Ymchwil i ddeall sut mae cymorth tai anabledd dysgu wedi’i strwythuro ar draws awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys beth sy’n cael ei ariannu a pham.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Dyma’r canfyddiadau cyffredinol:
- mae anghysondebau o ran sut y caiff cymorth tai anabledd dysgu ei ariannu ledled Cymru
- mae’r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn hyderus eu bod yn comisiynu gwaith cymorth sy'n gysylltiedig â thai cymwys neu'n gweithio tuag at sicrhau hyn
- mae rhai awdurdodau lleol yn dal i ddibynnu ar arian Grant Cefnogi Pobl i helpu i ariannu cynlluniau byw â chymorth neu gynlluniau lleoli oedolion
- mae gwariant yn cael ei effeithio gan drefniadau Cefnogi Pobl hanesyddol ac amlder newidiadau ers 2013 (a chyflwyniad Canllawiau Grant Cefnogi Pobl newydd)
- yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwil hon, cymorth sefydlog sydd yn cael ei ariannu yn bennaf (86%) gyda 13% o wariant yn ymwneud â chymorth yn ôl yr angen
Adroddiadau
Deall cyllid awdurdodau lleol ar gyfer cymorth llety anableddau dysgu ledled Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Rhian Davies
Rhif ffôn: 0300 025 6791
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.