Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn falch o glywed bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRI) Llywodraeth Cymru ym Mrychdyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y seremoni torri'r dywarchen, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi y bydd yr athrofa yn newid pethau'n llwyr.  Byddai'n cynnig lefel newydd o gefnogaeth i fusnesau ac yn sicrhau bod diwydiant, partneriaid academaidd ac entrepreneuriaid yn cydweithio i sbarduno arloesedd, masnacheiddio, gwella sgiliau'r gweithlu ac ysgogi twf economaidd. Mae hyn yn cefnogi nifer o elfennau craidd Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £20m yn yr athrofa newydd â'i ffocws cryf ar y sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys awyrofod, modurol, niwclear a bwyd.

Bydd yn cynnig lefel cwbl newydd o gymorth i gwmnïau gweithgynhyrchu allweddol yn ogystal ag i gwmnïau yng nghadwyn cyflenwi nifer o sectorau a busnesau bach a chanolig.  Bydd yn canolbwyntio ar gynyddu cynhyrchiant, masnacheiddio, arloesedd a datblygu sgiliau.

Yr adeilad ym Mrychdyn, fydd yn cael ei gwblhau flwyddyn nesaf, yw cam cyntaf prosiect dau safle. Disgwylir agor safle Brychdyn ddiwedd 2019.
Cadarnhawyd mai Airbus fydd tenant cyntaf yr AMRI ym Mrychdyn a gallai, rhagwelir, gynyddu'r GVA gymaint â £4bn dros 20 mlynedd. Mae trafodaethau Llywodraeth Cymru ag AMRC Sheffield i redeg y ganolfan yn tynnu tua'u terfyn ac y mae newydd benodi'r contractwr Galliford Try i reoli'r gwaith adeiladu.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:

"Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £20m yn ein Hathrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn.  Bydd yn newid pethau'n llwyr o ran yr help sy'n cael ei gynnig i fusnesau.

"Bydd yr AMRI yn creu'r amodau i ddiwydiant, partneriaid academaidd ac entrepreneuriaid gydweithio â'i gilydd i ganolbwyntio ar arloesedd, ymchwil a masnacheiddio.  Rwy'n falch iawn mai Airbus fydd tenant cynta'r Ganolfan i gynnal prosiect cyffrous yno ar dechnolegau adenydd yn y dyfodol.

"Bydd AMRI yn canolbwyntio ar fasnacheiddio ac ar ddatblygu sgiliau o'r radd flaenaf ar draws y byd gweithgynhyrchu yn ogystal â pharatoi'r genhedlaeth nesaf o allforwyr, arloeswyr ac arweinwyr trwy hyfforddiant, prentisiaethau a graddau PhD.

"Bydd hynny'n sicrhau sylfaen o ddiwydiannau ffyniannus a fydd yn sbardun i'r economi dyfu ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi, gan gynyddu cynhyrchiant diwydiant Cymru a'i helpu i gystadlu yma a thu hwnt." 

Dywedodd Paul McKinlay, Uwch Is-Lywydd Airbus a ohennaeth ffatri Brychdyn: 

“Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dewis safle Broughton fel lleoliad y cyfleuster newydd gwych hwn. Bydd y gwaith y byddwn yn ei wneud yn AMRI yn arwain at well cynhyrchiant i Airbus a hefyd i’n cadwyn gyflenwi ehangach.”