Mae twristiaeth a lletygarwch wedi cael eu canmol fel "enaid economi Cymru" sy'n creu swyddi ac yn gyrru twf.

Wrth fynychu Uwchgynhadledd Twristiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru yn Venue Cymru yn Llandudno ddoe (dydd Iau, 27 Mawrth), dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ei bod yn gwerthfawrogi gwybodaeth y sector ac eisiau dysgu o flynyddoedd o brofiad y rhai fu'n bresennol ar y rheng flaen.
Roedd y digwyddiad, a groesawodd westeion o Gymru, ledled y DU ac Ewrop, yn cynnig cyfle i archwilio cyfleoedd i ddiwydiant sy'n pwmpio £3.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
Mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig i ymwelwyr rhyngwladol sy'n chwilio am wyliau, o drefi hanesyddol a threftadaeth i arfordiroedd a harbyrau â golygfeydd trawiadol. Wrth siarad yn yr uwchgynhadledd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Dwristiaeth:
Mewn byd lle mae teithio yn ein cysylltu yn fwy nag erioed o'r blaen, nid wyf yn cymryd yn ganiataol y rôl hynod bwysig y mae busnesau twristiaeth a lletygarwch yn ei chwarae. Maent yn gyrru economïau lleol ac yn cynhyrchu incwm i gymunedau ledled Cymru.
Mae ein huchelgais yn glir: datblygu profiadau o ansawdd uchel, drwy gydol y flwyddyn sy'n cyfoethogi bywydau ymwelwyr a'n cymunedau lletyol.
Rydyn ni'n buddsoddi i barhau â'n marchnata arobryn o Gymru i'r byd – ac rwy'n gwybod y gallwn weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar y cryfderau niferus sy'n dod â phobl yma.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
- Croeso Cymru: Cyllideb refeniw o £9 miliwn a chyllideb gyfalaf o £6 miliwn
- Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50 miliwn
- Cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn
Yn ddiweddarach yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol, arweiniodd Ysgrifennydd y Cabinet ddathliad i'r rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i lunio tirwedd twristiaeth Cymru.
Cyflwynwyd gwobrau i fusnesau ac unigolion rhagorol, gyda'r enillwyr yn hanu o bob cwr o'r wlad.
Ymhlith yr enillwyr roedd Gwesty Plas Dinas yng Nghaernarfon, a enwyd y Gwesty Gorau; Canolfan Rock UK yn Nhreharris, a enillodd y wobr am y Gweithgaredd, y Profiad neu'r Daith Orau – a Charly Dix o Lan y Môr yn Saundersfoot a enillodd wobr Atyniad Newydd.
Wrth annerch yn y seremoni wobrwyo, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae twristiaeth yn rhan annatod o wead bywyd Cymru, ac mae gan Gymru atyniadau cynhenid cryf, felly dylem ddathlu hynny ar fwy nag un noson y flwyddyn.
Mae'r dyfodol yn llawn cyfleoedd. Gadewch inni roi croeso Cymreig hyd yn oed mwy i bobl sy'n dod i Gymru yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd sydd i ddod!