Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynnyrch sy'n iacháu clwyfau wedi'i wneud o secretiadau cynrhon a phrawf gwaed ar gyfer Sglerosis Ymledol - y cyntaf o'i fath yn y byd - ymhlith y datblygiadau arloesol yng Nghymru i sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi, gyllid o £900,000 ar gyfer 5 prosiect sy'n addo darparu buddion meddygol gwirioneddol trwy dechnoleg gwyddorau bywyd o'r safon uchaf.

Mae Zoobiotic Limited o Ben-y-bont ar Ogwr yn datblygu cynnyrch o secretiadau larfa, sy'n cyflymu gwaredu meinwe croen marw neu wedi'i heintio i helpu i wella clwyfau.

Gan ddefnyddio dull gwahanol, mae Corryn Biotechnologies yn Abertawe yn gweithio ar ddyfais llaw meddygol a all osod haen o ffibrau polymer microsgopig dros glwyf, gan greu gorchudd yn defnyddio technoleg nyddu electronig.  

Heddiw mae'n Ddiwrnod MS y Byd [dydd Iau 30 Mai] ac un o'r prosiectau arloesol sy'n cael eu cyhoeddi yw datblygu profion Cell T, sy'n cael eu defnyddio mewn diagnosteg a meddygaeth fanwl. Bydd technoleg Immunoserv yn brawf gwaed diagnostig a ddatblygwyd yng Nghaerdydd, wedi'i ddilysu'n glinigol ar gyfer MS - y cyntaf o'i fath yn y byd. 

Mae Arcitebio Ltd yn Aberystwyth wedi datblygu melysydd naturiol rhad sy'n ystyriol o bobl ddiabetig ac i ddannedd gan ddefnyddio datrysiad biodechnolegol i gynhyrchu xylitol o fiomas.

Yn olaf, mae Copner Biotech yng Nglyn Ebwy yn archwilio defnyddio technoleg bioargraffu i gynhyrchu organau newydd.  

Mae'r rhaglen, a elwir yn SMART FIS, yn ddull newydd o ymchwilio a datblygu. Nid yw wedi'i gyfyngu i fusnesau a sefydliadau ymchwil; mae ar gael i unrhyw sefydliad sydd am gynnal gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

I sefydliad newydd, gallai hyn olygu cael mynediad at dechnoleg i ddatblygu syniad newydd. Ar gyfer sefydliad sy'n datblygu, gallai fod yn help gyda phrosiect sydd â photensial ac, i sefydliad sydd wedi'i sefydlu eisoes, gallai fod yn gysylltiedig â gwybodaeth arbenigol i roi mantais ryngwladol trwy agor marchnadoedd newydd.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles:

Lansiwyd ein rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) yr haf diwethaf i helpu busnesau a sefydliadau Cymru i wella bywydau bob dydd pobl trwy ysgogi ymchwil ac arloesi blaengar. 

Rydyn ni eisiau adeiladu cenedl gryfach a thecach gydag economi yn seiliedig ar waith teg, cynaliadwyedd a sectorau'r dyfodol - mae'r rhaglen gymorth yn cynnig sylfaen gref i'r uchelgais hon.

Fel y gwelir gyda'r prosiectau ysbrydoledig hyn, mae cwmnïau o Gymru yn datblygu syniadau sy'n newid y byd a allai achub bywydau pobl yn y pen draw. Mae croeso i unrhyw fath o sefydliad wneud cais am y cymorth hwn - gwnewch gais i weld a allai eich sefydliad chi elwa hefyd.