Canllawiau mewn perthynas â rhan 7 o Ddeddf Rheoli (Cymru) 2016, mewn perthynas ag adennill dyledion a chasglu trethi.
Cynnwys
DCRhT/6010 Cyflwyniad
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu unrhyw arian sy’n ddyledus i ACC ar amser (boed hynny’n dreth, yn gosb neu’n llog). Bydd rhai pobl, fodd bynnag, ddim yn gallu talu’r swm o arian neu’n dewis peidio ei dalu pan fydd gorchymyn iddynt wneud hynny.
Mae’n bwysig bod y trethdalwr yn rhoi gwybod i ACC cyn gynted â phosib ynglŷn ag unrhyw anawsterau mae’n yn eu hwynebu, neu’n disgwyl eu hwynebu, o ran talu unrhyw arian sy’n ddyledus ganddo. Lle bo hynny’n briodol, a gan ystyried pob achos yn unigol, bydd ACC yn mynd ati i gydweithio â'r trethdalwr i sefydlu trefniant talu a fydd yn dderbyniol gan y ddwy ochr.
Fodd bynnag, bydd rhai achosion, oherwydd yr amgylchiadau, lle na fydd ACC o’r farn ei bod yn bosibl nac yn briodol sefydlu trefniadau o'r fath. Yn yr achosion hyn, a lle bo'r trethdalwr wedi methu ymateb i orchymyn am daliad, bydd ACC yn cymryd camau gorfodi i adennill y ddyled.
Os bydd arian yn ddyledus i ni gan unigolyn ond nad yw ei fanylion cyswllt gennym ni, mewn rhai amgylchiadau gallwn roi hysbysiad i drydydd parti sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu’r manylion cyswllt hynny i ni.
Dim ond ymdrin ag adennill dyled sifil mae’r canllawiau hyn ac nid ydynt yn mynd i’r afael â mesurau adennill yn dilyn achosion troseddol, fel y rheini a nodir o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002.
DCRhT/6020 Setliadau contract
Os yw’r trethdalwr yn cael anhawster, neu’n disgwyl cael anhawster, talu unrhyw arian sy’n ddyledus ganddo (er enghraifft, ar ôl i ymchwiliad ddod i ben), lle bo hynny’n briodol (a gan ystyried pob achos yn unigol), bydd ACC yn mynd ati i gydweithio â'r trethdalwr i sefydlu trefniant talu a fydd yn dderbyniol gan y ddwy ochr. Mae hyn yn unol ag ymrwymiad ACC i drin pob trethdalwr yn deg a chasglu'r trethi datganoledig yn briodol ac yn effeithlon.
Mae setliad contract yn un opsiwn. Cytundeb cyfreithiol rhwng y trethdalwr ac ACC ynglŷn â rhwymedigaeth y trethdalwr i dalu swm o arian i ACC mewn perthynas â’r trethi datganoledig yw setliad contract. Ni ddylid drysu rhwng hwn a chytundeb setlo, sef cytundeb penodol rhwng y trethdalwr ac ACC mewn perthynas ag anghydfod.
Mae gan ACC lefel o ddisgresiwn o ran llunio cytundeb contract penodol, ond mae hyn yn dibynnu ar amgylchiadau penodol yr achos.
DCRhT/6030 Adennill dyled
Os bydd ACC yn cyflwyno gorchymyn i dalu swm o arian (treth, cosbau, llog, neu gyfuniad o’r rhain) a bod y trethdalwr, ar ôl cael y gorchymyn, yn dal heb dalu'r swm hwnnw, gall ACC gymryd camau gorfodi i adennill y ddyled honno.
Mae gan ACC ystod o bwerau i sicrhau bod dyled yn cael ei hadennill. Mae’r rhain yn cynnwys:
- mewn achosion lle mae swm dyledus (hyd at £2000) o drethi, cosbau neu log heb ei dalu, gall ACC ddechrau achos sifil yn llys yr ynadon i adennill y ddyled. Fel arfer, rhaid i'r achosion hyn gael eu dechrau cyn pen 12 mis i’r dyddiad y dylai'r dreth, y gosb neu’r llog fod wedi cael eu talu
- gorfodi drwy atafaelu nwyddau, gan ddefnyddio’r weithdrefn yn Atodlen 12 y Ddeddf Llysoedd, Tribiwnlysoedd a Gorfodaeth 2007 (c.15) (atafaelu nwyddau)
- dechrau achosion troseddol neu sifil, gan gynnwys y Llys Sirol a'r Uchel Lys
DCRhT/6040 Ardystio dyled
Gall ACC gyflwyno tystysgrif dyled os bydd trethdalwr wedi methu talu trethi, cosbau neu log. Mae tystysgrif gan ACC (neu unrhyw ddogfen sy’n dystysgrif gyfwerth i bob golwg) yn dystiolaeth o’r ffaith honno nes ei bod yn cael ei gwrthbrofi. Diben tystysgrifau fel hyn yw darparu tystiolaeth i lys i gefnogi unrhyw ddyled neu gam gweithredu y byddwn yn ei roi ar waith, gan osgoi’r angen am ddogfennau hirfaith.
DCRhT/6050 Hysbysiad cyswllt dyledwr
Mewn rhai amgylchiadau, mae gan ACC bŵer i roi hysbysiad i drydydd parti sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu manylion cyswllt y sawl y mae arian yn ddyledus ganddo i ACC (adran 93 DCRhT).
Ystyr “manylion cyswllt” yw cyfeiriad y dyledwr ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r dyledwr.
Ni ddefnyddir y pŵer hwn ddim ond i gael rhagor o wybodaeth am drethdalwr. Mae pwerau eraill ar gael i ACC er mwyn cynnal ymchwiliadau fwy manwl i sefyllfa dreth unigolyn, er enghraifft, pwerau ymchwilio, hysbysiadau gwybodaeth ac archwiliadau.
Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y caiff ACC ddyroddi hysbysiad cyswllt dyledwr:
- lle mae’n rhesymol bod angen y manylion cyswllt ar ACC i gasglu'r swm o arian sy’n ddyledus
- lle mae gan ACC sail resymol dros gredu bod y manylion cyswllt angenrheidiol gan y trydydd parti a
naill ai:
- lle mae’r trydydd parti yn gwmni neu’n gymdeithas anghorfforedig, neu
- lle mae gan ACC sail dros gredu bod y trydydd parti wedi cael y manylion yn sgil rhedeg busnes.
Mae ‘rhedeg busnes’ yn cynnwys:
- cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir)
- dilyn proffesiwn
- gweithgareddau elusen, a
- gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.
Ni all ACC gyflwyno hysbysiad cyswllt dyledwr i drydydd parti:
- os yw’n elusen ac y daeth y manylion cyswllt i’w law yn sgil darparu gwasanaethau di-dâl, neu
- os nad yw’n elusen ond y daeth y manylion cyswllt i’w law yn sgil darparu gwasanaethau ar ran elusen sy’n ddi-dâl i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth.
Cydymffurfio â'r hysbysiad
Rhaid i’r hysbysiad a gyflwynir gan ACC i’r trydydd parti gynnwys enw'r dyledwr a manylion y cyfnod (neu ddisgrifiad ohono), yn ogystal â nodi sut ac ar ba ffurf y dylid cyflwyno’r manylion cyswllt. Gall unrhyw drydydd parti sy’n methu cydymffurfio â'r hysbysiad mewn unrhyw ffordd wynebu cosb. Gall trydydd parti adolygu neu apelio yn erbyn hysbysiad o’r fath (neu ofyniad sydd wedi'i gynnwys ynddo) dan rai amgylchiadau penodol.