Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi heddiw bod dros 250 o swyddi newydd wedi’u creu ledled Cymru, diolch i help Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r 256 o swyddi - yn BBI Group yng Nghaerffili, Siltbuster yn Nhrefynwy, BT yn Abertawe ac SPC yn y Maerdy - yn ddechrau da i wythnos o gyhoeddiadau am swyddi gan Ysgrifennydd yr Economi. Mae’n brawf o’r effaith bositif y mae help Llywodraeth Cymru yn ei gael ar y farchnad swyddi a’r economi ehangach. <?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />

Meddai Ken Skates 

“Mae’n dda gen i gychwyn wythnos o gyhoeddiadau am swyddi gyda newyddion da am 256 o swyddi newydd ledled Cymru. 

“Mae’r swyddi yn y pedwar cwmni’n brawf o waith caled Llywodraeth Cymru y tu ôl i’r llenni i gefnogi busnesau a’u helpu i symud i Gymru neu i ddiogelu neu ehangu eu gweithgareddau yma. 

“Mae economi Cymru wedi cymryd camau aruthrol ymlaen yn y blynyddoedd diwethaf gyda bron mwy o bobl nag erioed mewn gwaith a chyfradd cyflogaeth sy wedi tyfu’n fwy na chyfartaledd y DU yn y 12 mis diwethaf.  Rydym yn gweithio’n galed i gynnal y momentwm hwn ac i ddiogelu a denu swyddi o ansawdd i gymunedau ym mhob rhan o’r wlad.” 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi fod y BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei holl weithgareddau gweithgynhyrchu ym Mhrydain mewn un safle yng Nghaerffili fel rhan o brosiect buddsoddi gwerth £8.5m sydd wedi cael help ariannol Llywodraeth Cymru. 

Bydd y buddsoddiad yn creu o leiaf 50 o swyddi newydd yng Nghymru, gan olygu y bydd rhagor na 360 wedi’u creu a’u diogelu yno erbyn 2020.

Mae gan y BBI Group nifer o gyfleusterau gweithgynhyrchu yn y DU ynghyd â phrif swyddfa yng Nghaerdydd.  Ar ôl ymchwiliad mewnol, penderfynwyd symud i Barc Technoleg Border, Crymlyn lle bydd y cwmni’n gallu dod â’i holl waith gweithgynhyrchu a datblygu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnal ym Mlaenafon, Caerdydd a Dundee o dan yr un to. 

Yn y cyfamser, mae SPC – cwmni rhyngwladol blaenllaw sy’n cynhyrchu cyfansoddion rwber – ar fin agor ffatri newydd yng Nghwm Rhondda fydd yn creu hyd at 40 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf.  Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi help i sicrhau ei fod yn buddsoddi yng Nghymru. 

Daw’r buddsoddiad hwn gan SPC ar ôl iddo brynu dwy linell gynhyrchu ar gyfer cymysgu cyfansoddion rwber oddi wrth Avon Engineered Rubber yn y Maerdy.  Fel rhan o’i strategaeth tymor hir i fuddsoddi mewn cyfarpar cymysgu lliwiau, symudodd SPC un o’r llinellau i’w brif ffatri yn Westbury, Wiltshire a’r bwriad gwreiddiol oedd symud y llall i’w ffatri ym Marcelona. 

I gadw’r ased yng Nghymru a helpu i greu swyddi newydd, mae Llywodraeth Cymru’n rhoi £150,000 o grant fel hwb i fuddsoddiad mawr SPC i ailwampio a dodrefnu’r ffatri yn y Maerdy. 

Yn Abertawe, mae BT yn ehangu ei ganolfan gyswllt i gwsmeriaid trwy greu 100 o swyddi newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru. 

Mae’r cwmni’n creu rolau newydd er mwyn medru cadw at ei addewid bod 90 y cant o alwadau ei gwsmeriaid yn cael eu hateb yn y DU. Y nod yw medru gwneud hynny erbyn Ebrill 2017. 

Bydd y gweithwyr newydd yn gweithio yn Nhŵr BT yn Abertawe lle caiff llawr ei ailwampio a’i ailddodrefnu’n unswydd i gynnal y busnes newydd.  Gallai fod wedi’u cartrefu yn un o ganolfannau eraill BT yn y DU sydd â digon o le.  

Mae Siltbuster ‒ cwmni sy’n darparu dulliau cludadwy o drin dŵr ‒ yn buddsoddi £4.3 miliwn i ehangu ei weithfeydd yn Nhrefynwy, gan greu 66 o swyddi newydd. Y cwmni hwn yw prif ddarparwr y DU yn y maes a chafodd gymorth o £1.15 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru a Cyllid Cymru i’w helpu gyda’r datblygiadau hyn.  

Dyma’r fargen gyntaf i gael ei tharo gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Fusnes Cymru, sy’n werth cyfanswm o £136 miliwn. Mae’r Gronfa honno’n cael ei chefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei rheoli gan Cyllid Cymru.  

Bydd Siltbuster, sy’n cyflogi 48 ar hyn o bryd, yn mwy na dyblu nifer y staff, gan greu 66 o swyddi crefftus. Mae’r cwmni’n rhagweld y bydd yn dyblu ei drosiant erbyn 2020.