Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Deb Austin

Mae Deb yn fam i ddau o blant, yn athrawes gymwysedig, yn aelod profiadol o’r bwrdd llywodraethu ac arweinydd cendlaethol – CAMHS (NHS) ar hyn o bryd â rôl flaenorol o arweinydd ar y rhaglen genedlaethol 'Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc' a sefydlwyd fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gydag ymrwymiad traws-gabinet.

Mae'n gweithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Lansiwyd Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc ym mis Chwefror 2015, ac roedd yn cael ei arwain gan y GIG a'i rhedeg fel rhaglen amlasiantaethol ar gyfer gwella gwasanaethau. Roedd blaenoriaethau'r rhaglen yn cynnwys - archwilio ffyrdd o ail-lunio, ailfodelu ac ailffocysu gwasanaethau iechyd emosiynol, lles ac iechyd meddwl a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys  Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

Mae Deb wedi treulio'r 4 blynedd a hanner diwethaf yn canolbwyntio ar gyd-greu fframweithiau ac adnoddau Cymorth Cynnar a gwell cefnogaeth ar gyfer lles emosiynol ac iechyd meddwl plant (NYTH / NEST). Gyda'r dysgu o'r Dull Ysgol Gyfan mewn golwg, mae Deb wedi arwain gwaith pellach ar ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Cynnar a Gwell Cefnogaeth a elwir yn NYTH / NEST. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwaith amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol, gyda'r nod o ddatblygu Fframwaith i arwain datblygiad a gwelliant gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hwn nawr yn nod yn y  Rhaglen Lywodraethu fel rhan o'r Gronfa Ranbarthol Integredig newydd mewn partneriaeth â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae'n angerddol dros wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddulliau gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau sy'n cael eu harwain gan werthoedd ac yn hyddysg yn seicolegol.