Neidio i'r prif gynnwy

Mae cam cyntaf y gwaith cadwraeth i'r capeli yn yr abaty eiconig yn Nhyndyrn wedi dechrau, meddai Cadw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Abaty Tyndyrn a'i adfeilion ar lannau Afon Gwy, yw un o henebion ceinaf Cadw. Mae seiri maen arbenigol Cadw wedi gweithio ar yr Abaty am y deugain mlynedd diwethaf i'w gadw i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. Bu sawl ymdrech i ddelio â'r dirywiad yn y garreg yn sgil hafau twymach a gaeafau gwlypach, ac yn sgil camosod y cerrig gwreiddiol.

Wedi codi'r sgaffaldau, mae gwaith cadwraeth i Abaty Tyndyrn wedi dechrau ac mae'n cynnwys brwsio'r gwaith cerrig sydd wedi dod yn rhydd ac yn plisgo i ddadorchuddio'r arwynebau cadarn oddi tanynt.

Bydd morter rhydd yn cael ei dynnu o'r cymalau a thynnir y llystyfiant yn ofalus rhag gadael unrhyw wreiddiau. Bydd cerrig bregus yn cael eu cryfhau gan ddefnyddio morter gwan, llawn calch cyn eu pinio ynghyd a'u rhoi yn ôl yn y gwaith maen o'u cwmpas. Mae'r hen strapiau copr - a gynlluniwyd yn wreiddiol i ddal cerrig yn eu lle - wedi pydru felly byddant yn cael eu tynnu unwaith y bydd y pinnau newydd wedi'u gosod . Bydd y seiri maen yn lapio'r gwaith gorffenedig mewn hesian gwlyb i reoli'r broses o sychu'r morter newydd.

Penododd Cadw Ferrier Hart Thomas a David Odgers Conservation i gynnal yr arolwg, darparu'r wybodaeth dylunio a nodi'n fanwl y gwaith y bydd angen i'r seiri maen ei wneud. Cymerodd bron i flwyddyn i gynnal yr arolwg ac roedd yn cynnwys ymchwiliad archeolegol i loriau'r eglwys ac yn union y tu allan i'w muriau.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Grosvenor Construction Ltd, contractwr cadwraeth arbenigol o ogledd Cymru fu'n gyfrifol am gynnal y prosiect ailddatblygu cyffrous diweddar ar Borth y Brenin, Castell Caernarfon.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

Am bron 900 mlynedd mae'r abaty wedi bod yn croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i'r lleoliad heddychlon hwn, ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno.

Mae'n wych gweld y gwaith hwn yn dechrau fel y gall y cenedlaethau i ddod fwynhau'r safle hanesyddol eiconig hwn.

Dyma'r cyntaf o bum cam o waith cadwraeth. Gallwch ddilyn ei gynnydd drwy linell amser cadwraeth Abaty Tyndyrn ac ar y cyfryngau cymdeithasol.