Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd cynllun peilot i gyflwyno brechlyn COVID-19 Pfizer/BioNtech i gartrefi gofal Cymru yn dechrau ddydd Mercher [16 Rhagfyr], ychydig dros wythnos ar ôl i'r brechlyn cyntaf gael ei roi yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cartref gofal penodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd y cyntaf yng Nghymru i dderbyn y brechlyn, a bydd timau mewn Byrddau Iechyd eraill yn mynd â'r brechlyn i gartrefi gofal yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dechreuodd y broses gychwynnol o gyflwyno'r brechlyn i staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phobl 80 oed a throsodd ddydd Mawrth 8 Rhagfyr ledled y DU, yn seiliedig ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). Mae gwaith Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU yn cael ei lywio gan yr argymhellion hyn.

Bu pryderon ynghylch cynnal sefydlogrwydd brechlyn Pfizer/BioNtech y tu allan i ganolfannau brechu mewn ysbytai gan fod angen ei storio fel arfer ar minws 70 gradd canradd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod yn helaeth gyda'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a gwneuthurwr y brechlyn sut y gellir ailbecynnu a chludo'r brechlyn heb beryglu'r safonau diogelwch ac effeithiolrwydd y mae gan gleifion hawl i’w disgwyl. Roedd hyn yn golygu na fu’n  effeithlon hyd yma i fynd â'r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal.

Bydd hyn yn golygu y gall Byrddau Iechyd fynd â'r brechlyn i leoliadau ag o leiaf bum preswylydd, yn hytrach na'i ddefnyddio mewn canolfannau brechu sefydlog yn unig. Bydd yn cymryd sawl siwrnod i hyfforddi staff ac i sicrhau bod gweithdrefnau safonol yn cael eu llunio a'u dilysu.

Ar y dechrau bydd y brechlyn yn cael ei roi i gartrefi gofal sy’n agos at fferyllfeydd ysbytai, ond bwriedir iddo fod ar gael mewn lleoliadau eraill yn yr wythnosau nesaf, unwaith y bydd gwybodaeth yn deillio o’r cynllun peilot mewn cartrefi gofal ar gael.

Efallai na fydd effeithiau'r brechlyn yn cael eu gweld yn genedlaethol am fisoedd lawer ac mae'r cyngor ar gadw Cymru'n ddiogel yn aros yr un fath i bawb: cyfyngu cymaint â phosibl ar eich cysylltiad â phobl eraill, cadw pellter o 2 fetr oddi wrth bobl eraill, golchi’ch ddwylo'n aml, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae eraill wedi cyffwrdd â nhw, lle bynnag y bo modd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

"Ar ôl i Gymru gyflwyno'r brechlyn COVID cyntaf yn llwyddiannus yr wythnos diwethaf, rydym yn dechrau’n ofalus ar y cam o’i roi i beswylwyr cartrefi gofal; fodd bynnag, mae angen inni barhau i sicrhau y gallwn gludo'r brechlyn yn ddiogel i bobl nad ydynt yn gallu dod i glinigau.

"Os bydd popeth yn mynd yn iawn yr wythnos hon, byddwn yn dechrau i cyflwyno’r broses frechu i gartrefi gofal cyn y Nadolig, gan ddod â lefel newydd o ddiogelwch i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed.

"Mae staff y GIG wedi gwneud gwaith gwych i gyflwyno’r brechlyn cyntaf hwn yn ddiogel ac yn gyflym. Rwy'n hynod ddiolchgar am eu gwaith caled ar hyn, ac yn ystod y pandemig yn gyffredinol.”

Dywedodd Dr Gill Richardson, Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru:

"Mae darparu brechlyn COVID-19 i staff cartrefi gofal a phreswylwyr wastad wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio ers misoedd i ymateb i’r heriau dosbarthu ac rydym yn credu bod gennym ateb ymarferol y byddwn yn ei ddefnyddio mewn safleoedd peilot o ddydd Mercher. Mae staff cartrefi gofal wedi cael cynnig brechiadau yng nghanolfannau’r Byrddau Iechyd wrth aros i'r model symudol ddechrau."

"Rydym bellach yn hyderus iawn y gall ysbytai'r GIG ailbecynnu a chludo’r brechlyn yn ddiogel i gartref gofal heb beryglu ei sefydlogrwydd."

Wrth i gyflenwadau pellach ddod ar gael ac wrth i frechlynnau ychwanegol gael cymeradwyaeth yr MHRA, bydd modd mynd ati gam wrth gam i gynnig y brechlyn i grwpiau eraill, yn seiliedig ar eu risg o gymhlethdodau difrifol a marwolaeth.

Anogir pobl i aros i gael eu gwahodd, a bydd hynny’n digwydd drwy systemau'r GIG. Peidiwch â gofyn i'ch fferyllydd na'ch meddyg teulu.