Aeth Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ibumed gynhadledd y Gwobrau a Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol (yr NDLE)
Mae’r NDLE yn dod ag addysgwyr ledled Cymru at ei gilydd i nodi a rhannu arferion digidol da sy’n digwydd mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru ar hyn o bryd.
Mae newidiadau i’r cwricwlwm yn golygu y bydd sgiliau digidol yn cael eu haddysgu a'u datblygu ym mhob rhan o addysg disgyblion bellach, ac na fyddant yn cael eu cyfyngu i wersi TGCh a Chyfrifiadureg benodol yn unig.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod y dull newydd hwn o weithio yn golygu mwy na defnyddio cyfrifiaduron yn unig. Mae’n golygu rhoi’r sgiliau digidol angenrheidiol i ddisgyblion fel eu bod yn llwyddo yn y byd modern.
Dywedodd Kirsty Williams: “Rwy’n benderfynol o gefnogi ein dysgwyr i ddod yn ddefnyddwyr technoleg cymwys. Nid yn unig hynny, rwy am iddynt ddatblygu yn awduron technoleg greadigol hefyd.
“Rwy’n gweld yr angen clir i helpu athrawon a dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i ymdopi â’r byd newydd hwn a’r cyfleoedd sy’n dod yn ei sgil.
“Mae’n bleser gen i i fod yma yn dathlu gwaith ein hymarferwyr gorau. Gobeithio y gallwn oll ddysgu rhywbeth gan y rheini sy’n disgleirio yn eu proffesiwn.”
Thema’r digwyddiad eleni yw ‘Dulliau creadigol o weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol’ sy’n ychwanegu at gyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar 21 Medi 2016.
Datblygwyd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (DCF) gan ysgolion Arloesi gyda chefnogaeth arbenigedd allanol a staff Llywodraeth Cymru. Ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, roedd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i bob ysgol yng Nghymru, a dyma’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd a gyflwynwyd yng Nghymru.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus iawn i ganmol gwaith pob ysgol yn rhoi’r DCF ar waith, ac esboniodd ei bod ei swyddfa wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol o Gymru, y DU a thu hwnt ynghylch ymrwymiad ac uchelgeisiau Cymru o ran sgiliau digidol.
Eleni, mae’r Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol yn cydnabod yr arferion digidol gorau mewn pedwar categori. Dyma enillwyr y pedwar categori:
- Gwobr Prosiect Digidol – dyfarnwyd ar y cyd i ddisgyblion Blwyddyn 2 Ysgol Gynradd Tregatwg, y Barri am eu prosiect ‘Challenging Pioneers’, ac Ysgol Bro Banw, Rhydaman am eu prosiect 'The Superheroes’.
- Gwobr Diogelwch Ar-lein – Ysgol Bro Banw eto, am eu prosiect Datblygu Cymhwysedd Digidol drwy wyrdroi addysgu.
- Gwobr Adnoddau Cymuned Hwb - Alexandra Roe o Ysgol Coedcae, Llanelli, am Restr Chwarae Iddewiaeth ar gyfer Astudiaethau Crefyddol CBAC.
- Gwobr y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol i Ddisgyblion – Ysgol Gynradd Phillipstown yn Nhredegar Newydd am Techno Tribe Teaches.