Neidio i'r prif gynnwy

Mae dau leoliad yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer i fod yn un o bedair Canolfan Logisteg oddi ar y safle ar gyfer Heathrow.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae APB (Associated British Ports), Caerdydd, a Tata Shotton ar y rhestr fer o 18 safle posibl – wedi'u dewis o 121 mynegiant o ddiddordeb o ledled y DU.

Mae'r Canolfannau Logisteg, a manteision adeiladu ac atgyfnerthu oddi ar y safle, wedi bod yn un o gonglfeini'r achos dros ehangu Heathrow. O'r dechrau un, mae'r maes awyr wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwaith o ehangu Heathrow yn darparu manteision ar gyfer pob rhanbarth y DU. 

Bydd defnyddio Canolfannau Logisteg ar gyfer gweithgynhyrchu ymlaen llaw ac oddi ar y safle yn helpu i rannu manteision ac etifeddiaeth y seilwaith cenedlaethol hwn rhwng gwledydd a rhanbarthau'r DU.

Mae dau leoliad yng Nghymru wedi cyrraedd y safon o restr hir o 65 – ymwelwyd â nhw yn rhan gyntaf 2018. Nawr bydd y safleoedd hyn sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o broses dendro ffurfiol, ac i wneud cais i gynnal un o bedair Canolfan Logisteg Heathrow.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: 

"Rwyf wrth fy modd bod dau safle yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer lleoliadau posibl i gynnal canolfannau logisteg, ac i ategu'r gwaith adeiladu fel rhan o'r rhaglen i ehangu Maes Awyr Heathrow. Mae Cymru yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer y canolfannau logisteg, ac mae gan y ddau safle, yn Shotton ac yng Nghaerdydd, y gallu i ymateb i anghenion y rhaglen.

"Mae gennyn ni hanes profedig yn y sectorau adeiladu a gweithgynhyrchu, cadwyn gyflenwi hygyrch a phrofiadol iawn a gweithlu medrus.  Byddai canolfannau logisteg yng Nghymru yn dod â manteision enfawr i bobl a busnesau Cymru, gan greu swyddi a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, a hefyd yn gadael etifeddiaeth sgiliau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae hyn yn cadarnhau'r dyheadau a gafodd eu nodi gan y maes awyr i gefnogi swyddi a chyfleoedd ar gyfer pobl leol ledled y DU, gan ddatblygu'r sgiliau newydd sydd eu hangen i adeiladu a rhedeg Heathrow yn y dyfodol drwy brentisiaethau newydd a chyfleoedd hyfforddi o fewn ei gadwyn cyflenwi.

"Rwy'n edrych ymlaen at barhau ein gwaith gyda hyrwyddwyr y safle a thîm Heathrow yn ystod y broses ddethol hon."

Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol Siambrau Masnach Prydain, dywedodd Emma Gilthorpe, Cyfarwyddwr Gweithredol Heathrow ar gyfer Ehangu: 

"Mae ein cynlluniau ar gyfer ehangu'n mynd yn eu blaen yn gyflym, ac yn parhau i gael eu mireinio diolch i adborth gan amrediad o randdeiliaid. Mae Heathrow mor ymrwymedig ag erioed i greu cynllun sy'n darparu manteision ar gyfer pob cwr o'r DU. Mae canolfannau logisteg yn allweddol i wneud hynny. Bydd y dull arloesol hwn yn fwy costeffeithiol, effeithlon a chynaliadwy, gan helpu i ryddhau’r capasiti sydd ei angen yn fawr iawn yn gyflym ac mewn modd cyfrifol.

"Mae canolfannau logisteg hefyd yn hanfodol i harneisio'r sgiliau a fydd eu hangen ar y DU ar ôl Brexit. Rydyn ni'n gweithio gyda phrosiectau seilwaith mawr eraill i weld a allen nhw hefyd fanteisio ar y canolfannau hyn, gan greu dyfodol llewyrchus ar gyfer sector adeiladu'r DU. Dyfodol lle rydyn ni'n gwneud gwell defnydd o dechnoleg newydd a thechnegau oddi ar y safle i rannu prosiectau mawr fel y prosiect ehangu hwn yn genedlaethol."

Dywedodd Bill Duckworth, rheolwr safle Tata Steel yn Shotton, Gogledd Cymru:

"Rydyn ni'n wrth ein boddau bod ein safle yn Shotton wedi cyrraedd y rhestr fer i fod yn un o'r canolfannau logisteg sy'n rhan o brosiect ehangu Maes Awyr Heathrow. Byddai hyn yn rhoi cyfle delfrydol i weithio ochr yn ochr â Heathrow, dim fel canolfan yn unig, ond hefyd fel prif gyflenwr deunyddiau adeiladu hefyd.

"Mae gennyn ni gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd arbennig o dda, a chysylltiadau môr â gweddill y DU. Dyma'r union beth sydd ei angen ar y prosiect arloesol hwn. Yn bwysicaf oll, mae gennyn ni'r ffydd i weld yr effaith gallai hyn ei chael ar economïau Cymru ac ardal ehangach y Gogledd-orllewin."

Dywedodd Matthew Kennerley, Cyfarwyddwr ABP De Cymru:

"Rydyn ni wrth ein boddau bod wedi cyrraedd y rhestr fer i ddatblygu un o bedair Canolfan Logisteg Heathrow oddi ar y safle. Mae ein safle o fewn porthladd yn cynnig cysylltiadau aml-ddull gwych yng nghanol Caerdydd, y brifddinas yn Ewrop sy'n tyfu gyflymaf. Fel perchennog a gweithredwr porthladd, mae gennyn ni brofiad helaeth o ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau pwrpasol ar gyfer rhai o frandiau mwyaf blaengar y byd, ac rydyn ni'n credu bod De Cymru yn lleoliad delfrydol ar gyfer canolfan. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac ein rhanddeiliaid eraill wrth inni gymryd rhan yn y broses dendro ffurfiol.