Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr arolwg i ddeall anghenion y defnyddwyr ar bwnc iechyd a gofal cymdeithasol LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir

Rydym yn datblygu arolwg i wella ein dealltwriaeth o sut mae’r pwnc iechyd a gofal cymdeithasol ar LLYW.CYMRU yn cael ei ddefnyddio. Rydym eisiau cael gwybod:

  • pwy sy’n defnyddio’r pwnc iechyd a gofal cymdeithasol ar LLYW.CYMRU
  • pam eu bod yn defnyddio’r pwnc iechyd a gofal cymdeithasol ar LLYW.CYMRU
  • pa mor hawdd ydyw iddynt ddod o hyd i’r wybodaeth y maen nhw’n chwilio amdani

Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach i wella profiad y defnyddiwr wrth geisio cael gafael ar wybodaeth ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ar LLYW.CYMRU.

Mae opsiwn ichi adael eich enw a’ch cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg i gymryd rhan mewn ymchwil ar y prosiect hwn yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hyn yn gwbl ddewisol, a gallwch ddewis peidio â chymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol ar unrhyw adeg.

Rydym yn defnyddio SmartSurvey i gasglu’r ymatebion i’r arolwg. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata sy’n cael eu casglu drwy’r feddalwedd.

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer.

Mae’r wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu a’i chadw yn cynnwys:

  • enw
  • cyfeiriad e-bost
  • teitl y swydd
  • ym mha ardal awdurdod lleol yr ydych chi’n byw
  • ydych chi’n siarad Cymraeg
  • eich gallu wrth siarad Cymraeg

Beth ydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Fel rhan o’n cylch gwaith fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a ddaw i law at y dibenion isod. Mae’r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol.

Dibenion ymchwil (i’w cynnal mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod unigolion)

Mae'r dibenion ymchwil yn cynnwys:

  • gwella profiad y defnyddiwr o’r pwnc iechyd a gofal cymdeithasol ar LLYW.CYMRU
  • gwella’r profiad o ddefnyddio gwefan LLYW.CYMRU yn gyffredinol

Dibenion cyhoeddi (i’w cynnal mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod unigolion)

Mae angen inni adolygu’r data sy’n cael eu casglu. Wedi hynny, gallai fod yn ddefnyddiol rhannu data dienw â chydweithwyr sy’n gweithio ar wefannau cysylltiedig, er enghraifft cydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Sicrhau bod y defnyddiwr yn cael y profiad gorau oll ar draws y gwahanol wefannau fyddai’r diben. Efallai y byddwn hefyd am gyhoeddi data cryno ar LLYW.CYMRU. Data lefel uchel fyddai’r rhain, heb unrhyw wybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol â neb arall.

 phwy ydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth?

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar weinyddion diogel Llywodraeth Cymru a dim ond staff perthnasol Llywodraeth Cymru fydd yn gallu cael mynediad ati. Bydd yr enwau yn cael eu tynnu o unrhyw ddata sydd i gael eu rhannu, a byddant yn cael eu rhannu â rhanddeiliaid sydd â buddiant.

Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Pan fydd yr ymatebion i’r arolwg wedi’u casglu yn SmartSurvey, byddwn yn allforio’r data ac yn eu dileu o SmartSurvey.

Pan fydd y data wedi’u hallforio a’u cadw yn iShare, bydd yn etifeddu amserlen gwaredu arferol ar gyfer busnes y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel am hyd at dair blynedd. Ar ôl y pwynt hwn, bydd yn cael ei thynnu o’n cronfeydd data.

Ni fydd eich data personol yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw beth heblaw’r pwnc hwn.

Os gwnaethoch ddewis yr opsiwn eich bod yn barod inni gysylltu â chi, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau ymchwil yn y dyfodol. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi er mwyn rhoi’r diweddaraf ichi am gynnydd yr ymchwil. Gallwch ddewis peidio â derbyn y negeseuon hyn ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost atom i igc-gwefan@llyw.cymru.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

Mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch
  • i ofyn inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu bod y data yn cael eu prosesu
  • i’ch data gael eu ‘dileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion ynghylch yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Holly Roberts
Dylunydd Cynnwys
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru

E-bost: igc-gwefan@llyw.cymru

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk