Mae dau benodiad newydd wedi cael eu gwneud i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, ar ôl iddyn nhw gael eu cadarnhau gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Bydd Sarah Carr a Les Eckford yn ymuno â'r grŵp, gan gynyddu nifer yr aelodau o saith i wyth, ar ôl ymgyrch recriwtio yn gynharach eleni.
Mae gan y ddau ohonyn nhw lawer o brofiad yn y sector, a gwnaethon nhw greu argraff ar y panel cyfweld â'u gwybodaeth am waith gweithredol a strategol ym maes iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Gwnaed y penderfyniad i benodi dau aelod oherwydd y bydd cynyddu maint y grŵp yn eu helpu i ymdrin â nifer uwch o flaenoriaethau, a'u galluogi i roi rhagor o amser i flaenoriaethau cyfredol.
Nod Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yw sicrhau safonau uchel o iechyd a lles ar gyfer stociau da byw, a lleihau'r risg o ledaenu clefydau anifeiliaid.
Mae'r grŵp yn ceisio gwneud hyn drwy gynlluniau wrth gefn, cynlluniau parhad busnes, a thrwy ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau sy'n effeithio ar les anifeiliaid.
Drwy fframwaith sydd â'r nod o reoli a gwaredu ar glefydau anifeiliaid, mae'r grŵp yn gobeithio cyfrannu at fwyd mwy diogel ac iechyd gwell ar gyfer y cyhoedd. Mae lleihau'r risg i bobl gan glefydau, megis salmonela, hefyd yn gallu lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Rwyf wrth fy modd gweld Sarah Carr a Les Eckford yn ymuno â Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld eu cyfraniad dros y tair blynedd nesaf.
"Bydd Sarah a Les yn dod â set wahanol o sgiliau gwerthfawr i'r grŵp, a fydd yn fuddiol i'n dysgu ni yn y dyfodol ac yn ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu.
"Mae o'r pwys mwyaf ein bod yn gwneud pob ymdrech i atal clefydau anifeiliaid rhag lledaenu, a bod cynlluniau cadarn yn cael eu rhoi ar waith i leihau'r effaith ar ffermwyr a'r cyhoedd ehangach.
"Mae rôl y grŵp hwn yn hanfodol wrth amddiffyn y sector a sicrhau safonau uchel o iechyd a lles ar gyfer anifeiliaid, a bod y safonau hynny'n cael eu cynnal. Wrth inni baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bydd hyn yn bwysicach byth."