Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Twristiaeth, yn lansio trydedd blwyddyn thematig Cymru - Blwyddyn y Môr 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y flwyddyn nesaf, bydd cyfle gan Gymru i sicrhau ei lle fel y brif gyrchfan arfordirol ym Mhrydain yn yr 21ain ganrif. 

  • adeiladu ar gryfderau Cymru fel un o brif gyrchfannau arfordirol yr 21ain ganrif
  • Hannah Mills, athletwr Olympaidd, fydd llysgennad Blwyddyn y Môr
Gan ddilyn llwyddiant Blwyddyn Antur 2016 a Blwyddyn y Chwedlau 2017, yn ystod Blwyddyn y Môr 2018 bydd Croeso Cymru’n parhau i gryfhau syniadau cadarnhaol am Gymru a herio syniadau hen ffasiwn amdani drwy hyrwyddo’n cynnyrch, gweithgareddau, digwyddiadau a’n profiadau ardderchog.
Cafodd y blynyddoedd thematig eu datblygu i wneud yn fwy o’r hyn sydd gennym i’w gynnig i dwristiaid ac i fanteisio ar y prif ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y blynyddoedd hynny. 
Meddai’r Gweinidog Twristiaeth: 
“Wrth ganolbwyntio ar antur a chwedlau, mae gennym gyfle rŵan i ddathlu arfordir Cymru ac adeiladu ar gryfderau Cymru fel cyrchfan glan môr. Ac wrth i ni lansio’r ymgyrch yma, mae hefyd yn newyddion gwych fod Cymru wedi cael ei henwi gan y Rough Guides yn y 5ed lle gorau i ymweld yn ystod 2018 – tystiolaeth ein bod yn gwneud ein marc yn y farchnad gystadleuol yma.
“Mae Blwyddyn y Môr hefyd yn rhoi cyfle inni ddathlu’n llwybr arfordirol unigryw, 870 milltir o hyd, ein 230 o draethau a’n 50 o ynysoedd, a’r ffaith bod gennym fwy o draethau Baner Las y filltir nag unman arall ym Mhrydain.  
“Ond bydd Blwyddyn y Môr yn ymwneud â mwy na’n harfordir. Bydd y flwyddyn yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar lannau môr Cymru gan gynnwys ein llynnoedd, afonydd a theithiau i’r môr, nid y môr unig ac yn ddathliad o’n cymunedau arfordirol a’n diwylliant.  Byddwn yn defnyddio Ffordd Cymru, cynllun newydd fydd yn hyrwydd tri llwybr teithio prydferth ar draws ein tirwedd odidog, fel ffordd o arddangos hanes, arfordir ac atyniadau rhyfeddol Cymru.
“Yn arwain at 2018, eleni rydym wedi bod yn cynllunio, datblygu a sefydlu partneriaethau newydd. Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd morol yn uchel ar yr agenda fel y mae diogelwch ar y môr a sicrhau bod pawb yn mwynhau ein harfordir, ond mewn ffordd gyfrifol."

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC) gyda y ymrwymiad i llunio ffordd gyd-gysylltiedig a chynaliadwy o gynllunio a rheoli'n harfordiroedd a'n moroedd a fydd yn ein helpu i wireddu'n gweledigaeth o fôr glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol. 
Yr amcanion sy’n llywio’r ymdrechion wrth ddatblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru oedd y gwnawn ni fwy trwy weithio gyda'n gilydd gyda rhan-ddeiliaid i gadw  a gwarchod ein cymunedau morol, rhyfeddod ein harfordir, moroedd a bywyd gwyllt tra’n datblygu'n heconomi morol. 
Heddiw, cyhoeddir Hannah Mills, enillydd medal aur Olympaidd, yn llysgennad Blwyddyn y Môr 2018.   Dywedodd Hannah: 
"Dwi mor gyffrous i fod yn rhan o Flwyddyn y Môr.  Wrth dyfu i  fyny yng Nghaerdydd ac archwilio arfordiroedd a moroedd o amgylch Cymru o Ynys Môn i'r Mwmbwls, mae arfordir Cymru wedi cael effaith enfawr ar lunio fy ngyrfa.  Mae gen i lu o  atgofion a phrofiadau i’w trysori am  hwylio yn y fath le godidog.  Mae fy nheulu yn dal i fyw yng Nghaerdydd, ac yma rwy’n ei alw’n ‘adref’.  Pan enillais fedal aur yn Rio, roedd cynhesrwydd y croeso cefais adref  yn anhygoel."

Mae’r blynyddoedd thematig hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’r economi. Roedd ein blwyddyn gyntaf â thema’n llwyddiant ysgubol gan ddod â £370 miliwn ychwanegol i economi Cymru - cynnydd o 18% o’i chymharu â 2015. Mae hyn yn dangos bod gwaith marchnata Croeso Cymru wedi dylanwadau ar bobl cyn iddyn nhw ymweld â Chymru.Ar gyfer 2017 - Blwyddyn y Chwedlau - mae ffigurau’r Baromedr Twristiaeth yn dangos canlyniadau cadarnhaol gyda 42% o ymatebwyr yn dweud bod ganddynt  fwy o ymwelwyr na’r llynedd.  Hefyd, cafwyd y nifer uchaf o ymweliadau â safleoedd Cadw ac Amgueddfa Cymru dros yr haf.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’n sylweddol mewn prosiectau a fydd yn hyrwyddo Blwyddyn y Môr yng Nghymru.  Cafodd £2 miliwn o’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol ei rannu ymhlith 38 o brosiectau ledled Cymru. Mae’r cronfeydd hyn yn helpu’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i ddatblygu prosiectau arloesol a chynnal y blynyddoedd  thematig.Wrth i Flwyddyn y Môr gael ei lansio, bydd TYF Adventure yn Nhyddewi yn lansio cynnyrch newydd ar gyfer 2018. Dylunnir y rhaglen SUPKids i ddysgu plant (5-12 oed) am aros yn ddiogel yn y dŵr, am yr amgylchedd, a sut i fadlfyrddio. Ariennir y prosiect gan Croeso Cymru.  Gwneir buddsoddiad sylweddol mewn cyrchfannau arfordirol drwy ein cynllun Cyrchfannau Denu Twristiaeth, a ariennir gan yr UE.  Bydd Prosiect y Glannau, Bae Colwyn, yn agor yn 2018 yn sgil buddsoddiad o £3.9 a hefyd a £6.6miliwn o fuddsoddiad ar gyfer terfynfa newydd gyfer y rheilffordd Ucheldir Cymru yng Nghaernarfon ac estyniad i gyfleusterau diwylliannol yn Galeri fel rhan o'r rhaglen ehangach i adfywio glannau Caernarfon.   Hefyd, mae gwaith wedi dechrau ar Ganolfan Morwrol Porthcawl, sy’n werth £5.5 miliwn. Mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn parhau i godi safonau, gan fuddsoddi’n ddiweddar mewn nifer o brosiectau llety ar yr arfordir. Ymhlith y busnesau a gafodd gymorth i hyrwyddo bwyd ein harfordir oedd Dylan’s yn y Gogledd, Bryn Williams ym Mae Colwyn, Coast yn Saundersfoot, The Griffin Inn yn Dale a Tŵr y Felin yn Nhyddewi. Hefyd, cynhelir Ras Cefnfor Volvo’r flwyddyn nesaf, sef y digwyddiad hwylio mwyaf anodd ac enwog yn y byd. Bydd yn dod i Gaerdydd ym mis Mai a mis Mehefin 2018.  Bydd Andrew Pindar, Llysgennad Ras Cefnfor Volvo, yn dod i’r digwyddiad lansio i ddisgrifio beth fydd yn digwydd yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.