Mae Deddf Amaeth gyntaf erioed Cymru bellach yn gyfraith, ar ôl derbyn y Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn allweddol i gefnogi ffermwyr a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy am genedlaethau i ddod.
Prif ffynhonnell cymorth y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru, ar sail y Ddeddf, fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gynigir. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pwerau sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth yn y dyfodol i ffermwyr a sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddynt dros gyfnod pontio, gan adlewyrchu ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Mae’n paratoi’r ffordd hefyd ar gyfer gwahardd maglau a thrapiau glud. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w gwahardd yn llwyr.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae hon yn ddeddf hanesyddol. Am y tro cyntaf erioed, bydd Cymru’n gallu llunio ei pholisi ei hun ar gyfer ffermio. Hynny ar adeg tyngedfennol i’r diwydiant, wrth i ni siapio’r cymorth a roddir yn y dyfodol a wynebu heriau costau uwch a’r argyfwng hinsawdd.
“Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sector amaethyddol Cymru. Rydyn ni’n gwybod mai’r bygythiad mwyaf i fwyd cynaliadwy yn y dyfodol yw’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y Ddeddf yn erfyn i’r diwydiant i’w helpu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy gan weithredu yr un pryd i ddelio â’r argyfwng hinsawdd.”
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:
“Rwy’n falch iawn cael bod yn dyst i selio Deddf Amaeth gyntaf Cymru heddiw. Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol i ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru.
“Rydyn bellach yn barod i symud yn ein blaenau i ddarparu system gymorth i ffermwyr fydd wedi’i llunio yng Nghymru ac a fydd yn gweithio er lles Cymru. Mae hynny’n cynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y brif ffynhonnell gymorth i ffermwyr o 2025.
“Does dim dewis rhwng cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ar ein ffermydd a thaclo’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y ddau’n mynd law yn llaw gan fod yr argyfwng hinsawdd yn fygythiad byw i amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd. Mae’r Ddeddf Amaeth yn ystyried hynny, gan sicrhau bod rheoli tir yn gynaliadwy wrth galon y cymorth a ddarperir yn y dyfodol i ddiogelu’r diwydiant.
“Hoffwn ddiolch i bawb fu ynghlwm â’r Ddeddf hanesyddol hon.”
Mae’r Ddeddf yn cynnig llwybr i ffermwyr tenant ddatrys anghydfodau ac yn sicrhau nad oes cyfyngiadau annheg arnynt rhag manteisio ar y cymorth ariannol.
Y mae hefyd yn diwygio Deddf Goedwigaeth 1967 i roi’r pwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru ychwanegu amodau er mwyn newid, atal neu ddiddymu trwyddedau cwympo all fynd yn groes i ddeddfwriaeth amgylcheddol arall.
Bydd hefyd yn rhoi pwerau newydd yn lle’r rheini yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024.