Dechrau’n Deg: hysbysiad preifatrwydd
Yn esbonio sut rydym yn prosesu ac yn defnyddio data am y rhai sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Dechrau'n Deg: trosglwyddo data ar lefel unigolyn i Lywodraeth Cymru
Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi gwybod i unigolion sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg am y ffordd y caiff eu data personol eu prosesu gan Lywodraeth Cymru a'r defnydd y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o'r data. Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr amrywiol ffyrdd o ddefnyddio’r data a nodir yn yr hysbysiad hwn.
Bydd rhywfaint o’r wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn ei chasglu wrth ddarparu eu gwasanaethau yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Y bwriad yw helpu Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwil a dadansoddiad ystadegol i wella’r cymorth sy’n cael ei ddarparu drwy Dechrau'n Deg i bobl Cymru.
Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble y daw'r wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at elfen adnabod ynddi.
Mae’r canlynol yn grynodeb o’r data personol y bydd awdurdodau lleol yn eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru yn y setiau data Dechrau'n Deg:
- gwybodaeth bersonol gan gynnwys enw, cyfeiriad gan gynnwys cod post, dyddiad geni, rhif y GIG lle mae ar gael
- cyfeirnod unigryw
Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw cyflawni ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Dim ond drwy ddulliau diogel y bydd setiau data Dechrau'n Deg yn cael eu trosglwyddo, a dim ond y rhai sy’n gweithio ar y prosiect fydd yn gallu gweld y data.
Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am y data hyn o’r adeg pan fyddant wedi’u trosglwyddo iddi, ond bydd yr awdurdodau lleol yn cadw’r cyfrifoldeb am unrhyw ddata y byddant yn parhau i’w dal ar eu systemau hwy. Mae’r data sy’n cael eu trosglwyddo yn cael eu storio mewn cronfa ddata ddiogel, a dim ond defnyddwyr a lleoliadau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cymeradwyo fydd yn gallu gweld y data.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Bydd Data Personol yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am flwyddyn at ddibenion cysylltu a pharu data. Bydd Data Personol yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am flwyddyn at ddibenion cysylltu a pharu data. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r dienw data cyhyd ag y bo’n ddefnyddiol at ddibenion ymchwil ac ystadegol, a gan fod data hanesyddol yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn yn y cyd-destun hwn, mae’n debygol o’u cadw am nifer mawr o flynyddoedd. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn dal data manwl ar Blant sy’n Derbyn Gofal sy’n dyddio’n ôl i 2002.
Bydd set ddata Dechrau'n Deg yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:
- monitro cynnydd yn erbyn canlyniadau cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi ystadegau swyddogol;
- monitro perfformiad a chyllid yr awdurdodau lleol
- datblygu a gwerthuso polisi;
- nodi arferion da a helpu i’w datblygu
- cefnogi ymchwil sy’n ymwneud â llesiant unigolion.
Gall hyn gynnwys cysylltu neu gyfuno’r wybodaeth â data eraill am unigolion yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru ond yn defnyddio’r agweddau adnabyddadwy ar y data i gefnogi unrhyw brosesau ystadegol neu ymchwil sy’n ofynnol ar gyfer defnydd a nodir uchod, ond ni fydd yn defnyddio’r agweddau adnabyddadwy ar y data nac yn prosesu’r data mewn ffordd a fyddai yn:
- cymryd camau neu gefnogi mesurau neu benderfyniadau ynghylch unigolion neu eu teuluoedd
- achosi unrhyw niwed neu ofid i unigolion neu eu teuluoedd
- adnabod unrhyw unigolion mewn adroddiadau.
Bydd canlyniadau o ddadansoddiadau sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddio’r data ar gael mewn cyhoeddiadau ystadegol neu ymchwil a fydd yn cael eu rhyddhau drwy wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru a hefyd drwy ddata a fydd yn cael eu rhoi ar wefan StatsCymru.
Bydd defnyddwyr allanol fel yr awdurdodau lleol a’r cyhoedd yn ehangach yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon sydd wedi’i chyhoeddi at eu dibenion eu hunain, fel mesur neu reoli perfformiad, gwella arferion a dwyn y llywodraeth i gyfrif.
Cysylltu data ymchwil
Y broses o ddod â chofnodion ar lefel person o wahanol ffynonellau ynghyd yw cysylltu data.
Mae cysylltu gwybodaeth â chofnodion eraill:
- yn lleihau'r galw ar bobl i gymryd rhan mewn arolygon
- yn lleihau cost casglu gwybodaeth yn sylweddol
- yn ei gwneud yn bosibl i fathau gwahanol o wybodaeth fod ar gael yn haws, ac felly i waith ymchwil gael ei gynnal yn gyflymach
- yn caniatáu defnydd gwell o'r wybodaeth sydd eisoes yn bodoli.
Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd yn gallu gweld rhan o’ch data personol am gyfnod o chwe mis, er mwyn gallu ymgymryd â'r gwaith o gysylltu’r data â banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Cronfa o ddata dienw ynglŷn â phoblogaeth Cymru yw Cronfa Ddata SAIL, a gydnabyddir yn rhyngwladol am storio a defnyddio data personol wedi'u hanonymeiddio yn gadarn at ddibenion ymchwil er mwyn gwella iechyd, llesiant a gwasanaethau.
Nid yw enwau, cyfeiriadau a chodau post yn cael eu cynnwys yn y data cysylltiol. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.
Bydd gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei dileu o fewn blwyddyn o gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i wneud unrhyw waith dileu enwau a chysylltu data sy'n ofynnol ar gyfer gwerthuso.
Rhannu'r set ddata sy’n cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn ehangach
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Alma Economics i gael mynediad at y data dienw pan fydd yn SAIL at ddibenion gwerthuso rhaglen Dechrau'n Deg. Ni fydd gan Alma Economics fynediad at y data personol a drosglwyddir o fewn y set ddata i Lywodraeth Cymru.
Yr enw cyswllt ar gyfer y gwerthusiad hwn yn Alma Economics yw Christina Olympiou
Ffôn: 020 8133 3192
E-bost: christina.olympiou@almaeconomics.com
Hawliau'r unigolyn
O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau isod mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu fel rhan o'r gwerthusiad hwn. Mae gennych hawl i’r canlynol:
- Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun
- Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny,
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
- Gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol);
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swydfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y caiff y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Hannah Davies (Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg, Llywodraeth Cymru)
Ffôn: 0300 025 0508
E-bost: cfcresearchandevidenceteam@gov.wales
Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru