David Williams Aelod
Mae David wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers iddo fod yn 17 oed, yn gyntaf fel gwirfoddolwr yn rhedeg clwb ieuenctid gwirfoddol lleol yng Nghaerdydd cyn dechrau ar ei radd mewn Gwaith Ieuenctid a chael ei gyflogi fel gweithiwr ieuenctid llawn amser gyda Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd.
Ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Gwasanaeth yng Ngwasanaeth Ieuenctid Torfaen.
Mae David yn teimlo ei fod yn cael braint wrth fod yn rhan o sector mor berthynol a blaengar, gan weithio ochr yn ochr â thîm a gweithlu anhygoel i gefnogi pobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau a dulliau. Mae'n gwerthfawrogi'n fawr ac yn cydnabod pwysigrwydd tîm, adeiladu diwylliant o ddiogelwch ac arloesi a chreu amgylchedd sy'n ennyn y gorau oddi wrth gydweithwyr a phobl ifanc fel ei gilydd.
Fel aelod o Gyngor y Gweithlu Addysg a chyn-gadeirydd Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid, mae gan David brofiad helaeth o gyfrannu at ddatblygiad strategol gwaith ieuenctid yng Nghymru.