Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Comisiynwyd Steer Economic Development (Steer-ED) gan Lywodraeth Cymru ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddeall yr ystod lawn o fuddion, costau a risgiau trosglwyddo asedau coetir i drydydd parti. Gallai trosglwyddiadau o’r fath gynnwys gwerthu pren, neu drosglwyddo hawliau eiddo drwy drefniadau rheoli a pherchnogaeth gwahanol. Roedd yr adolygiad hwn hefyd yn ceisio deall sut y gellid mesur yr effeithiau hyn a, lle y bo’n bosibl, rhoi gwerth ariannol iddynt ar gyfer gwerthuso cynigion a monitro effaith.

Bu’r ymchwil hwn yn sail i ddatblygiad canllaw cyfeirio ar gyfer CNC i gefnogi arfarnu prosiectau (gan gynnwys eu gwerth cymdeithasol) yn y dyfodol mewn perthynas â mynediad cymunedol neu drydydd sector at goetir a/neu bren ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru. Mae’r canllaw yn nodi’r canlyniadau disgwyliedig, ffactorau a allai effeithio ar raddau cyflawni’r canlyniadau, a’r hyder yn y dystiolaeth y gallai trosglwyddiad arwain at y canlyniadau hyn. Mae hefyd yn awgrymu dulliau ar gyfer meintioli effeithiau a, lle bo’n berthnasol, gwerth ariannol. Darperir hefyd wybodaeth am yr hyder mewn metrigau meintioli effaith a dulliau gweithredu ar gyfer gwerth ariannol i lywio eu defnydd wrth arfarnu a gwerthuso prosiectau.

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Ar hyn o bryd nid oes fframwaith o fewn Llywodraeth Cymru a CNC i gefnogi arfarnu trefniadau trosglwyddo asedau coetir yn unol â chanllawiau’r llywodraeth yn y Llyfr Gwyrdd a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Nodau’r ymchwil felly oedd:

  • deall yr ystod lawn o fuddion, costau a risgiau trosglwyddo asedau coetir i drydydd parti, a sut mae’r rhain yn amrywio yn ôl ffactorau prosiectau a lleoliadau penodol
  • deall y dylanwadau allweddol ar ganlyniadau a gyflawnir, hirbarhad canlyniadau a risgiau i gyflawniad y canlyniadau
  • deall canlyniadau anfwriadol posibl caniatáu i grwpiau cymunedol reoli stoc pren CNC
  • deall o dan ba amodau y gallai darparu stoc coetir a/neu goed i grwpiau cymunedol lleol roi budd net o ran gwerth cyhoeddus
  • deall pa effeithiau y gallai trosglwyddo asedau coetir eu cael ar weithrediadau rheoli coetir CNC
  • ystyried sut y caiff buddion, costau a risgiau posibl eu hasesu a’u meintioli yn ymarferol ac yn briodol gan sefydliadau fel CNC, gan gynnwys ffactorau sy’n debygol o fod yn benodol i brosiectau a lleoliadau

Roedd y prosiect yn cynnwys ymchwil ar draws pum cam:

  1. Ymgynghoriadau cwmpasu i gael gwell dealltwriaeth o gyd-destun y gwaith, drwy drafod â’r comisiynydd (Llywodraeth Cymru), y defnyddiwr terfynol arfaethedig (CNC) a rhanddeiliaid allweddol eraill
  2. Adolygiad llenyddiaeth nad oedd yn hollgynhwysfawr o’r dystiolaeth ar gyfer buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, costau, a risgiau o roi cyfle i sefydliadau cymunedol reoli coetir; a chynaeafu a gwerthu stoc pren
  3. Ymgynghoriadau strategol gyda grwpiau coetir cymunedol Cymru, timau CNC wedi’u lleoli mewn mannau penodol, a Forestry and Land Scotland
  4. Cyfuniad o’r ymgynghoriadau a’r adolygiad llenyddiaeth i ddatblygu model rhesymeg er mwyn dangos sut y disgwylir i drosglwyddiad asedau coetir weithio’n ymarferol drwy fapio’r cadwyni achosol o fewnbynnau i effeithiau
  5. Adolygiad o’r data sydd ar gael a’r dulliau y gellid ei ddefnyddio gan CNC i gefnogi arfarniad prosiectau (gan gynnwys eu gwerth cymdeithasol) yn y dyfodol mewn perthynas â mynediad cymunedol neu drydydd sector at goetiroedd a/neu goed ar Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru

Yna defnyddiwyd y model rhesymeg a’r adolygiad data a dulliau ar gyfer mesur a phrisio canlyniadau i ddatblygu canllaw cyfeirio i lywio’r gwaith o ddatblygu fframwaith arfarnu ar gyfer cynigion sy’n ymwneud â throsglwyddo rheolaeth asedau coetir o CNC i sefydliadau cymunedol neu drydydd sector yng Nghymru, o bosibl am bris is na phrisiau’r farchnad.

Prif ganfyddiadau

Adolygiad o’r dystiolaeth

Mae’r llenyddiaeth a nodwyd ac a adolygwyd yn awgrymu bod ystod eang o effeithiau a risgiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd posibl yn sgil trosglwyddo asedau pren i drydydd parti, ac yn benodol grwpiau coedwigaeth cymunedol a mentrau cymdeithasol. Fodd bynnag, yn unol ag adolygiadau cynharach, rydym yn canfod bod diffyg cyson tystiolaeth empirig gadarn mewn perthynas ag effaith wirioneddol trosglwyddo asedau ar gymunedau a’r gymdeithas ehangach, ac yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau bioffisegol, economaidd ac ariannol. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth gryfaf yn ymwneud ag effeithiau lles sy’n gysylltiedig â gwell mynediad i/profiad o goetiroedd a chyfranogi mewn gwirfoddoli.

Mae cyfyngiadau yn y dystiolaeth yn cynnwys data gwaelodlin a hydredol prin i gynorthwyo i asesu a wireddwyd buddion, a diffyg dulliau gwerthuso cyson o fewn y sylfaen dystiolaeth. Hefyd, nid yw llawer o’r dystiolaeth chwaith yn ystyried i ba raddau y mae unrhyw fuddion a allai ddeillio o drosglwyddo asedau i grwpiau coetir cymunedol (GCCau) yn ychwanegol at y rheini a allai ddeillio pe bai’r trosglwyddwr (h.y. CNC) yn cadw rheolaeth ar y safle.

Er bod gan drosglwyddo asedau coetir i drydydd parti, ac yn enwedig grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol, y potensial i greu ystod o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, mae diffyg tystiolaeth gadarn y gellir ei chyffredinoli.

Ymgynghoriadau â rhanddeiliaid

Datgelodd ein hymgynghoriadau â CNC, grwpiau coetir cymunedol a rhanddeiliaid allweddol eraill y canlynol.

Roedd pob GCC a gyfwelwyd yn wahanol o ran maint a lleoliad, ond roedd gan bob un ohonynt rai nodau tebyg a oedd yn gorgyffwrdd; i greu buddion ar gyfer eu cymuned leol. Roedd y rhain yn cynnwys:

  1. Gwella bioamrywiaeth, iechyd (gan gynnwys cefnogi cleifion Byrddau Iechyd), cydlyniant a chyfranogiad cymunedol, a gallu a hyder cymunedol
  2. Darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a datblygu sgiliau er mwyn cynyddu cyflogadwyedd
  3. Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phwysau ar Wasanaethau Cyhoeddus

Roedd cyfweleion CNC yn teimlo bod grymuso GCCau a’u cefnogi i ffynnu wedi cyfrannu at leoedd llewyrchus ac wedi galluogi CNC i gyflawni ei nodau strategol. Yn yr un modd, roedd y GCCau a gyfwelwyd o’r farn bod eu rôl yn galluogi CNC i gyflawni ei amcanion ei hun.

Roedd yr holl asedau a reolwyd gan y GCCau a gyfwelwyd yn goetiroedd nad ydynt yn cael eu hystyried yn anghynhyrchiol neu rai sy’n cael eu tanddefnyddio.

Amlygwyd costau a risgiau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo rheolaeth asedau coetir i GCCau; fodd bynnag, ystyriwyd bod y costau a’r risgiau hyn yn fach o ran eu natur mewn cymhareb â holl weithgarwch CNC.

Teimlai cyfweleion fod risg gyffredin i bob GCC o ansefydlogrwydd yn strwythur y sefydliad oherwydd trosiant personél neu’r gallu i gadw gwirfoddolwyr. O ystyried hyn, dylai fod yn amcan i bob GCC gynnwys y gymuned gyfan yn y gwaith cyd-ddylunio o’r cychwyn cyntaf er mwyn annog diddordeb gan gymaint o aelodau’r gymuned â phosibl.

Er y teimlwyd bod cynlluniau rheoli a gyflwynir gan GCCau i CNC yn ddigonol ac yn briodol er mwyn alinio cynnydd rhwng gwahanol bartïon, heb dempled penodol i GCCau ei ddilyn, gallai offeryn cyfeirio neu fodel rhesymeg syml sy’n cyd-fynd â disgwyliadau CNC helpu i egluro sut y gall GCCau gysylltu eu hamcanion penodol eu hunain â buddion perthnasol a chymesur. Gall y model rhesymeg weithredu fel yr edefyn aur sy’n cysylltu nodau strategol â chanlyniadau cadarnhaol hysbys.

Yn olaf, roedd GCCau yn teimlo bod cyfle i’r diwydiant coed weithio gyda GCC, yn hytrach na gweithio o’i gwmpas neu niweidio ei weithgarwch.

Canllaw cyfeirio: adolygu data a dulliau i gefnogi datblygiad fframwaith arfarnu

Nododd yr adolygiad, ar gyfer llawer o effeithiau posibl trosglwyddo asedau coetir, fod ystod o ddulliau cadarn ar gyfer meintioli a chanfod gwerth ariannol effeithiau, felly mae angen penderfyniadau gwybodus am ddewisiadau o’r fath. Dylai’r dewis o werthoedd fod yn seiliedig ar ddefnyddio dulliau a ffynonellau cadarn ac addas, ond gall hefyd fod yn ddibynnol ar y data sydd ar gael, mesurau a gymerwyd i leihau cyfrif dwywaith a pharodrwydd CNC i brynu cytundebau trwydded ar gyfer peth o’r offer.

Mae llawer o ddulliau a nodwyd yn dod o fewn canllawiau Llywodraeth y DU a chanllawiau atodol. Mae’n debygol y bydd angen ystyried rhai o’r rhain ymhellach o gofio eu bod y tu allan i ffynonellau canllawiau perthnasol, ond, o dan amgylchiadau priodol, efallai y bydd ganddynt rywfaint o rôl wrth lywio amcangyfrifon lle mae bylchau yn dal i fod yn y dystiolaeth.

Gan ddefnyddio’r ymchwil mae Tabl 1-1 yn rhoi crynodeb o’r canfyddiadau allweddol. Mae’n rhoi gwybodaeth am yr effeithiau (buddiannau, costau a risgiau) a’r potensial i ymgorffori effeithiau meintiol ac ariannol mewn asesiad cost gwerth am arian/budd.

Tabl 1-1 Trosolwg o ansawdd y dystiolaeth yn y canllaw cyfeirio
Effaith Ansawdd y dystiolaeth ar gyfer effaith bosibl trosglwyddo asedau cymunedol Ansawdd y dystiolaeth ar gyfer gwerth ariannol
Bioamrywiaeth a gwydnwch coetir Cyfyngedig Gwan
Addasiad Cyfyngedig  Gwan 
Storio a secwestriad carbon Cyfyngedig Cryf 
Datgarboneiddio Cyfyngedig Cryf
Ysgogiad economaidd lleol Cyfyngedig Cryf 
Cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol Cymedrol Cryf 
Lles Cryf Cryf 
Ansawdd bywyd cymunedol Cymedrol  Cryf
Grymuso cymunedau Cyfyngedig Gwan
Ansawdd bywyd cymunedol Cymedrol  Cryf
Grymuso cymunedau Cyfyngedig Gwan

Ffynhonnell: Steer-ED

Oherwydd yr ystod o drefniadau trosglwyddo a’r amodau trosglwyddo cysylltiedig, yn ogystal â ffactorau megis y gwahaniaeth ym maint, lleoliad a ffocws prosiectau, mae canlyniadau (h.y. buddion, costau a risgiau) yn debygol o fod yn brosiect-benodol. Oherwydd hyn, mae dull gweithredu sy’n seiliedig ar gymhwyso set unffurf o ddangosyddion a chyfernodau yn annhebygol o fod yn briodol ar y cyfan.

Datgelodd yr adolygiad data a dulliau i fesur effaith nad oes un fframwaith neu offeryn ‘addas i bawb’ ond man cychwyn allweddol yw’r Llyfr Gwyrdd ac adnoddau canllaw atodol. Felly, mae’r canllaw cyfeirio a ddatblygwyd yn defnyddio llawer o offer, ond mae’n bwysig i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol o sail ac addasrwydd y ffynonellau hyn ar gyfer yr achos dan sylw, gan gynnwys eu cyfyngiadau.

Camau nesaf a argymhellir

Gallai CNC anelu at dreialu’r canllaw cyfeirio a argymhellir cyn ei wreiddio ar draws y sefydliad yn ehangach. Bydd angen i’r canllaw cyfeirio a argymhellir, a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, gael eu treialu o fewn CNC gyda grŵp defnyddwyr i nodi anghenion hyfforddiant, cyd-ddylunio templedi adrodd, canllawiau ychwanegol, a meysydd lle gallai fod angen arbenigedd. Bydd hefyd yn bwysig deall lle gallai trosglwyddiadau arwain at gostau ychwanegol i CNC (yn ariannol neu fel arall) – mae’r adolygiad tystiolaeth wedi rhoi rhyw syniad o’r rhain. Dylai CNC asesu a all ysgwyddo’r costau ychwanegol hyn cyn ac fel rhan o’r broses arfarnu, gan gydbwyso’r rhain yn erbyn y buddion y gall trosglwyddo asedau coetir eu cyflwyno.

Dylai CNC ystyried sefydlu set o brisiadau a metrigau cysylltiedig sydd wedi’u ‘cymeradwyo i’w defnyddio’. Diben y canllaw cyfeirio oedd darparu ystod eang o ffynonellau prisio sy’n ymdrin ag effaith yr holl weithgareddau y gallai GCCau ymgymryd â hwy. Mae’r ystod eang o werthoedd ariannol a gyflwynir yn adlewyrchu amrywiaeth y gweithgareddau a gyflawnir gan GCCau. Fodd bynnag, roedd archwilio pob prisiad yn unigol y tu hwnt i gwmpas yr astudiaeth hon. O ystyried hyn, mae nifer o brisiadau gwahanol ar gael yn y canllaw cyfeirio ar gyfer yr un canlyniad. Felly, dylai defnyddwyr (er enghraifft, grŵp defnyddwyr CNC) adolygu ffynonellau a phrisiadau am eu cadernid, prisiadau peilot a sefydlu sensitifrwydd gyda’r bwriad o gytuno ar set o brisiadau a metrigau cysylltiedig ‘cymeradwy i’w defnyddio’. Er y bydd y dewis o fetrigau a phrisiad yn amrywio fesul achos yn dibynnu ar yr ased a gweithgareddau arfaethedig y GCC, bydd cytuno ar gyfres o fetrigau a phrisiadau cymeradwy yn lleihau tuedd o ran dethol ac yn rhoi cysondeb ar draws arfarniadau. Wrth i ffynonellau prisio allweddol megis ENCA gael eu diweddaru, dylid adolygu’r prisiadau hyn, er enghraifft, yn flynyddol neu bob dwy flynedd i gadw’n gyfredol â datblygiadau yn y llenyddiaeth.

Dylai CNC dynnu ar ddysgu a phrofiad o raglenni trosglwyddo asedau coetir presennol (e.e. Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn yr Alban). Gallai CNC ystyried, er enghraifft, ymgynghori â Forestry and Land Scotland, i dynnu ar brofiad a dysgu o’r Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Yma, mae gan sefydliadau cymunedol hawl i wneud cais i gymryd drosodd tir neu adeiladau cyhoeddus y maent yn teimlo y gallant wneud gwell defnydd ohonynt ar gyfer pobl leol. Mae Forestry and Land Scotland wedi datblygu proses arfarnu trosglwyddiad asedau sy’n rhoi’r cyfrifoldeb am ddangos effaith ac ystyried costau a risgiau ar y grŵp cymunedol arfaethedig sydd wedyn yn cael ei adolygu gan banel o arbenigwyr a’i ategu gan ymweliadau safle. Dywedodd y GCCau a holwyd y gallai fframwaith ‘anhyblyg’ ar gyfer monitro a mesur canlyniadau rwystro arloesedd a gallai fod angen llawer o adnoddau, yn enwedig pan fo GCCau eisoes dan bwysau. Er yr ymgynghorwyd â Forestry a Land Scotland fel rhan o’r prosiect, cynghorir ymgynghoriad dilynol. Byddai hyn yn galluogi CNC i dynnu ar brofiad a dysgu o ddatblygiad a gweithrediad cynllun tebyg, mewn cyd-destun tebyg. 

Dylai CNC dreialu’r canllaw cyfeirio ynghyd â gwerthusiad cynhwysfawr, safonol a systematig o brosiectau trosglwyddo asedau coetir. Byddai’r dull hwn yn galluogi CNC i adeiladu sylfaen dystiolaeth ynglŷn â maint a hyd a lled yr effeithiau sy’n deillio o drosglwyddo asedau coetir, yn enwedig lle mae bylchau yn y dystiolaeth. Byddai hyn hefyd yn hwyluso CNC i nodi’r ffactorau mwyaf amrywiol sy’n effeithio ar wireddu effaith. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn yr astudiaeth hon yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad ansoddol o ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a’r adolygiad tystiolaeth mewn perthynas ag effaith maint a hyd a lled y gwahanol weithgareddau a gyflawnir gan GCCau. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth wedi’i chyfyngu i’r graddau bod y casgliadau yn rhannol ac yn anfesuradwy ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r crynodeb o ansawdd y dystiolaeth a gyflwynir yn Tabl 1-1 yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am yr effeithiau (buddiannau, costau a risgiau) a’r potensial i ymgorffori effeithiau meintiol ac ariannol mewn gwerth am arian / asesiad cost a budd. Bydd yn bwysig bod CNC yn gallu nodi rhyw fath o linell sylfaen y gellir monitro buddion yn ei herbyn a bod cynnydd yn cael ei asesu dros amser i helpu i roi syniad o’r effaith y mae unrhyw drosglwyddo asedau coetir wedi’i chael. Gall hyn hefyd helpu i ddechrau nodi lle mae effeithiau yn ychwanegol.

Dylai CNC ddatblygu fersiwn symlach o’r canllaw cyfeirio ar gyfer GCCau. Gallai pecyn cymorth sy’n cynnwys metrigau a phrisiadau ‘cymeradwy i’w defnyddio’ a chanllawiau penodol i GCCau roi brasamcan cyntaf ar y cam cynnig. O ystyried costau ychwanegol posibl i CNC pe bai cynigion GCCau a chytundebau rheoli gweithredol yn cynyddu’n sylweddol, gallai ffordd effeithiol o sgrinio cynigion leihau costau. Hefyd, gellid mabwysiadu’r dull hwn o gam cymeradwyo’r cynnig i gychwyn y prosiect i gyd-ddylunio monitro ac adrodd ar brotocolau a thablau risg. Gallai hyn feithrin gweithio mewn partneriaeth â CNC o’r cychwyn.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Johnson, V., Hanes, E., Robertson, A., Lang, E.

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Aimee Marks
Ebost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 6/2023
ISBN digidol 978-1-80535-441-3

Image
GSR logo