Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi ymweld â safle yng Nghaerdydd a fydd yn cynnig cartrefi ar gyfer mwy na 150 o deuluoedd yn fuan.
Cynhaliwyd yr ymweliad â hen safle Gwaith Nwy Caerdydd i nodi pen-blwydd cyntaf Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru.
Un prosiect yn unig yw safle Gwaith Nwy Caerdydd i elwa ar y rhaglen a ddisgrifiodd y Gweinidog fel rhaglen i helpu i ‘sicrhau bod gan bawb le i'w alw'n gartref’.
Sefydlwyd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) yn wreiddiol yr haf diwethaf i gyflwyno mwy o lety tymor hwy o ansawdd da yn gyflym i ymateb i'r pwysau cynyddol ar lety dros dro, gan gynnwys yr un a grëwyd gan yr argyfwng yn Wcráin.
Yn ei blwyddyn gyntaf, darparodd y Rhaglen £76.4m i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu 936 o gartrefi.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir iawn i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd ym mhob rhan o Gymru – ac mae ganddi strategaeth a chynllun clir ar gyfer cyflawni hyn, gan y dylai achosion o ddigartrefedd bob amser fod yn brin, yn fyr ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Mae gennym agenda drawsnewid uchelgeisiol - sy'n canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym. Cefnogir hyn gan raglen Tai Cymdeithasol sydd yr un mor uchelgeisiol i gyflwyno mwy o gartrefi i bawb sydd ag angen o ran tai.
“Rwy'n falch o weld bod cynnydd enfawr wedi'i wneud gyda TACP gan ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu 936 yn rhagor o gartrefi yn 2022-23, wedi'i alluogi gan gyllid gwerth £76.4m gan Lywodraeth Cymru.
“Gyda llwyddiant ei blwyddyn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod yn agor TACP am ail flwyddyn i awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wneud cais am gyllid i ddarparu mwy o gartrefi.”
Mae un o'r prosiectau sy'n cael ei ariannu gan TACP wedi'i leoli ar hen safle’r Gwaith Nwy ar Ferry Rd, Caerdydd.
Nod y prosiect yw adeiladu cartrefi modwlar o ansawdd uchel ar gyfer ‘defnydd yn y cyfamser’ gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern (MMC).
Mae'r prosiect yn un o'r prosiectau MMC mwyaf sy'n cael ei ariannu drwy TACP ar hyn o bryd, gan greu cartrefi i dros 150 o deuluoedd, gyda chyfanswm o £16,420,497 mewn cyllid grant.
Mae hyn cyn y defnydd tymor hwy o safle'r Gwaith Nwy a fydd yn cael ei ddatblygu yn y pen draw i ddarparu tua 600 o gartrefi parhaol. Yna bydd yr unedau MMC yn cael eu symud i safle arall.