Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y brechlyn COVID-19 cyntaf yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru o heddiw (Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020).

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos diwethaf, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o’r brechlyn, a heddiw Cymru yw un o’r cyntaf i ddechrau diogelu pobl rhag coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG wedi bod yn paratoi ar gyfer y dydd hwn ers mis Mehefin.

Mae’r rhaglen frechu’n dechrau ychydig ddiwrnodau yn unig wedi i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gymeradwyo’r brechlyn COVID-19 cyntaf i’w ddefnyddio yn y DU, gan gadarnhau ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfannau brechu torfol, yn seiliedig ar adolygiad arbenigol annibynnol manwl o ganlyniadau treialon clinigol ar raddfa fawr.

Bydd 40 miliwn dos o’r brechlyn Pfizer-BioNTech ar gael ar draws y DU, a Chymru’n cael dyraniad yn seiliedig ar ei phoblogaeth. O’r cyflenwad cyntaf o frechlynnau a fydd yn cael ei ddanfon, bydd Cymru’n cael bron i 40,000 o ddosau, sy’n ddigon ar gyfer bron i 20,000 o bobl.

Bydd pob bwrdd iechyd yn dechrau gweinyddu’r brechlynnau i staff cartrefi gofal, pobl dros 80 oed a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen y mae mwyaf o beryg iddynt – bydd dros 6000 o ddosau’n cael eu rhoi cyn diwedd yr wythnos hon.

Er yr heriau penodol sy’n bodoli o ran storio a pharatoi’r brechlyn, mae gwaith yn parhau i sicrhau y bydd brechlyn effeithiol yn cael ei ddosbarthu’n ddiogel i breswylwyr cartrefi gofal.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Yr wythnos ddiwethaf, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o’r brechlyn COVID-19. Heddiw, rwy’n falch iawn mai Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau cyflwyno’r brechlyn i’w phobl.

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt i ni i gyd. Mae’r brechlyn hwn yn llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll.

“Ond dydy’r ffaith bod brechlyn ar gael ddim yn golygu bod modd i ni roi’r gorau i’r holl arferion sy’n ein diogelu. Rhaid i ni barhau i wneud ein rhan i atal y coronafeirws rhag lledaenu: golchi dwylo yn rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol, a gwisgo gorchudd wyneb lle bynnag y bo’n ofynnol i ddiogelu ein hunain ac eraill.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Gall gymryd nifer o flynyddoedd, degawdau hyd yn oed, i ddatblygu brechlynnau. Mae’r ffaith bod brechlyn diogel ac effeithiol wedi cael ei ddatblygu mewn llai na blwyddyn yn deyrnged aruthrol i’r holl ymchwilwyr a gwyddonwyr ar draws y byd sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i frechlyn ar gyfer COVID-19.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar ei gyfer. Heddiw, bydd y bobl gyntaf yng Nghymru yn derbyn y brechlyn. Dyma’r newyddion cadarnhaol rydyn ni i gyd wedi bod yn aros amdano.

“Nawr byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflenwi’r brechlyn COVID-19 ar draws Cymru dros y diwrnodau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”