Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT) penodau 7 – 8.
Cynnwys
DCRhT/2010 Hawlio ad-daliad
Mae 3 amgylchiad lle gellir gwneud cais am ad-daliad treth:
- os ydych chi'n credu eich bod wedi cael eich asesu ar gyfer treth fwy nag unwaith ar gyfer yr un trafodiad (o dan adran 62 DCRhT)
- os ydych chi'n credu eich bod wedi talu swm o dreth nad oedd yn daladwy, neu os oes asesiad neu benderfyniad ACC wedi pennu eich bod swm o dreth yn daladwy, a'ch bod yn anghytuno (adran 63 DCRhT)
- os ydych wedi talu swm o dreth yn unol â set o gyfraddau a bandiau, ond mae'r cyfraddau a'r bandiau hynny’n cael eu gwrthod wedi hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 63A DCRhT)
Rydym wedi creu ffurflenni ar-lein penodol ar gyfer hawlio gwahanol ad-daliadau.
Pan fyddwch wedi talu cyfraddau uwch ar eich trafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl ond wedi gwerthu eich prif breswylfa flaenorol wedi hynny ac yn dymuno gwneud cais am y gyfran uwch o'r dreth yn unol â'r rheolau, bydd hyn yn cael ei drin fel diwygiad o dan adran 41 DCRhT os bydd yn cael ei wneud cyn pen 12 mis o ddyddiad y ffurflen dreth. Os fydd yn fwy na 12 mis, bydd hyn yn cael ei drin fel hawliad o dan adran 63 DCRhT. Mae gennym ffurflen benodol ar gyfer ad-daliadau cyfraddau uwch, y gellir ei gweld trwy ddilyn y ddolen uchod.
DCRhT/2020 Gwneud hawliad
Fel yr amlinellwyd yn DCRhT/2010, mae gennym ffurflenni ar-lein penodol ar gyfer hawlio gwahanol fathau o ad-daliadau y dylid eu defnyddio lle bynnag y bo modd.
Pan fydd hawlydd yn hawlio ad-daliad, rhaid iddo fodloni’r canlynol:
- gwneud yr hawliad o fewn pedair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r taliad ar ffurf treth ddatganoledig, neu’r asesiad neu’r dyfarniad, yn ymwneud â hi
- darparu datganiad yn nodi bod holl fanylion yr hawliad yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred
- cadw cofnodion penodol y mae’n bosibl y bydd eu hangen i wneud hawliad cywir a chyflawn, a’u cadw’n ddiogel. Gallai’r hawlydd wynebu cosb os bydd yn peidio â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel yn ôl y gofyn
Dylai'r hawliad gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- cadarnhad o ba un o'r tri amgylchiad a amlinellir yn DCRhT/2010
- datganiad o’r swm o dreth ddatganoledig y bydd angen ei ryddhau neu ei ad-dalu er mwyn rhoi effaith i’r hawliad
- ar ba sail mae’r hawlydd yn credu bod yr asesiad dwbl wedi digwydd neu’r gordaliad treth, gan gynnwys manylion unrhyw daliad blaenorol
- dogfennau a datganiadau cefnogi, ac unrhyw wybodaeth y mae’n rhesymol i ACC ofyn amdani er mwyn pennu a yw'r hawliad yn gywir ac i ba raddau y mae’n gywir
Dim ond os bydd yr hawlydd neu rywun ar ei ran yn darparu tystiolaeth ddogfennol y bydd ACC yn derbyn hawliad.
Ni ddylid gwneud hawliad drwy ei gynnwys mewn ffurflen dreth.
Yn gyffredinol, bydd ACC yn trin ceisiadau am ad-daliadau sydd y tu hwnt i'r terfynau amser ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth fel hawliad posib o dan adran 62, 63 neu 63A DCRhT.
Rhoi effaith i hawliad
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro, bydd ACC yn:
- cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd
- ad-dalu neu ryddhau’r swm (os bydd yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad), ac
- os oedd yr hawlydd eisoes wedi talu’r swm dan sylw yn yr hawliad, ad-dalu'r swm gyda llog
Rheolau arbennig ar gyfer partneriaethau
Os cafodd swm y dreth dan sylw ei dalu’n wreiddiol gan unigolyn yn gweithredu ar ran partner cyfrifol neu bartner cynrychiadol, yr unig un a all wneud hawliad am ad-daliad o'r swm hwnnw yw partner cyfrifol sydd wedi'i enwebu gan yr holl bartneriaid cyfrifol a fyddai wedi bod yn atebol am dalu’r swm pe bai wedi bod yn ddyledus.
Os gwnaeth ACC asesiad neu ddyfarniad mewn perthynas ag unigolyn yn gweithredu ar ran partner cyfrifol neu bartner cynrychiadol, yr unig un a all wneud hawliad am ryddhau swm o dreth yw partner cyfrifol sydd wedi'i enwebu gan yr holl bartneriaid cyfrifol a fyddai wedi bod yn atebol am dalu’r swm pe bai'r asesiad neu'r dyfarniad wedi'u gwneud yn gywir.
Asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad
Pan wneir hawliad am ryddhad am ordaliad treth, a'r sail dros yr hawliad hwnnw ydy'r sail i ACC gynnal asesiad ar yr hawlydd mewn perthynas â’r dreth, yna gall ACC ddiystyru cyfyngiadau penodol ar ei allu i wneud asesiad. Mae’r rhain yn cynnwys diystyru diwedd terfyn amser. Mewn amgylchiadau o’r fath, nid yw asesiad ACC oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud cyn dyfarnu’n derfynol ar yr hawliad.
Nid yw hawliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol nes bod y swm y mae’n berthnasol iddo’n derfynol (ee yn dilyn canlyniad adolygiad neu apêl).
Setliadau contract
Mewn rhai amgylchiadau, mae’r person sy’n talu swm i ACC o dan setliad contract a’r trethdalwr y mae’r rhwymedigaeth dreth yn berthnasol iddo yn wahanol.
Mewn achosion o’r fath, rhaid i unrhyw hawliad am ad-daliad mewn perthynas â swm sydd wedi'i dalu o dan setliad contract gael ei wneud gan unigolyn sy’n atebol am dalu o dan y setliad contract (yr hawlydd), p’un ai rhwymedigaeth treth yr unigolyn hwn (y trethdalwr) oedd dan sylw yn y cytundeb neu beidio. Efallai mai dyma fydd yr achos, er enghraifft, pan fydd partner wedi'i enwebu mewn partneriaeth eiddo yn ymrwymo i setliad contract ag ACC ar ran y bartneriaeth neu bartner arall yn y bartneriaeth. Y partner sydd wedi'i enwebu yn yr achos hwn fyddai’n gorfod gwneud yr hawliad am yr ad-daliad.
Lle bo hawliad o’r fath yn cael ei wneud sy’n rhoi sail i ACC wneud asesiad yn erbyn y trethdalwr (gweler uchod), gall unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r hawlydd gael ei wrth-hawlio yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i'r asesiad. Caiff rhwymedigaethau ACC a'r trethdalwr eu rhyddhau i’r graddau (a dim ond i'r graddau) bod un rhwymedigaeth yn cael ei gwrthbwyso gan y llall.
DCRhT/2030 Diwygio hawliad
Mae modd diwygio hawliad drwy roi gwybod i ACC gan nodi ar ba sail mae'r hawliad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio.
Ni cheir gwneud diwygiad:
- os oes mwy na 12 mis wedi bod ers y dyddiad y cafodd yr hawliad gwreiddiol ei wneud, neu
- os yw ACC yn rhoi hysbysiad o ymholiad (gweler isod), yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd yr hysbysiad ei roi ac yn gorffen ar y dyddiad y caiff yr ymholiad ei gwblhau
DCRhT/2040 ACC yn cywiro hawliad
Gall ACC ddiwygio hawliad i gywiro gwall neu hepgoriad amlwg. Bydd yn rhoi gwybod i’r hawlydd am gywiriad o’r fath. Gallai ‘gwall’ fod yn gamgymeriad rhifyddol neu’n wall o ran egwyddor (fel rhoi enw cyntaf a chyfenw y ffordd groes).
Ar ôl gwneud cywiriad, bydd ACC yn gweithredu’r hawliad drwy ryddhau neu ad-dalu’r swm (pa bynnag un sy’n berthnasol) cyn gynted â bod hynny’n ymarferol.
Ni all ACC wneud cywiriad o'r fath:
- os oes naw mis wedi bod ers i'r hawliad gael ei wneud (hynny yw, y dyddiad y cafodd yr hawliad ei dderbyn), neu
- os yw’n rhoi hysbysiad o ymholiad yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei roi ac yn gorffen ar y diwrnod y caiff yr ymholiad ei gwblhau
Gall yr hawlydd wrthod cywiriad, dim ond ar yr amod ei fod yn rhoi gwybod i ACC ei fod am wneud hynny cyn pen tri mis, gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y cywiriad ei gyflwyno i'r hawlydd.
DCRhT/2050 Ymholiadau ynghylch hawliad
Gall ACC wneud ymholiad ynghylch hawliad (neu ddiwygiad i hawliad) drwy roi gwybod i'r hawlydd ei fod yn bwriadu gwneud hynny (‘hysbysiad o ymholiad’) cyn pen 12 mis i’r diwrnod y cafodd yr hawliad ei gyflwyno (hynny yw, y dyddiad y derbyniodd ACC yr hawliad).
Ni all ACC gyflwyno hysbysiad o ymholiad mewn perthynas â hawliad (neu ddiwygiad o hawliad) sydd eisoes wedi bod yn destun hysbysiad o ymholiad.
Cwblhau ymholiad
Bydd ymholiad wedi’i gwblhau pan fydd ACC yn rhoi gwybod i’r hawlydd (drwy ‘hysbysiad cau’) fod yr ymholiad wedi’i gwblhau ac yn datgan ei gasgliadau yng nghyswllt yr ymholiad. Hefyd, gall ACC weithredu hawliad neu ddiwygiad dros dro, cyn i’r hysbysiad cau gael ei gyflwyno.
Mae’n rhaid i hysbysiad cau ddatgan y canlynol:
- bod ACC o'r farn nad oes angen diwygio’r hawliad, neu
- os yw ACC o'r farn bod yr hawliad yn annigonol neu’n ormodol, gall ddiwygio’r hawliad er mwyn gwneud iawn am y diffyg neu’r gormodedd, neu ddileu’r diffyg neu’r gormodedd
Os yw’r ymholiad yn ymwneud â diwygio hawliad gan yr hawlydd, nid yw ACC ond yn gymwys i’r graddau y gellir priodoli’r diffyg neu’r gormodedd i ddiwygiad yr hawliad.
Lle bo ACC yn diwygio hawliad ar ôl ymholiad, rhaid iddo ei weithredu drwy wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol (p’un ai a yw hynny drwy asesiad neu drwy ad-dalu neu ryddhau swm y dreth) cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y cafodd yr hysbysiad cau ei gyhoeddi.
Caiff yr hawlydd wneud cais am adolygiad gan ACC neu apelio yn erbyn casgliad a nodir mewn, neu ddiwygiad a wnaed gan, hysbysiad cau. Rhaid i’r hawlydd wneud cais am adolygiad drwy roi hysbysiad o gais i ACC cyn pen 30 diwrnod o gyhoeddi’r hysbysiad cau. Caiff yr hawlydd hefyd apelio i’r tribiwnlys yn erbyn penderfyniad mewn hysbysiad cau neu ddiwygiad gan ACC. Rhaid gwneud hyn cyn pen 30 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad cau, neu cyn pen 30 diwrnod o’r dyddiad mae ACC yn rhoi gwybod i’r hawlydd am ganlyniad ei adolygiad (os gwneir cais).
Mewn achos o’r fath, gall y tribiwnlys amrywio’r diwygiad hwnnw, p’un ai a yw hynny’n fanteisiol i'r hawlydd neu beidio. Rhaid i ACC weithredu’r amrywiad yn yr un modd â phe bai wedi bod yn berthnasol i’r diwygiad y gwnaed yr hawliad yn ei erbyn.
Caiff yr hawlydd hefyd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod ACC yn cwblhau ei ymholiad o fewn cyfnod penodol, er enghraifft os ydynt yn teimlo bod ACC yn cymryd gormod o amser i gynnal yr ymholiad. Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd o’r fath oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â chyhoeddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod penodedig.
DCRhT/2060 Cadw cofnodion mewn perthynas â hawliad a’u storio'n ddiogel
Rhaid i unrhyw un sy’n gwneud hawliad am swm o dreth i’w ad-dalu neu ei ryddhau gadw cofnodion mewn perthynas â’r hawliad hwnnw a’u storio’n ddiogel nes yr olaf o’r canlynol:
- 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu
- os oedd ymholiad i’r hawliad neu i ddiwygiad i’r hawliad, y dyddiad y cwblheir yr ymholiad, neu
- pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ond nad oes ymholiad i’r diwygiad, y dyddiad pan na fydd ACC yn gallu agor ymholiad i’r diwygiad mwyach
DCRhT/2070 Cyfoethogi anghyfiawn
Gall ACC wrthod hawliad am ad-dalu neu ryddhau swm os bydd ad-dalu neu ryddhau’r swm hwnnw’n cyfoethogi'r trethdalwr yn anghyfiawn.
Gall cyfoethogi anghyfiawn ddigwydd lle nad yw’r trethdalwr wedi ysgwyddo cost y dreth y byddai angen ei had-dalu neu ei rhyddhau fel arall ac sydd eisoes wedi'i chasglu gan rywun arall. Er enghraifft, os bydd swm o TGT yn cael ei dalu i weithredwr safle tirlenwi, bydd y trethdalwr eisoes wedi casglu treth gan gwsmeriaid sy’n talu i ddod â’u gwastraff i’r safle tirlenwi.
Wrth bennu p’un ai a ddylid cyfoethogi'r trethdalwr yn anghyfiawn, neu i ba raddau y dylid gwneud hynny, yng nghyswllt gwneud hawliad am swm i’w ad-dalu neu ei ryddhau lle bo rhywun arall oni Gallai’r trethdalwr bai am y trethdalwr wedi ysgwyddo’r gost am y swm hwnnw, rhaid i ACC ddiystyru unrhyw golled neu ddifrod (ac eithrio i raddau ‘swm meintioledig’) sydd eisoes wedi'i wynebu, neu y gellid ei wynebu, gan y trethdalwr o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed gan y trethdalwr ynglŷn â gweithrediad unrhyw ‘ddarpariaethau perthnasol i dreth’.
Ystyr ‘swm meintioledig’ yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn nodi ei fod yn iawndal priodol ar gyfer y golled neu’r niwed o ganlyniad i’r ragdybiaeth anghywir.
Mae ‘darpariaethau perthnasol i dreth’ yn y cyd-destun hwn yn cynnwys:
- darpariaethau unrhyw ddeddfiad, is-ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth yr UE (p’un ai a yw’n dal mewn grym neu beidio) sy’n berthnasol i’r dreth (neu unrhyw fater cysylltiedig arall) sydd wedi'i chynnwys yn yr hawliad, neu
- unrhyw hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC o dan ddeddfiad neu is-ddeddfwriaeth o’r fath, neu at ddiben y rheiny.
Er mwyn i ACC ystyried unrhyw drefniadau ad-dalu wrth bennu p’un ai a fyddai treth yn cyfoethogi’r trethdalwr yn anghyfiawn neu beidio, rhaid cynnwys amodau penodol a rhoi ystyriaeth i faterion.
Dyma'r amodau y mae’n rhaid eu cynnwys:
- rhaid i'r trethdalwr gwblhau’r ad-daliad (gan gynnwys unrhyw log a dalwyd mewn perthynas ag ad-dalu’r swm hwnnw) i’r unigolyn/unigolion perthnasol cyn pen 90 diwrnod i ad-daliad ACC
- ni all yr hawlydd dynnu unrhyw ffi na thâl (sut bynnag y cânt eu mynegi neu eu gweithredu) o’r swm sy’n cael ei ad-dalu, gan gynnwys unrhyw log a dalwyd mewn perthynas â’r swm hwnnw
- rhaid darparu'r ad-daliad ar ffurf arian parod neu siec, neu’n electronig os bydd y cwsmer yn cytuno i hynny
- os oes unrhyw ran o’r swm sy’n ad-daladwy (gan gynnwys unrhyw log a dalwyd mewn perthynas â'r swm hwnnw) heb gael ei ad-dalu i’r cwsmer cyn diwedd y cyfyngiad amser 90 diwrnod, heb roi gorchymyn ymlaen llaw, rhaid i'r trethdalwr dalu’r rhan hwn o’r swm i ACC cyn pen 30 diwrnod i’r cyfyngiad amser 90 diwrnod ddod i ben. Gall methu â gwneud hyn arwain at gosb o 100% o'r ad-daliad mae angen i wneud i ACC, a
- rhaid i’r trethdalwr gadw cofnodion penodol mewn perthynas â'r hawliad a’u cyflwyno i ACC yn unol ag unrhyw hysbysiad gwybodaeth a roddwyd iddo (gweler isod)
Dyma’r ymgymeriadau y mae’n rhaid i’r trethdalwr eu bodloni:
- rhaid bod ganddo enwau a chyfeiriadau’r bobl sydd naill ai wedi cael eu had-dalu eisoes neu y bwriedir eu had-dalu
- bydd yn ad-dalu pobl yn llawn (arian parod, siec neu’n electronig drwy gytundeb), gan gynnwys unrhyw log a dalwyd mewn perthynas â’r swm sy’n cael ei ad-dalu a heb ddidynnu unrhyw ffi neu dâl (sut bynnag y cânt eu mynegi neu eu gweithredu), cyn pen 90 diwrnod iddynt gael yr ad-daliad gan ACC
- os bydd unrhyw ran o'r swm sy’n cael ei ad-dalu (gan gynnwys unrhyw log a dalwyd mewn perthynas â'r swm hwnnw) heb gael ei ad-dalu cyn diwedd y cyfyngiad amser 90 diwrnod, heb roi gorchymyn ymlaen llaw, bydd y trethdalwr yn talu’r rhan hwn o'r swm i ACC o fewn 30 diwrnod i ddiwedd y cyfnod 90 diwrnod, a
- bydd yn cadw’r cofnodion yn unol â’r disgrifiad pellach isod, ac yn cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyhoeddir sy’n gofyn iddo ddarparu’r cofnodion hyn
Rhaid i’r ymgymeriadau hyn:
- gael eu rhoi i ACC cyn neu ar yr un pryd â gwneud yr hawliad; a
- fod wedi’u llofnodi a’u dyddio’n ysgrifenedig
DCRhT/2080 Cadw cofnodion mewn perthynas â chyfoethogi anghyfiawn
Rhaid i’r trethdalwr gadw’r cofnodion canlynol sy’n ymwneud â threfniadau ad-dalu:
- enwau a chyfeiriadau'r bobl sydd wedi’u had-dalu neu y bwriedir eu had-dalu
- y cyfanswm a ad-dalwyd i bob un o'r bobl hyn, gan gynnwys derbynebau gan y rheiny a ad-dalwyd ym mhob achos yn nodi swm a dyddiad yr ad-daliad
- swm y llog a oedd wedi’i gynnwys ym mhob cyfanswm a ad-dalwyd i bob cwsmer, ac
- y dyddiad y cafodd pob ad-daliad ei wneud
Rhaid cadw’r cofnodion hyn am o leiaf:
- cyfnod o 12 mis o ddyddiad yr hawliad sy’n ymwneud â’r trefniadau ad-dalu
- pan fo ymholiad i’r hawliad, neu i ddiwygiad i’r hawliad, y diwrnod y cwblheir yr ymholiad
- pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ac nad oes ymholiad i’r diwygiad, y diwrnod pan fo pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r diwygiad yn dod i ben
Gallai peidio â chadw’r cofnodion uchod yn ôl y gofyn arwain at gosb.
Os bydd ACC yn dymuno gweld y cofnodion hyn, bydd yn rhoi gwybod i’r trethdalwr yn ysgrifenedig, gan nodi’r lleoliad, y dyddiad a’r amser y bydd rhaid cyflwyno’r cofnodion. Gall ACC roi gwybod i’r trethdalwr cyn neu ar ôl (neu cyn ac ar ôl) iddo ad-dalu swm yr hawliad. Os bydd y trethdalwr yn methu cydymffurfio â hysbysiad o'r fath, gall wynebu cosb.
DCRhT/2090 Gwrthod hawliad am ad-dalu neu ryddhau treth
Gall ACC wrthod hawliad am ad-dalu neu ryddhau swm os bydd ad-dalu neu ryddhau’r swm hwnnw’n cyfoethogi'r trethdalwr yn anghyfiawn.
Yn yr achos hwn, gall y trethdalwr roi hysbysiad o adolygiad neu apelio yn erbyn penderfyniad ACC i wrthod yr hawliad.
Gall ACC wrthod hawliad os yw’n berthnasol i unrhyw un o’r achosion canlynol hefyd:
- Mae swm y dreth a dalwyd, neu sy’n ddyladwy, yn ormod – naill ai oherwydd camgymeriad yn yr hawliad neu fod yr hawliad wedi'i wneud, neu wedi methu cael ei wneud, mewn camgymeriad.
- Efallai y bydd yr hawlydd yn hawlio rhyddhad (neu’n gallu hawlio rhyddhad) drwy gymryd camau eraill, fel diwygio ei ffurflen dreth neu lenwi ffurflen dreth yn dilyn dyfarniad gan ACC.
- Gallai’r hawlydd:
- fod wedi gwneud cais am ryddhad drwy gymryd camau eraill (gweler uchod) ond mae’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny bellach wedi dirwyn i ben;
- roedd yr hawlydd yn gwybod (neu dylai’n rhesymol fod wedi gwybod erbyn diwedd y cyfnod hwnnw) bod ymwared o’r fath ar gael.
- Mae'r seiliau dros yr hawliad:
- eisoes wedi’u rhoi gerbron llys neu dribiwnlys yn ystod apêl yn ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n ddyladwy, neu
- eisoes wedi’u rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad neu apêl yn ymwneud â’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n ddyladwy, ac mae'r sail dros hynny’n yn cael ei drin fel pe bai wedi’i ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd ymrwymiad i gytundeb setlo.
- Roedd yr hawlydd yn gwybod (neu dylai’n rhesymol fod wedi gwybod) am sail yr hawliad cyn y diweddaraf o'r canlynol:
- y dyddiad pan ddyfarnodd llys neu dribiwnlys ynghylch apêl berthnasol (y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni) neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly;
- y dyddiad pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i lys neu dribiwnlys yn ôl, neu
- diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i lys neu dribiwnlys. Ystyr ‘apêl berthnasol’ yw apêl gan yr hawlydd mewn perthynas â'r swm a dalwyd, neu’r swm dyladwy, sy’n sail i’r hawliad.
- Mae’r swm o dan sylw wedi'i dalu neu’n ddyladwy, naill ai:
- o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu
- yn unol â chytundeb rhwng y ACC a’r hawlydd sy’n setlo achos o’r fath.
- Mae’r swm a dalwyd, neu sy’n ddyladwy, yn ormod oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a bod y rhwymedigaeth wedi'i chyfrifo yn unol â’r ymarfer a oedd mewn grym ar yr adeg. Nid yw hyn yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n ddyladwy, yn dreth sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE. Codir treth yn groes i gyfraith yr UE os, dan yr amgylchiadau dan sylw, bod y dreth wedi’i chodi yn groes i’r darpariaethau sy’n ymwneud â symudiad rhydd nwyddau, pobl, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, neu ddarpariaethau unrhyw gytuniad dilynol sy’n disodli’r darpariaethau hyn.
Hefyd, gall ACC wrthod hawliad am ryddhad gan weithredwr safle tirlenwi lle bo’r rhyddhad a hawliwyd yn berthnasol i swm o dreth sydd heb ei dalu.