Heddiw, mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi bod y brechlyn COVID-19 cyntaf wedi cael ei gymeradwyo ac y bydd y gwaith o’i gyflwyno ledled Cymru yn dechrau ymhen dyddiau.
Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) bellach wedi awdurdodi’r brechlyn cyntaf fel brechlyn diogel ac effeithiol ar sail proses adolygu arbenigol, annibynnol a manwl o dystiolaeth o dreialon clinigol graddfa fawr.
Brechlyn Pfizer Biontech yw’r brechlyn cyntaf i gael cymeradwyaeth yr MHRA yn y Deyrnas Unedig. Bydd 40 miliwn dos o’r brechlyn ar gael cyn bo hir i’w dosbarthu ledled y DU, a bydd Cymru yn cael ei dyraniad yn ôl ei phoblogaeth.
Mae’n bosibl na fyddwn yn gweld effeithiau’r brechlyn yn genedlaethol am rai misoedd ac mae’r cyngor ar ddiogelu Cymru yn parhau’n berthnasol i bawb; lleihau’ch cysylltiadau â phobl eraill gymaint â phosibl, cadw pellter o 2m oddi wrth bobl eraill, golchi’ch dwylo’n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo hynny’n ofynnol ac osgoi cyffwrdd arwynebau y mae pobl eraill wedi’u cyffwrdd, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Cymeradwyaeth yr MHRA yw’r cam cyntaf yng nghynllun Cymru ar gyfer cyflwyno brechlyn, gwaith sydd wedi bod yn cael ei baratoi ers mis Mai. Mae sawl cam i’w ddilyn o hyd cyn i’r brechlyn gyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf a chyn y bydd yn barod i’w ddefnyddio, ond mae disgwyl i’r broses hon ddigwydd yn ystod yr wythnos nesaf.
Mae’r camau hyn yn cynnwys:
- Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i gwblhau a chyhoeddi ei ganllawiau ar gyfer y DU gyfan
- Cwblhau deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a thaflenni gwybodaeth i gleifion
- Hyfforddi imiwneiddwyr profiadol ar gyfer y brechlyn penodol hwn
- Pob bwrdd iechyd yng Nghymru i awdurdodi fframweithiau cyfreithiol terfynol i ganiatáu i weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig roi’r brechlyn i gleifion.
Bydd y brechlyn – sydd angen ei roi mewn dau ddos – yn cael ei flaenoriaethu i ddechrau ar gyfer pobl 80 mlwydd oed a hŷn, staff a phreswylwyr catrefi gofal, a’r rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y cyflenwadau cyntaf o’r brechlyn yn cael eu darparu ym mhrif safleoedd y byrddau iechyd ac mewn canolfannau brechu lleol pwrpasol, gan fod angen storio brechlyn Pfizer Biontech ar dymheredd isel iawn. Mae’r byrddau iechyd eisoes wedi penderfynu ar y canolfannau hyn ac maent wrthi’n eu paratoi i weithredu.
Pan fydd y cyflenwadau yn cynyddu a brechlynnau eraill yn cael cymeradwyaeth yr MHRA, bydd grwpiau eraill yn cael cynnig y brechlyn yn ôl blaenoriaeth a’r risg o gymhlethdodau difrifol a marwolaeth.
Bydd unigolion yn y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechlyn COVID-19 yn cael eu gwahodd gan eu cyflogwr neu eu bwrdd iechyd. Bydd y gwahoddiad yn darparu gwybodaeth am y brechlynnau COVID-19, gan gynnwys ble i fynd a beth i’w wneud ar ddiwrnod eu hapwyntiad.
Mae pobl yn cael eu hannog i aros i gael eu gwahodd a pheidio â gofyn i’w fferyllydd na’u meddyg teulu. Byddant yn cael eu gwahodd drwy systemau’r GIG.
Mae cynlluniau ar waith i frechu pobl sy’n gaeth i’r tŷ a phobl mewn cartrefi gofal cyn gynted ag y mae’n bosibl gwneud hynny’n ddiogel, gan fynd â’r brechlyn wedi'i cymderadwyo yn ddiogel atynt gan ddefnyddio gwasanaeth symudol, unwaith byddant wedi'u clirio ar y biden hwn.
Mae’r broses o ddatblygu brechlynnau’r coronafeirws wedi bod mor llym â’r broses ar gyfer unrhyw frechlyn arall ond yn sgil y pandemig mae wedi’i chyflymu drwy gyllid prydlon, byd-eang a llai o waith papur. Nid yw hyd y treialon wedi’i leihau, ac mae’r mesurau diogelwch arferol yn dal i fod ar waith.
Ni fydd y brechlyn yn orfodol a bydd pobl yn gallu dewis cael y brechlyn ai peidio. Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl cyn cael eu brechu i roi sicrwydd iddynt ynglŷn â diogelwch cleifion a bydd prosesau cydsynio cadarn ar waith.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
“Mae’n wych gallu dweud o’r diwedd bod y brechlyn COVID-19 cyntaf wedi cael y golau gwyrdd. Rydyn ni nawr yn gwybod bod gennym ni frechlyn diogel ac effeithiol i’w ddefnyddio ar draws y Deyrnas Unedig – dyma’r newyddion cadarnhaol rydw i a chynifer o bobl eraill ar draws y wlad wedi bod yn aros amdano.
“Mae pob un o sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws Cymru wedi ymateb i’r her oedd o’u blaen ac wedi hen ddechrau cynllunio ar gyfer brechlyn posibl. Rydym wedi cynnal ymarferion i brofi ein trefniadau dosbarthu a storio, a sicrhau bod modd inni gludo’r brechlyn yn ddiogel i bob rhan o Gymru.
“Mae angen edrych ar rai camau o hyd, ond pan fydd yr holl fesurau diogelu yn eu lle, bydd modd dechrau brechu. Cymharol ychydig o frechlynnau fydd ar gael i ddechrau, rhai y cynghorwyd eu bod fwyaf angen y brechlyn yn gyntaf, drwy ddulliau wedi'u cymeradwyo. Bydd cyhoeddiad llawn am yr amserlen yng Nghymru yn dilyn dros y diwrnodau nesaf.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Mae’r newyddion heddiw yn lygedyn o obaith ar ben draw twnnel hir a thywyll.
“Rydyn ni’n gwybod bod rhai aelodau o’n cymunedau mewn llawer mwy o berygl nag eraill o ddioddef cymhlethdodau difrifol yn sgil COVID-19, felly ein blaenoriaeth fydd eu hamddiffyn nhw i ddechrau.
“Tra bod y brechlynnau cyntaf yn cael eu rhoi mewn safleoedd sefydlog a lleoliadau galwedigaethol, ac i ddiogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid inni i gyd barhau i wneud ein rhan i atal lledaeniad y coronafeirws: golchi ein dwylo yn rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb lle bynnag bo hynny’n ofynnol i ddiogelu eich hunan ac eraill.”
Dywedodd is-gadeirydd Bwrdd y Rhaglen Brechlynnau COVID-19, Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Naw mis yn unig ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi pandemig byd-eang, mae’r brechlyn diogel ac effeithiol cyntaf ar gael i’w ddefnyddio yng Nghymru, gyda brechlynnau eraill hefyd i ddilyn. Mae hyn yn llwyddiant sylweddol. Mae pawb wedi bod yn paratoi ers misoedd i gyflawni’r rhaglen brechlynnau COVID-19, ac fe fydd yn gyffrous iawn gallu dechrau, yn syth pan fydd y camau olaf yn cael eu rhoi yn eu lle i gyflawni’r rhaglen yn ddiogel.”