Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Tywysog Harri a Meghan Markle yn cael cyfle i weld y traddodiadol a’r cyfoes wrth iddynt gyrraedd Castell Caerdydd brynhawn yma.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y castell yn dathlu diwylliant, chwaraeon a threftadaeth Cymru – o delynorion a chorau i bobl ifanc ysbrydoledig, cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau a pherfformwyr blaenllaw – gan roi cipolwg i’r pâr Brenhinol o Gymru gyfoes.  

Bydd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn un o’r bobl fydd yn croesawu’r pâr, ac roedd yn awyddus i roi syniad o’r hyn fydd y cwpl brenhinol yn ei weld:

Meddai’r Arglwydd Elis Thomas: 

“Dwi’n falch iawn bod y Tywysog Harri a Meghan Markle wedi dewis dod i Gymru fel un o’u hymweliadau swyddogol cyntaf ers iddynt ddyweddïo yn ddiweddar.    

“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru bod gennym draddodiad diwylliannol sy’n ffynnu, a’i fod yn fywiog ac yn amrywiol.  Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i’w arddangos, ei rannu a’i ddathlu gyda gweddill y byd, ac mae gwneud hynny mewn cwmni mor bwysig yn fraint wirioneddol.

“Mae’r croeso sydd i’w gael yng Nghymru yn hanesyddol, ond mae ein henw da fel cyrchfan o’r safon uchaf i ymwelwyr, fel cynhyrchwyr bwyd, canolfan antur, lleoliad digwyddiadau mawr a sawl peth arall hefyd yn dod yn amlycach.  Dwi’n gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn rhoi blas ar yr amrywiaeth a safon yr hyn sy’n cael ei gynnig yma yng Nghymru.  

Yn wir, mae ein croeso brenhinol yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i’r ymweliad hwn a byddem yn falch iawn o dynnu eu sylw at rannau gwych eraill o Gymru yn y dyfodol.”