Ar ddechrau Wythnos Twristiaeth Cymru 2019, fe ymwelodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas â Blaenafon i weld y gwaith sy'n cael ei wneud i hyrwyddo atyniadau hanes diwydiannol.
Cafodd y Dirprwy Weinidog gwrdd â chynrychiolwyr y Cymoedd a Newidiodd y Byd. Lansiwyd y fenter hon yn 2016 i annog partneriaid yn y maes treftadaeth i weithio gyda'i gilydd i hyrwyddo a dehongli stori ein gorffennol diwydiannol. Mae mwy na 70 o fudiadau bellach yn rhan o'r rhwydwaith.
O dan arweiniad Cyngor Tor-faen gydag arian o Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru, mae'r fenter yn datblygu prosiectau ar y cyd ac yn rhoi help ymarferol o ran meithrin gwybodaeth, rhwydweithio a marchnata.
Cafodd y Dirprwy Weinidog gyfle hefyd i fwynhau'r daith danddaearol yn yr Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, sydd law yn llaw ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, yn dod â'n gorffennol diwydiannol yn fyw.
Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas:
"Gydag Wythnos Twristiaeth Cymru ar ddechrau i ddathlu cydweithio er lles y sector twristiaeth, rwy'n falch o weld cymaint o bobl a grwpiau sy'n gweithio yn y maes yn gweithio gyda'i gilydd i fapio a hyrwyddo atyniadau hanes diwydiannol.
"Mae ein hanes diwydiannol yn rhan bwysig iawn o hanes Cymru ac mae lle amlwg iddo yn fy nogfen Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Mae'r gwaith rwyf wedi'i weld heddiw yn ategu'r syniad o wneud mwy i fapio a hyrwyddo atyniadau hanes diwydiannol.
"Mae'r adfywio a fu ym Mlaenafon, diolch i'w statws fel Safle Treftadaeth y Byd, yn enghraifft o'r hyn y gellid ei wneud. Rydyn ni hefyd yn cefnogi Cyngor Gwynedd gyda'i gais i gael statws Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer y dirwedd lechi yn y Gogledd.
"Mae gan Gymru hanes diwydiannol amrywiol i'w rannu - gall ein treftadaeth wneud llawer i hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd, yn arbennig trwy'r hunaniaeth unigryw y mae wedi'i rhoi i'n rhanbarthau.
"Rydyn ni wedi gweld hefyd sut mae'n safleoedd hanes diwydiannol wedi rhoi hwb i economi'r Gogledd - fel datblygiad Zip World sydd wedi denu sylw'r byd a safleoedd diwydiannol eraill yn yr ardal sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd cyn gweld diben newydd - fel Surf Snowdonia, ger Conwy a Rock UK yn Nhrelewis.
“"Enghraifft arall o weithio mewn partneriaeth yw’r gwaith a gynhelir gyda Pharc Rhanbarthol y Cymoedd – Rydym am helpu cymunedau i ddathlu a gwneud y mwyaf o'r adnoddau naturiol a'r dreftadaeth sydd wrth wraidd hunaniaeth a diwylliant y Cymoedd a defnyddio ein treftadaeth ddiwydiannol fel catalydd ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.
"Fel y gwnaeth arloesedd sbarduno creu'n tirweddau diwydiannol - bydd arloesedd a phartneriaeth yn sicrhau hefyd bod ein gorffennol yn chwarae rhan bwysig wrth ddathlu'n hanes diwydiannol a chreu balchder yn ein cymunedau.