Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi agor canolfan Dechrau'n Deg newydd yn swyddogol yn y Cwm, Blaenau Gwent.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae canolfan Dechrau'n Deg y Cwm wedi derbyn £845,000 o gyllid cyfalaf oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae'r ganolfan yn darparu gofal plant o ansawdd ar gyfer rhieni pob plentyn dwy a thair oed sy'n gymwys, am ddwy awr a hanner y diwrnod, bum diwrnod yr wythnos.

Yn ystod ei ymweliad, diolchodd Carl Sargeant i dîm Dechrau'n Deg am eu penderfyniad, eu hymroddiad a'u gwaith caled wrth weithredu'r prosiect hwn.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Dw i wedi cael y fraint o ymweld â llawer o leoliadau Dechrau'n Deg ledled Cymru ac wedi gweld drosof fi fy hun y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, ysgolion, y sector gwirfoddol, teuluoedd a chymunedau.

"Mae Dechrau'n Deg yn parhau i wella bywydau plant a theuluoedd sy'n byw yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae Awdurdodau Lleol wedi elwa ar fwy na £76 miliwn mewn cyllid refeniw yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2016/2017).

"Y llynedd, fe gefnogwyd dros 38,000 o blant a'u teuluoedd drwy'r rhaglen, gan gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth flaenorol i ddyblu nifer y plant sy'n elwa ar y rhaglen.

"Dw i am ddiolch i bawb sydd wedi helpu i lansio'r prosiect yma yn y Cwm, a dw i'n dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n rhan o ganolfan newydd Dechrau'n Deg i'r dyfodol."