Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau sy’n amlinellu’r meini prawf i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid defnyddio gweithdrefn gadarnhaol ddrafft neu negyddol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ddrafft lle na ellir gwneud yr offeryn os nad oes fersiwn ddrafft o’r offeryn wedi’i gosod a’i chymeradwy gan benderfyniad y Cynulliad. Defnyddir y weithdrefn negyddol pan ellir gwneud yr offeryn, ac y gall ddod i rym, ond bod yn rhaid iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad. Gall hefyd gael ei ddirymu gan benderfyniad y Cynulliad.

Mae’r Canllawiau hyn yn berthnasol pan fo:

  • Llywodraeth Cymru yn ceisio’r pŵer i wneud offeryn statudol yn un o Filiau’r Cynulliad
  • Llywodraeth Cymru yn ceisio pŵer o’r fath yn un o Filiau Seneddol y DU
  • deddfiad yn cynnig dewis rhwng gweithdrefn gadarnhaol a gweithdrefn negyddol y Cynulliad ar gyfer offeryn statudol.