Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cafodd £700,000 o gyllid ychwanegol ei gyhoeddi gan Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, i helpu i greu busnesau cymdeithasol newydd yn y Dwyrain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diolch i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae prosiect Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn cefnogi busnesau cymdeithasol newydd yn ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ers mis Gorffennaf 2019.
Mae mwy na 2000 o fusnesau cymdeithasol yng Nghymru, sy’n werth mwy na £3 biliwn i economi Cymru. Maent yn cyflogi tua 55,000 o bobl ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i tua 58,000 arall.

Dywedodd Mr Miles:

“Rydw i wrth fy modd bod y cyllid ychwanegol hwn yn mynd i ddarparu’r dulliau sydd eu hangen arnom i helpu i sefydlu 50 o fusnesau cymdeithasol eraill yn y Dwyrain. Busnesau a fydd yn eiddo i’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu fydd y rhain, a byddan nhw’n cael eu rheoli gan y cymunedau hynny. Byddan nhw’n ennill elw y bydd modd ei ail-fuddsoddi yn y cymunedau hynny ac yn creu swyddi sydd wirioneddol eu hangen.

“Mae’n hanfodol inni barhau i reoli ein strategaeth buddsoddi rhanbarthol ein hunain yn y dyfodol. Rhaid inni ddefnyddio cronfeydd fel hon i gefnogi pob rhan o Gymru. Byddwn ni’n rhannu mwy o fanylion sut yr hoffem fynd ati i wneud hyn dros yr wythnosau sydd i ddod.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, sy’n gyfrifol am Dasglu’r Cymoedd:

“Mae tyfu’r sector mentrau cymdeithasol gwerthfawr yn rhan o’n huchelgais i gyflawni Ffyniant i Bawb. Mae rôl y sector hwn yn allweddol i’r economi sylfaenol yn ogystal â’r economi yn ehangach. Mae’n hynod bwysig oherwydd ei fod yn creu swyddi, gwella cyrhaeddiad addysgol, darparu gofal cymdeithasol yng nghartrefi pobl ac yn lleihau anghydraddoldebau, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Rydw i wrth fy modd fod rhagor o gyllid yn cael ei ddarparu i ymestyn y prosiect i ardal Dwyrain Cymru.”

Gan weithio gyda Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru, bydd y prosiect Dechrau Newydd yn darparu’r dulliau a’r cymorth un i un ar gyfer helpu i sefydlu busnesau cymdeithasol newydd. Bydd yn targedu’r cymunedau hynny sydd wedi gweld tipyn o ddirywiad economaidd fel canol dinasoedd, a chymunedau ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad.

Dywedodd Carly McCreesh, Rheolwr Prosiect ar gyfer Busnes Cymdeithasol Cymru yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

“Yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, rydyn ni’n deall pwysigrwydd busnesau cymdeithasol i helpu i adeiladu economi decach sy’n defnyddio elw gyda’r bwriad o helpu pobl a’r blaned.

“Bydd y cyllid diweddaraf o’r UE a ddarperir drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth cymorth busnes newydd yn y Dwyrain yn ein helpu i gyflawni ein targed uchelgeisiol o greu 250 o fusnesau cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru dros y tair blynedd nesaf. Byddan nhw’n darparu swyddi o ansawdd a gwasanaethau hanfodol gyda sylfaen gadarn yn ein cymunedau.

“Felly, os ydych chi’n entrepreneur cymdeithasol uchelgeisiol o ardal Dwyrain Cymru sydd â syniad cyffrous ar gyfer busnes newydd, ac os oes gennych chi weledigaeth glir ar gyfer yr effaith rydych chi am ei chael, cysylltwch â’n prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru. Cewch chi wybod rhagor am y cymorth arbenigol y gallwn ni ei gynnig.”