Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi nodi dechrau'r gwaith o adeiladu'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol newydd mewn seremoni ar safle gwesty'r Celtic Manor.
Pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau yn 2019, bydd y Ganolfan yn darparu lle i gyfarfodydd, cynadleddau, arddangosfeydd a digwyddiadau, a hynny ar ofod o 26,000 metr sgwâr - mae hynny bron cymaint â phedwar cae rygbi rhyngwladol.
Menter ar y cyd gwerth £83.7m rhwng Celtic Manor a Llywodraeth Cymru yw'r Ganolfan, a bydd ynddi ddigon o le i 5,000 o bobl, ac yn cynnwys prif neuadd, 4,000 metr sgwâr, heb bileri, awditoriwm gyda 1,500 o seddi, 12 o ystafelloedd cyfarfod hyblyg, atriwm gwydr uchder dwbl a gofod allanol 2,500 metr sgwâr.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn hanfodol os ydym am wireddu ein huchelgais o wneud Cymru yn leoliad rhyngwladol blaenllaw ar gyfer busnesau. Er mwyn cystadlu mewn marchnad ryngwladol cystadleuol iawn, mae angen canolfan gynadledda o'r ansawdd a'r maint hwn ar Gymru. Bydd lleoliad fel hwn, sydd yn un o'r radd flaenaf, yn ein galluogi i fanteisio ar enw da Cymru fel man i gynnal digwyddiadau mawr. Mae'r Celtic Manor eisoes wedi dangos ei fod yn gallu cynnal digwyddiadau byd-eang, ac rwy'n hyderus y bydd ein partneriaeth gyda'r gwesty ar y prosiect hwn yn sicrhau buddiannau economaidd sylweddol i Gymru."
Dywedodd Syr Terry Matthews, Cadeirydd gwesty'r Celtic Manor:
"Bydd Canolfan Gynadleddfa Ryngwladol Cymru yn newid y ffordd y caiff Cymru ei gweld ar y llwyfan digwyddiadau busnes rhyngwladol. Am yn lawer rhy hir, nid yw Cymru wedi cael ei siâr o'r farchnad broffidiol hon, fel y mae'r wlad yn ei haeddu. Mae hyn yn mynd i newid. Rwy'n hyderus ein bod wedi cychwyn ar gyfnod newydd o weld Cymru yn cynnal digwyddiadau mawr, a bydd ein canolfan gynadledda newydd sbon yn parhau â'r momentwm hwnnw am ddegawdau i ddod. Rwy'n teimlo'n falch iawn cael gweld y prosiect anhygoel hwn yn dechrau dwyn ffrwyth, ac rwy'n talu teyrnged i arweinwyr ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, sydd wedi ein helpu i wireddu'r freuddwyd hon."