Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau sylfaenol er mwyn monitro newidiadau yn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi yng Nghymru.

Canfyddiadau allweddol

  • Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr mai Llywodraeth y DU sydd â'r rheolaeth fwyaf dros y trethi y maent yn eu talu yng Nghymru.
  • Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn gwybod y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu gosod rhai trethi yng Nghymru o fis Ebrill 2018.
  • Byddai mwy na saith o bob deg o ymatebwyr yn disgwyl i'r holl arian neu'r rhan fwyaf o'r arian a godwyd o drethi Cymru fynd tuag at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cefndir

O fis Ebrill 2019 bydd tua £5 biliwn o refeniw datganoledig a refeniw lleol yn cael eu codi bob blwyddyn yng Nghymru trwy:

  • Treth trafodiadau tir
  • Treth gwarediadau tirlenwi
  • Cyfraddau treth incwm Cymru
  • Y dreth gyngor
  • Ardrethi annomestig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadansoddi data arolwg i ddarparu darlun sylfaenol o ddealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi. Defnyddir y dadansoddiad i hysbysu lle dylid ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng yr arian a enillir ac a godir yng Nghymru trwy drethi Cymru, a sut y caiff ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Adroddiadau

Dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi: adroddiad sylfaenol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi: adroddiad sylfaenol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 646 KB

PDF
646 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owen

Rhif ffôn: 0300 025 8586

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.