Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, yn ymweld â Marchnad Deithio’r Byd yn yr ExCel yn Llundain heddiw - dyma brif ddigwyddiad teithio byd eang y DU.
Bydd cynrychiolwyr o Croeso Cymru yn y digwyddiad eleni er mwyn elwa i’r eithaf ar y ffaith bod gogledd Cymru wedi’i gynnwys ar restr ‘Best in Travel 2017’ y Lonely Planet.
Wrth i Flwyddyn Antur Cymru ddod i ben bydd Marchnad Deithio’r Byd hefyd yn gyfle i siarad â chynrychiolwyr o’r diwydiant teithio ynghylch Blwyddyn Chwedlau 2017 a Blwyddyn y Môr 2018.
Bydd busnesau twristiaeth o bob rhan o Gymru’n ymuno â Croeso Cymru ar stondin UKInbound (UKI 100). Y partneriaid a fydd yn rhan o’r stondin fydd:
- Cambria DMC
- Gwesty Brenhinol Victoria
- Gwesty’r Fro
- Twristiaeth Gogledd Cymru
- Visit Llandudno
- Cadw ac Amgueddfa Cymru
- Parc Antur Surf Snowdonia
- Casgliad y Celtic Manor
- Visit Cardiff.
Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai hynod lwyddiannus i Gymru. Yn 2014 daeth dros 10 miliwn o ymwelwyr i Gymru a gwariwyd mwy nag erioed o arian gan ymwelwyr o Gymru ac ymwelwyr tramor yn ystod 2015.
Mae Cymru wedi croesawu 450,000 o ymwelwyr o dramor yn ystod chwe mis cyntaf 2016, sy’n gynnydd o 15% o’i gymharu â chwe mis cyntaf 2015 a’r cynnydd mwyaf ymysg holl wledydd y DU. Er bod y ffigurau’n dangos lleihad bychan mewn gwariant ar draws y DU gyfan mae gwariant ymwelwyr tramor yng Nghymru wedi cynyddu dros 8%.
Bydd Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2017 – a bydd yn rhan o ddigwyddiadau chwaraeon y Flwyddyn Chwedlau. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith mai Caerdydd fydd lleoliad y gêm bydd cyfle prin i ymwelwyr â’r stondin gael hun-lun â Thlysau Gemau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a fydd yn cael eu harddangos ar amseroedd penodol.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi’n cyfarfod â Deidre Wells OBE, sef Prif Weithredwr UKInbound a hefyd â Tom Hall sef Cyfarwyddwr Golygyddol y Lonely Planet yn ystod ei gyfnod yn y digwyddiad. Dywedodd:
“Mae’r Flwyddyn Antur wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddiannus i Gymru, ac mae’r ffaith bod Gogledd Cymru wedi’i enwi o blith deg o’r lleoliadau gorau i ymweld â nhw yn y byd yn 2017 yn goron ar y cyfan. Mae’r ffaith bod cyhoeddiad mor uchel ei barch sydd ag enw mor dda â’r Lonely Planet yn glod enfawr i Ogledd Cymru. Mae’n creu cyfle rhagorol i ni dynnu sylw’r diwydiant teithio byd eang at y gorau y gall Cymru ei gynnig a hefyd drafod â chydweithwyr o fewn y diwydiant teithio mewn digwyddiadau fel Marchnad Deithio’r Byd. Bydd cael ein henwi ymysg y gorau yn y byd yn ysbrydoli llawer iawn mwy o bobl i ddod i weld yr hyn y gall Cymru ei gynnig. Mae hyn yn tystio i ymroddiad y sector cyhoeddus a’r sector preifat a’r gwaith partneriaeth rhyngddynt i gynnig profiad heb ei ail i ymwelwyr.”
“Mae’r Farchnad Deithio Byd Eang hefyd yn creu cyfle gwych i ni ddechrau trafod 2017, pan fyddwn yn dathlu blwyddyn wych o brofiadau chwedlonol drwy ddod â’r gorffennol yn fyw mewn modd gwbl newydd ac unigryw a dathlu chwedlau newydd sydd wedi’u hysbrydoli gan Gymru. Hoffem wahodd ymwelwyr i gymryd rhan yn stori fawr Cymru y flwyddyn nesaf, gan greu eu chwedlau Cymreig eu hunain.”