Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ynghylch sut bydd y GIG yn delio â chi os byddwch chi’n cael eich niweidio yn eich triniaeth.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Ddyletswydd gonestrwydd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1012 KB

PDF
1012 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ddyletswydd gonestrwydd - hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 489 KB

PDF
489 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

O fis Ebrill 2023 ymlaen, mae'r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i bob sefydliad y GIG yng Nghymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn dryloyw gyda defnyddwyr gwasanaethau pan fyddant yn profi niwed wrth gael gofal iechyd. Bydd yn ofynnol iddynt wneud y canlynol: 

  • mynd ati i siarad â defnyddwyr gwasanaethau ynghylch digwyddiadau sydd wedi achosi niwed 
  • ymddiheuro a chefnogi'r person drwy’r broses o ymchwilio i'r digwyddiad 
  • dysgu o'r digwyddiadau hyn a gwella 
  • meddwl am ffyrdd o sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd eto 

Mae'r ddyletswydd hon yn datblygu ar y rhaglen Gweithio i Wella sydd wedi bod ar waith ers 2011. 

Fel defnyddiwr gwasanaethau, nid oes angen ichi wneud unrhyw beth er mwyn i’r ddyletswydd gonestrwydd gael ei gweithredu. 

Bydd y cyngor terfynol a gwybodaeth ynghylch y ddyletswydd gonestrwydd ar gael yn Ebrill 2023.