Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn lansio ei chystadleuaeth bwysig ei hun i ddathlu Blwyddyn Chwedlau 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y gystadleuaeth yw annog artistiaid i ddylunio tirnodau gweledol gan ddefnyddio eu hoff gymeriadau chwedlonol yn ysbrydoliaeth. Yna, bydd y tirnodau hyn yn cael eu harddangos yn rhai o safleoedd mwyaf poblogaidd ac eiconig Cymru.

Mae Blwyddyn Chwedlau yn dilyn llwyddiant Blwyddyn Antur 2016 a’i nod yw codi proffil sector twristiaeth Cymru a’r atyniadau sydd gennym er mwyn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr yma yn 2017.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Cadw, tîm treftadaeth Llywodraeth Cymru.  Yn ystod Blwyddyn Chwedlau, bydd hyd at ddau dirnod mawr pwysig fydd wedi cael eu hysbrydoli gan chwedlonwyr Cymru yn cael eu codi a’u gosod trwy gystadleuaeth ‘dylunio ac adeiladu’ agored. 

Bydd Llywodraeth Cymru’n dod â phanel o arbenigwyr ynghyd fydd yn cynnwys unigolion o Cadw, Croeso Cymru a sefydliadau celf.  Gwaith y panel fydd tynnu rhestr fer o syniadau cyn cyhoeddi’r dyluniadau a ffefrir yr hydref hwn.  Bydd yr artist neu artistiaid llwyddiannus yn dylunio, creu ac yn gosod y tirnodau.  Fel rhan o waith parhaus i wella Castell y Fflint, bydd un o’r darnau’n cael ei osod yno a penderfynir ar leoliad y tirnod arall yn sgil y ceisiadau a ddaw i law ond bydd hwn eto yn cael ei adeiladu yn un o safleoedd eraill Cadw.

Gan geisio ysbrydoliaeth o chwedlau ac arwyr niferus Cymru - o ffigurau chwedlonol i arwyr chwaraeon a mawrion llenyddol – gall y ‘tirnodau’ fod yn strwythurau symudol, yn berfformiad celf neu’n osodiadau parhaol neu led-barhaol. Mae llwyddiant Angel of the North a’r Pabis Coch yn dangos cymaint o effaith y mae tirnodau celf o’r fath yn ei gael ar y sector twristiaeth.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd cyffrous a llawn dychymyg o roi bywyd newydd i safleoedd hanesyddol Cymru. 

Rydym eisoes wedi goleuo rhai o’n safleoedd mwyaf enwog yn goch i gefnogi ymgais wirioneddol ragorol tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016; rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn ynghylch hyn gan bobl o bob cwr o Gymru.  Dim ond un enghraifft yw hon o sut mae’n bosibl dathlu a mwynhau ein safleoedd mewn ffordd gwbl newydd; rwy’n bendant y bydd ein tirnodau arloesol sydd wedi cael eu hysbrydoli gan rai o chwedleuon amlycaf Cymru, yn dal llygad a dychymyg pobl ac yn eu hannog i ddod i ymweld â Chymru a’i safleoedd hanesyddol rhagorol. “Drwy lansio cystadleuaeth agored, rydym yn gobeithio gweld cynigion ar gyfer prosiectau creadigol iawn a masnachol eu natur sy’n canolbwyntio ar ddenu ymwelwyr i’n safleoedd hanesyddol, tra’n creu incwm i ddiogelu eu dyfodol hefyd.

“Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gyrff celfyddydol a’r rheini sydd ag arian cyfatebol i’w helpu i roi bywyd i’w dyluniad.  Ar gyfer Blwyddyn Chwedlau 2017, byddwn yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n chwyldroadol, yn fentrus, yn greadigol ac yn arloesol.

“Mae gan Gymru bob math o ddeunydd defnyddiol y gall pobl greadigol ddefnyddio – popeth o chwedl y Brenin Arthur i’n harwyr pêl-droed, tîm sy’n creu cymaint o argraff yn Ffrainc yr haf hwn.

“Drwy ddadorchuddio darn o waith celf o safon fyd-eang yng Nghastell y Fflint, byddwn yn gallu helpu i hybu’r A55 fel Coridor Diwylliannol Ewrop, gan ddenu mwy o dwristiaid i Gymru a gwneud y ffordd yn un sy’n rhoi profiad unigryw iddyn nhw.”

I gofrestru eich diddordeb yn y gystadleuaeth i ddylunio cerflun, e-bostiwch cadw@llyw.cymru.  

Os oes gennych chi syniadau ar gyfer cynhyrchion/profiadau ar gyfer Blwyddyn Chwedlau, e-bostiwch info@visitwales.com.