hysbysiad yn rhan o gynnal yr ymholiad) neu pan fydd ACC yn amau bod problem gyda’r rhwymedigaeth ar gyfer treth a aseswyd (gan gynnwys unrhyw ryddhadau) ar gyfer y trafodiad neu gyfnod cyfrifyddu (mewn geiriau eraill, mae’r hysbysiad yn rhan o’r gwaith y mae ACC yn ei wneud wrth wneud dyfarniad ACC neu asesiad ACC).
Ni chaiff ACC ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno gwybodaeth na dogfennau sy’n gyfreithiol freintiedig. Mae hyn yn cyfeirio at wybodaeth neu ddogfennau sy’n elwa ar y cyfrinachedd sy’n codi rhwng cleient a chynghorydd cyfreithiol proffesiynol. Pan fydd anghydfod, tribiwnlys fydd yn penderfynu a yw deunydd yn freintiedig ai peidio. Hefyd, mae cyfyngiadau ar yr wybodaeth a’r dogfennau y bydd yn ofynnol i gynghorwr treth neu archwilydd eu darparu; yn gyffredinol, nid yw’n ofynnol i gynghorwyr treth ddarparu cyfathrebiadau rhyngddynt hwy a’u cleient; ac nid yw’n ofynnol i archwilwyr ddarparu gwybodaeth sy’n ymwneud â’u swyddogaeth archwilio.
DCRhT/9120 Golwg gyffredinol ar bwerau archwilio
Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre a’r asedau busnes a’r dogfennau sydd yno, pan fydd ganddo sail dros gredu bod hyn yn ofynnol at ddibenion gwirio sefyllfa dreth person. Nid oes gan ACC unrhyw bŵer o dan y darpariaethau hyn i ddefnyddio grym i gael mynediad i fangre. Ond os bydd person yn gwrthod caniatáu mynediad i fangre at ddibenion archwilio, mae’n bosibl y bydd yn agored i gosbau. Wrth gynnal archwiliad, rhaid i swyddog ACC gyflwyno tystiolaeth o’i awdurdod i wneud hynny pan fydd y meddiannydd neu unrhyw berson sy’n ymddangos fel pe bai’n gyfrifol am y fangre yn gofyn am hynny. Os na fydd y dystiolaeth hon yn cael ei chyflwyno, rhaid dod â’r archwiliad i ben.
DCRhT/9130 Pŵer i archwilio mangre busnes
Caiff ACC fynd i fangre (neu ran o fangre) os yw’n credu ei bod yn cael ei defnyddio i redeg busnes, ac archwilio’r fangre honno (gan gynnwys asedau a dogfennau sydd yno). Caiff wneud hynny pan fydd ganddo sail dros gredu bod yn rhaid archwilio at ddibenion gwirio sefyllfa dreth person. Dim ond gyda chytundeb meddiannydd y fangre neu gymeradwyaeth y tribiwnlys y caniateir cynnal archwiliad o’r fath.
Caiff ACC gynnal archwiliad ar unrhyw adeg a gytunwyd â meddiannydd y fangre neu ar adeg resymol os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad. Os nad yw ACC wedi cael cytundeb y meddiannydd, mae’n rhaid iddo roi hysbysiad o’r archwiliad i’r meddiannydd 7 niwrnod cyn y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal, oni bai fod y tribiwnlys yn fodlon y byddai rhoi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi yn ddifrifol.
Ni chaiff ACC fynd i unrhyw ran o’r fangre nac archwilio unrhyw ran ohoni, os yw’n cael ei defnyddio fel annedd yn unig.
Er mwyn gwirio sefyllfa dreth person yng nghyswllt Treth Gwarediadau Tirlenwi, caiff ACC fynd i fangre busnes trydydd person os oes gan ACC sail dros gredu bod y person yn ymwneud neu wedi bod yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwaredu deunydd a allai fod yn ddarostyngedig i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (naill ai mewn safle tirlenwi awdurdodedig neu mewn man arall).
DCRhT/9140 Cynnal archwiliadau
Mae gan ACC nifer o bwerau wrth gynnal archwiliad, gan gynnwys: mynd ag unrhyw berson(au) arall(eraill) gyda nhw i’r fangre (gan gynnwys swyddog heddlu os credir y bydd rhywun o ddifri yn ceisio rhwystro’r archwiliad); archwilio neu ymchwilio i unrhyw beth sy’n cael ei ystyried yn angenrheidiol o dan amgylchiadau’r archwiliad; rhoi cyfarwyddyd bod y fangre (neu unrhyw ran o’r fangre) yn cael ei gadael yn union fel y mae cyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad; y pŵer i gymryd samplau o ddeunyddiau o’r fangre, gan gynnwys drwy wneud tyllau arbrofol neu waith arall neu osod a chynnal a chadw cyfarpar monitro a chyfarpar arall yn y fangre; a marcio asedau i ddangos eu bod wedi cael eu harchwilio.
Ni chaiff ACC archwilio unrhyw ddogfennau na fyddai modd iddo gael gafael arnynt drwy gyfrwng hysbysiad gwybodaeth (er enghraifft, dogfen sy’n cynnwys deunydd sy'n gyfreithiol freintiedig).
Hefyd, caiff ACC fynd â chyfarpar neu ddeunyddiau sy’n angenrheidiol ar gyfer yr archwiliad i’r fangre busnes, os yw’r meddiannydd yn cytuno â hynny. Caiff ACC fynd â chyfarpar neu ddeunyddiau o’r fath heb gytundeb y meddiannydd, naill ai drwy gyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd (7 niwrnod ymlaen llaw) neu, heb roi hysbysiad pe byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn arwain at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi’n ddifrifol.
DCRhT/9150 Pŵer i archwilio mangre neu eiddo er mwyn prisio
Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre (gan gynnwys anheddau) ac unrhyw eiddo yn y fangre at ddibenion prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre os oes angen gwneud hynny at ddibenion gwirio sefyllfa dreth person.
Dim ond gyda chytundeb y meddiannydd (neu berson sy’n gyfrifol am y fangre os nad oes modd adnabod y meddiannydd) y caniateir archwiliad o’r fath, neu os bydd tribiwnlys wedi cymeradwyo hynny (ar yr amod bod y meddiannydd neu’r person sy’n gyfrifol am y fangre wedi cael rhybudd o 7 niwrnod o leiaf am yr archwiliad).
DCRhT/9160 Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre
Os nad yw meddiannydd y fangre yn cytuno i ganiatáu archwiliad (neu os nad yw’n cytuno i ACC arfer ei holl bwerau yn ystod archwiliad), gall ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo archwiliad ac arfer pwerau cysylltiedig.
Mae modd gwneud cais i’r tribiwnlys heb hysbysiad ac mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad o'r cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu’r trethi datganoledig.
Wrth gymeradwyo archwiliad, mae’n rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod yr archwiliad yn ofynnol at ddibenion gwirio sefyllfa dreth person.
Wrth gymeradwyo archwiliad at ddibenion prisio, mae’n rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod ACC wedi rhoi cyfle rhesymol i’r person y mae’n gwirio ei sefyllfa dreth a’r meddiannydd (os yw’n wahanol ac os oes modd ei adnabod) i gyflwyno sylwadau i ACC a rhaid i ACC gyflwyno crynodeb o unrhyw sylwadau i’r tribiwnlys.
Mae’n rhaid i ACC gynnal archwiliad cyn pen 3 mis i’r adeg y cymeradwyodd y tribiwnlys hynny, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach sy’n cael ei bennu gan y tribiwnlys.
DCRhT/9170 Pwerau ymchwilio pellach
Wrth archwilio mangre, caiff ACC gymryd copïau, dyfyniadau, mynd â dogfen ymaith a’i chadw am gyfnod rhesymol o amser. Pan fydd yn gwneud hynny, a phan fydd y person a gyflwynodd y ddogfen yn gofyn am hynny, rhaid i ACC (heb godi tâl ar y person) ddarparu copi o’r ddogfen a derbynneb ar ei chyfer yn ogystal â chopi o’r dderbynneb.
Caiff ACC gael gafael ar wybodaeth neu ddogfennau sy’n cael eu cadw ar ffurf electronig a chaiff archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur neu gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n berthnasol i'r ddogfen neu’r wybodaeth.
Bydd unrhyw berson sy’n rhwystro ACC neu archwilydd rhag arfer ei bwerau yn isadrannau (3) a (5) yn agored i gosb o dan adran 146.
DCRhT/9180 Troseddau sy’n ymwneud â hysbysiadau gwybodaeth
Mae’n drosedd celu, difa neu gael gwared fel arall â dogfen y mae gofyn ei chyflwyno o dan hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys (hyd yn oed os yw’r person wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad ynddo).
Mae hefyd yn drosedd celu, difa neu gael gwared fel arall â dogfen os yw ACC wedi dweud wrth berson ei fod yn bwriadu gofyn am gytundeb y tribiwnlys, ond nad yw wedi gwneud hynny eto.
Mae’n amddiffyniad pan fydd person yn dangos bod esgus rhesymol. Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan unrhyw rai o’r adrannau yn agored ar gollfarn ddiannod, i ddirwy neu ar gollfarn ar dditiad, i garchar am hyd at 2 flynedd, neu i ddirwy (neu’r ddau). Ym mhob achos mae gan y llys ddisgresiwn o ran swm y ddirwy.