Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad tymhorol sy’n cyflwyno crynodeb ystadegol o’r gwasanaeth.

Prif bwyntiau

  • Roedd 25,288 o blant wedi elwa, trwy dderbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yng Nghymru ar ryw adeg o 1 Ebrill 2018 hyd at ddiwedd y cyfnod (31 Awst 2018). Mae’r plant a welwyd hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn yn cynrychioli 70% o’r disgwyliad ar gyfer y flwyddyn gyfan.
  • Ar y cyfan roedd 25% o blant o dan 4 mlwydd oed yng Nghymru ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg.
  • Cafodd plant Dechrau'n Deg o bob oed hyd at 4 oed (oedd ar lwyth achosion yr ymwelydd iechyd) eu gweld, ar gyfartaledd, 2.6 gwaith yn ystod y flwyddyn mor belled gan un ai ymwelydd iechyd neu gan aelodau’r  tîm iechyd ehangach.
  • Derbyniodd 97% o blant oedd newydd ddod yn gymwys i dderbyn gofal plant mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg gynnig yn ystod y flwyddyn mor belled. Ni cheir manylion ynghylch niferoedd a ddefnyddiodd lefydd gofal plant y tro hwn gan fod y ffigwr yn debygol o fod yn is na’r hyn ydyw mewn gwirionedd yr adeg hwn o’r flwyddyn oherwydd bod y broses mewn rhai awdurdodau lleol yn golygu na ellir canfod y defnydd ar gyfer rhai plant sy’n derbyn cynnig mewn tymor penodol hyd nes bod y lle wedi ei gymryd yn ffurfiol (yn y tymor dilynol).

Nodyn

Nodwch mai gwybodaeth rheoli heb ei dilysu yw’r data a dderbyniwyd hyd at Hydref 24, 2018; fe’i darperir i roi diweddariad ar y rhaglen wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen. Bernir bod y data o werth digonol ar lefel Cymru i’w gyflwyno yma, ond mae data awdurdodau lleol yn parhau i gael ei ddilysu  trwy’r flwyddyn ac nid yw wedi ei gynnwys yma.

Bydd data manylach ar gyfer y flwyddyn gyfan, wedi ei ddilysu, yn cael ei ryddhau ar gyfer y cyfnod 2018-19 yn ei gyfanrwydd yn natganiad ystadegol mis Gorffennaf 2019; bydd hyn yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol unigol. Pan fydd darlun cyflawn o’r flwyddyn ar gael, gallai data gael ei adolygu yn unol â’r hyn sy’n briodol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.