Skip to main content

Ddaeth pobl ifanc at ei gilydd ddoe i wneud adduned i ymuno â Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:
Lesley Griffiths

Rhannu’r dudalen hon

Adeiladodd y gynhadledd ar lwyddiant Cynhadledd Newid Hinsawdd Cymru, gan ddod â phobl ifanc sy’n teimlo’n frwdfrydig dros warchod ein planed at ei gilydd. 

Ffocws ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hinsawdd yw cefnogi gweithredu ar y cyd. O ailgylchu i adfer natur, ac o drafnidiaeth i ymchwil a sgiliau, mae cyflawni nodau uchelgeisiol sydd wedi eu pennu gan y llywodraeth yn galw am gyfraniadau gan bob corff cyhoeddus, pob busnes a phob cymuned yng Nghymru. Mae’r digwyddiadau yr wythnos hon yn rhan o gryfhau rôl pobl ifanc wrth wneud y gweithredu ar y cyd hwnnw yn bosibl.  

O dan arweiniad Ruth Wignall o ITV, gyda’r siaradwyr Richard Parks yr Athletwr Amgylchedd Eithafol, Molly Palmer, cynrychiolydd Academi Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Arweinwyr Ifanc a Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, roedd y gynhadledd yn anog y rhai oedd yn bresennol i rannu eu profiadau o’r newid hinsawdd ac i ymrwymo i ddyfodol carbon isel. 

Bydd yr ymrwymiadau, wedi’u cynllunio gan bobl ifanc ar eu cyfer eu hunain, eu hysgolion a’u cymunedau, yn cael eu casglu a’u cynnwys yn y Cynllun Cyflenwi Carbon Isel nesaf. 

Bydd y rhai a oedd yn bresennol hefyd yn datblygu adnoddau y gellir eu defnyddio gan bobl ifanc eraill ledled Cymru i fod yn rhan o’r penderfyniadau sydd angen eu cymryd i ymateb i’r newid hinsawdd. 
Wrth siarad am ei gyfraniad a’i gyffro ynghylch y gynhadledd, dywedodd Richard Parks:

Dros y ddegawd ddiwethaf rwyf wedi gweld ansefydlogrwydd cynyddol yn yr amgylchedd yn yr Antartig.  Mae rhannu fy heriau a helpu eraill i ddatblygu perthynas gyda’r canolbwynt hollbwysig hwn yn hinsawdd ein planed wedi bod yn brosiectau pwysig gennyf erioed.

Fodd bynnag, y realiti bellach yw nad oes yn rhaid inni edrych yn bellach na charreg ein drws yma yng Nghymru i weld effaith andwyol y tywydd eithafol. Mae angen i bob un ohonym ddeall ein sefyllfa a gweld mai ni yw yr ateb i’n dyfodol.  

Oeddwn i’n gyffrous iawn i dreulio y diwrnod yn dysgu yng Nghynhadledd Ieuenctid Newid Hinsawdd.  Mae’n codi ofn arna i i feddwl pa fath o blaned fydd fy mab yn ei etifeddu pan fydd yn hŷn os nad ydy ni yn dechrau dysgu a gweithio ar y cyd.

Meddai Molly Palmer:

Fel person ifanc, roeddwn yn teimlo’n gyffrous i rannu fy mhrofiadau gyda pobl eraill o oedran tebyg. Er bod Cymru wedi bod yn gwneud llawer o waith i rannu y ffordd yr ydym yn ystyried y newid yn yr hinsawdd – nid wyf yn credu ein bod yn symud yn ddigon cyflym, a dyna pam yr wyf yn croesawu’r gynhadledd hon a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig.

Tan y llifogydd, nid oedd pobl y DU yn ymwybodol iawn o effaith y newid hinsawdd.  O’r tannau gwyllt yn Awstralia i drychinebau naturiol eraill ledled y byd – rydyn ni fel gwlad wedi teimlo’n bell iawn o hyn.  Ond, mae’r wythnosau diwethaf wedi dangos inni bod y bygythiad yn un real iawn.  

Mae bellach yn nwylo ein cenhedlaeth ni i newid llwybr ein dyfodol ac mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn cydweithio i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Dwi’n credu mewn gwirionedd bod gan Gymru y pŵer i arwain nid yn unig yn y DU, ond y byd o ran y ffordd y mae pobl yn meddwl a dechrau cael pobl i weithredu.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd:  

Yn y digwyddiadau hyn rydyn ni yn cefnogi pobl ifanc yn eu rôl o sbarduno ymateb Cymru i argyfwng yr amgylchedd.   Dyma un o’r ffyrdd yr ydyn ni yn gweithio gyda pobl ifanc i’w galluogi i wneud cyfraniad llawn i’n cynllun newydd ar gyfer Cymru gyfan sydd i’w gyhoeddi yn 2021. 

Nid oes amheuaeth bod y newid mawr ym marn y cyhoedd ynghylch yr argyfwng hinsawdd wedi ei sbarduno gan y camau y mae pobl ifanc eisoes wedi’u cymryd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallwn i alluogi pobl ifanc yng Nghymru i gyflawni eu huchelgeisiau i weithredu mwy. 

Nid yn unig dyma’r peth iawn i’w wneud – mae gweithio ar y cyd yn y ffordd yma yn hanfodol oherwydd ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a dyma’r unig ffordd y gallwn gyflawni y trawsnewidiad cymdeithasol ac economnaidd ar y raddfa yr ydy ni angen ei weld yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Rhannu’r dudalen hon