Ymchwil i ddeall pa gartrefi incwm isel sydd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi oer, ac felly yn debygol o fod a’r angen mwyaf am welliant effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Yn sgil y prosiect, cododd sawl ffactor sy’n risg ar gyfer effeithiau andwyol byw mewn cartref oer.
Dyma rai ohonyn nhw:
- oedolion hŷn
- plant ifanc
- cartrefi sydd â rhywun sy’n anabl neu sydd â salwch hir dymor sy’n cyfyngu ar eu bywyd
- unigolion sydd â chlefydau anadlol neu gylchredol
- unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl
Mae’r ymchwil wedi gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir rhoi cynllun defnyddio ynni’n fwy effeithiol ar waith er mwyn targedu’r rheini sydd mewn perygl fwyaf yn y ffordd orau ac y byddai byw mewn cartref oer yn fwy tebygol o gael effaith andwyol arnyn nhw.
Gwnaed amcanestyniadau ynghylch faint o gartrefi allai elwa o welliannau yn eu cartrefi gyda’r amrywiaeth o gyllidebau blynyddol sydd ar gael.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/deall-pa-fath-o-bobl-syn-byw-mewn-cartrefi-incwm-isel-y-mae-byw-mewn-cartref-oer-yn-fwy-tebygol-o-effeithio-arnyn-nhw-adroddiad-terfynol-thumb_jpg.jpg?itok=xAcJbl1f)
Adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/deall-pa-fath-o-bobl-syn-byw-mewn-cartrefi-incwm-isel-y-mae-byw-mewn-cartref-oer-yn-fwy-tebygol-o-effeithio-arnyn-nhw-adroddiad-terfynol-crynodeb-thumb_jpg.jpg?itok=3kGhFmLy)
Adroddiad terfynol: Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 441 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/deall-pa-fath-o-bobl-syn-byw-mewn-cartrefi-incwm-isel-y-mae-byw-mewn-cartref-oer-yn-fwy-tebygol-o-effeithio-arnyn-nhw-modelau-senarios-ychwanegol-thumb_jpg.jpg?itok=1b4aqSOG)