Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru am gyngor ynghylch cymorth effeithiol ar gyfer dysgwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT), yn ogystal â’r rhai sy’n cwestiynu eu cyfeiriadedd rhywiol neu’u hunaniaeth o ran rhywedd.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Ble mae darpariaeth yn fwyaf effeithiol  

Mewn ysgolion a cholegau sydd â diwylliant cryf o gynhwysiant, mae dysgwyr LGBT yn ffynnu. Yn yr achosion hyn, maent yn teimlo mor hyderus â’u cyfoedion i fynegi eu teimladau a’u credoau. Maent yn mwynhau synnwyr cryf o les ac yn cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol neu’r coleg.

Yn yr ysgolion neu’r colegau hyn, mae bron pob un o’r dysgwyr yn gweld perthnasoedd o’r un rhyw fel ffurf arall ar amrywiaeth y dylid ei dathlu ynghyd â nodweddion gwarchodedig eraill, fel hil, crefydd ac anabledd.

Mae’r ysgolion a’r colegau hyn yn adolygu eu cwricwlwm i ymgorffori materion LGBT mewn ffordd sy’n briodol i ddatblygiad yn effeithiol. O ganlyniad, mae dysgwyr yn gweld modelau rôl LGBT cadarnhaol trwy eu profiadau dysgu ac yn eu hamgylchedd ysgol neu goleg yn rheolaidd.

Mae’r ysgol neu’r coleg yn mynd ati i ymgysylltu â rhieni a’r gymuned ehangach, gan gynnwys grwpiau ffydd, i sicrhau eu bod yn deall ymagwedd y sefydliad at ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant. Maent yn cydnabod y gallai rhai rhanddeiliaid herio hyn a gwrando ar wahanol safbwyntiau, a’u hystyried, ond gweithredu er lles dysgwyr yn y pen draw.

Mae arweinwyr yn sicrhau bod y cwricwlwm a’r amgylchedd dysgu yn herio stereoteipiau rhywedd ac yn mynd i’r afael â materion cysylltiedig fel y maent yn codi. Mae dysgwyr yn dechrau deall effaith negyddol stereoteipio o ran rhywedd o oedran ifanc.

Nid yw bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig yn digwydd yn aml, ac ymdrinnir ag ef yn gadarn pan fydd achosion yn codi. Mae arweinwyr yn gweithio gyda staff a dysgwyr i ddatblygu eu polisi a’u gweithdrefnau gwrthfwlio i sicrhau eu bod yn cydnabod, yn cofnodi ac yn mynd i’r afael â bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Maent yn creu amgylchedd lle mae staff a dysgwyr yn teimlo’n hyderus i herio bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig, a defnyddio iaith homoffobig.

Mae arweinwyr yn rhoi systemau effeithiol ar waith i sicrhau bod dysgwyr yn gwybod sut i droi at aelod o staff am faterion personol, gan gynnwys rhai yn gysylltiedig â materion LGBT a ‘dod allan’. Maent yn sicrhau bod staff bugeiliol penodol yn meddu ar y medrau a’r wybodaeth i gefnogi dysgwyr i wneud penderfyniadau diogel, ond bod gan bob un o’r staff yr hyder hefyd i ymateb i’r cwestiynau a’r pryderon am faterion LGBT a godir gan ddysgwyr.

Mae grwpiau llais y disgybl a llais y dysgwr yn darparu rhwydwaith cymorth gwerthfawr ar gyfer pobl ifanc LGBT. Yn yr achosion gorau, maent yn darparu adborth gwerthfawr i ysgolion a cholegau ar brofiad dysgwyr LGBT. Mae arweinwyr yn ystyried y wybodaeth hon yn ofalus i addasu eu polisïau a’u cwricwlwm i wella profiad addysgol dysgwyr LGBT a hyrwyddo cynhwysiant i bawb.

Mae ysgolion a cholegau yn cysylltu’n dda â rhieni a gofalwyr i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu dysgwyr trawsryweddol, y rhai sy’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd, a’r rhai sydd wrthi’n newid eu rhyw. Maent yn cydnabod nad oes ateb cyffredin na syml i’r heriau hyn, a bod angen hyblygrwydd a deialog â phawb sydd ynghlwm.

Pan fydd y ddarpariaeth ar ei chryfaf, mewn tua thraean o ysgolion ac yn y rhan fwyaf o golegau, mae arweinwyr yn dangos diben moesol clir tuag at hyrwyddo cynhwysiant a dathlu amrywiaeth. Maent yn sefydlu ethos sy’n hyrwyddo unigoliaeth, goddefgarwch a pharch. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar les yr holl ddysgwyr. Yn yr ysgolion a’r colegau mwyaf cynhwysol, mae staff LGBT yn teimlo eu bod yn gallu trafod eu bywydau personol a’u perthnasoedd gyda disgyblion a chydweithwyr o fewn canllawiau sydd yr un mor berthnasol i staff LGBT a heterorywiol.

Mae arweinwyr yn blaenoriaethu ystyried lles ac iechyd meddwl dysgwyr yn eu trefniadau hunanwerthuso. Maent yn defnyddio’r wybodaeth a gasglant i ystyried darpariaeth ar gyfer dysgwyr LGBT a pha mor dda y mae eu cwricwlwm a’u hamgylchedd dysgu yn annog dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant. Mae casglu safbwyntiau’r holl ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n LGBT, yn rhan bwysig o hyn.

Mae arweinwyr yn sicrhau dysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff sy’n datblygu eu medrau, eu gwybodaeth a’u hyder i gefnogi dysgwyr LGBT ac yn cynorthwyo i greu ethos cynhwysol. Yn aml, mae hyn yn cynnwys mewnbwn gan bartneriaid allanol arbenigol, gan gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer staff penodol sy’n eu galluogi i gyflwyno dysgu proffesiynol i gydweithwyr yn eu sefydliad eu hunain.

Ble mae darpariaeth yn llai cryf

Yn yr achosion hyn, mae dysgwyr LGBT yn wynebu lefelau amrywiol o fwlio a gwahaniaethu sy’n cael effaith negyddol ar eu profiad yn yr ysgol neu goleg, gan arwain at bresenoldeb gwaelach a chynnydd academaidd arafach na’u cyfoedion.

Yn gyffredinol, nid yw dysgwyr yn gweld modelau rôl LGBT cadarnhaol fel rhan o’u cwricwlwm neu o gwmpas eu hysgol neu goleg. Mae hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu safbwyntiau negyddol am bobl LGBT ac na fydd dysgwyr LGBT yn gwerthfawrogi y gallant fod yr un mor llwyddiannus â dysgwyr eraill.

Mae mynd i’r afael â materion LGBT yn rhan ychwanegol o ddarpariaeth yr ysgol neu’r coleg, er enghraifft gydag athrawon yn mynd i’r afael â nhw fel rhan o sesiynau addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yn unig. Gallai hyn atgyfnerthu’r ymdeimlad fod pobl LGBT yn fater arbennig y mae angen ei drafod, yn hytrach nag yn rhan o fywyd bob dydd.

Nid yw arweinwyr yn sicrhau bod achosion o fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsryweddol yn cael eu cofnodi neu fod tueddiadau’n cael eu nodi ac y gweithredir yn unol â nhw, nac yn sicrhau bod staff yn ymgymryd â dysgu roffesiynol o ansawdd uchel sy’n rhoi hyder iddynt gefnogi dysgwyr LGBT.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • Argymhelliad 1 – Adolygu cynnwys eu cwricwlwm a’u cyrsiau unigol i ystyried pa mor dda y caiff addysgu amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys materion LGBT, ei integreiddio mewn profiadau dysgu
  • Argymhelliad 2 – Sicrhau bod achosion o fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig yn cael eu cofnodi, a bod tueddiadau’n cael eu nodi, ac y gweithredir yn unol â nhw
  • Argymhelliad 3 – Sicrhau bod pob un o’r staff yn ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth, gan gynnwys materion yn ymwneud â phobl LGBT.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:

  • Argymhelliad 4 - Weithio gyda phartneriaid allanol i gyflwyno cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ar gyfer staff mewn ysgolion ar draws sectorau cynradd ac uwchradd
  • Argymhelliad 5 – Gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i sicrhau dilyniant mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb rhwng sectorau.

Bydd swyddogion addysg yn ysgrifennu at awdurdodau lleol a chonsortia i dynnu eu sylw at yr argymhellion a osodwyd ar eu cyfer nhw ac ysgolion yn yr adroddiad hwn

Manylion cyhoeddi

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar neu ar ôl 15 Hydref 2020 ac fe fydd ar gael ar wefan Estyn.