Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi croesawu'r ymateb calonogol i gyffur newydd sy'n atal HIV, ar ôl blwyddyn o’i ddarparu drwy’r GIG yng Nghymru.
Dechreuodd byrddau iechyd Cymru ddarparu cyffuriau PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad) ym mis Gorffennaf llynedd drwy glinigau iechyd rhywiol, fel rhan o astudiaeth dros dair blynedd. Gellir cynnig y feddyginiaeth gwrthretrofirol i bobl sydd heb eu heintio ond sydd mewn risg, er mwyn eu hatal rhag cael HIV.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru a grŵp annibynnol o arbenigwyr ar HIV gynnal yr astudiaeth er mwyn darparu tystiolaeth o effeithiolrwydd PrEP i atal HIV.
Yn ystod blwyddyn gyntaf yr astudiaeth (Gorffennaf 2017 - diwedd Mehefin 2018), dechreuodd 559 o bobl gael eu trin ac ni wnaeth unrhyw un oedd yn defnyddio PrEP fynd ymlaen i ddatblygu HIV.
Mae Cymru yn edrych ar PrEP ac atal HIV mewn ffordd wahanol i Loegr, lle nad oes dull gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddilyn, a lle mae elusen yn ceisio codi arian ar gyfer triniaethau PrEP.
Mae PrEP yn un rhan o'r strategaeth ehangach i ostwng nifer yr achosion newydd o HIV. Mae'r gostyngiad mewn achosion newydd o heintiau yn parhau, gyda'r data diweddaraf (Mai 2018) yn dangos bod nifer yr achosion newydd o HIV wedi syrthio 24% yn chwarter olaf 2017 o gymharu â chwarter olaf 2016.
Iechyd Cyhoeddus Cymru: PrEP yng Nghymru (Saesneg yn unig, dolen allanol)Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn bod gwasanaethau iechyd rhywiol Cymru wedi manteisio ar y cyfleoedd y gall PrEP eu cynnig, ac mae canlyniadau cychwynnol yr astudiaeth yn galonogol iawn. Ni chafwyd unrhyw adroddiadau am achosion newydd o HIV ymysg y rhai sydd wedi dechrau cymryd y feddyginiaeth.
“Mae Cymru wedi gweld gostyngiad parhaus mewn achosion newydd o HIV. Does dim amheuaeth bod PrEP yn gostwng cyfraddau heintio HIV o'u cymryd yn gywir, gyda chymorth gwasanaethau iechyd rhywiol ataliol ehangach. Gall helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo a heintio HIV yn gyffredinol. Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau pellach wrth iddynt ddod i'r amlwg.
“Mae darparu cyffuriau PrEP yng Nghymru yn rhan bwysig o'n gwaith ehangach i atal HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Er mwyn helpu i weithredu argymhellion adolygiad iechyd rhywiol diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydw i wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o ymyraethau. Yn eu plith mae cynllun peilot ar gyfer profion ar-lein am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phrosiect i ddarparu profion hunan-samplu HIV i’r rhai sy’n mynd i glinigau PrEP. Bydd y gwaith hwn yn darparu gwybodaeth werthfawr am ymarferoldeb profion ar-lein a hunan-brofion, ac yn cyfrannu at ddatblygiadau eraill yn y dyfodol o ran darpariaeth gwasanaethau iechyd rhywiol.”