Neidio i'r prif gynnwy

Yn hytrach mae'n darparu asesiad o asedau Cymru, wedi'u gosod yn erbyn cefndir o dueddiadau byd-eang a fydd yn sbarduno newid yn y dyfodol.

Mae Deall Dyfodol Cymru yn ategu’r Rhaglen Lywodraethu gan ein helpu i gyflawni’r rhaglen dros y pedair blynedd a hanner nesaf. Nid yw’n ymgais i ragweld y dyfodol: yn hytrach mae’n cymryd stoc o asedau Cymru yn erbyn cefndir o dueddiadau byd eang er mwyn llywio newidiadau yn y dyfodol.

Mae’r dadansoddiad yn tynnu sylw at ein cryfderau amlwg fel gwlad:

  • Mae gennym economi agored a chystadleuol sy’n rhan annatod o farchnad y DU ac Ewrop;
  • Mae gennym ymwybyddiaeth fyw o’n hunaniaeth genedlaethol a’n treftadaeth ddiwylliannol;
  • Rydym mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’n hadnoddau a’n hamgylchedd naturiol.

Mae’r ddogfen hefyd yn realistig ynghylch yr heriau strwythurol y mae’n rhaid inni ymateb iddynt:

  • Y gwahanol broblemau sy’n gysylltiedig â thlodi y bydd angen gweithredu parhaus ac unedig yn eu cylch i wella cyfleoedd bywyd pobl;
  • Yr angen i sicrhau bod yr economi yn gallu denu pobl a buddsoddiad trwy gynnig seilwaith, gweithlu a lleoliadau addas;
  • Y peryglon a allai godi yn sgil y newid yn yr hinsawdd gan greu goblygiadau difrifol ar gyfer dyfodol Cymru.

Gyda’r cyfyngiadau llym ar ein cyllideb, mae’n bwysicach nag erioed bod yn glir ynghylch ble y dylem fuddsoddi ein hadnoddau i sicrhau canlyniadau cynaliadwy i bobl Cymru. Mae Deall Dyfodol Cymru yn asesu ein sefyllfa mewn modd cymharol a gonest, a bwriad y dadansoddiad yw ein helpu i gyflwyno gwelliannau sylweddol a mesuradwy yn rhagolygon hirdymor trigolion ein gwlad.

Adroddiadau

Understanding Wales’ Future (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.