Neidio i'r prif gynnwy

Mae dathliadau yn cael eu cynnal ledled Cymru i anrhydeddu Cenhedlaeth Windrush, gyda chymorth £55,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Diwrnod Windrush yn annog cymunedau i ddathlu cyfraniad y rhai ddaeth i'r DU o Ynysoedd y Caribî mewn ymateb i alwad am weithwyr i lenwi bylchau yn y gweithlu ar ôl y rhyfel. 

Cynhelir y diwrnod coffa ar y dyddiad y cyrhaeddodd y llong HMT Empire Windrush a'i 492 o deithwyr Caribïaidd i'r DU yn 1948.

Cyhoeddwyd y diwrnod cenedlaethol yn 2018 er mwyn anrhydeddu Cenhedlaeth Windrush yn dilyn y sgandal a ddeilliodd o bolisi "amgylchedd gelyniaethus" Llywodraeth y DU. Arweiniodd y polisi hwn at weld nifer o bobl yn cael eu dal ar gam, colli budd-daliadau a cholli mynediad at wasanaethau'r GIG.

Cyllidwyd 18 o brosiectau ar draws Cymru, ar gyfer pob rhanbarth o'r wlad. Dyma rai ohonynt:

  • Dau ddiwrnod o ddigwyddiadau yng Nghanolfan Ddiwylliannol Bae Colwyn, gan gynnwys areithiau, cyflwyniadau hanesyddol a gweithdai
  • Diwrnod coffa yn Wrecsam yn tynnu sylw at straeon unigol, gan gynnwys ffilm am hanes Enrico Stennett, aelod allweddol o'r tîm a sefydlodd Ddeddf Cysylltiadau Hiliol cyntaf Prydain ac aelod sefydlu o Rwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth y Gogledd - wedi'i drefnu gan bartner rhanbarthol Race Council Cymru, cymuned Portiwgeaidd CLPW yn Wrecsam
  • Digwyddiad gyd phanel bach o hynafgwyr ac eiconau'r gymuned leol yng Nghasnewydd a Sir Fynwy, gyda bwyd Caribïaidd, gemau diwylliannol a cherddoriaeth
  • Cyfres o ddigwyddiadau yn Butetown, Caerdydd, gan gynnwys canu gospel, gwasanaeth diolchgarwch yng Nghasnewydd a noson o farddoniaeth
  • Sioe wedi’i drefnu gan Gymdeithas Tenantiaid Llanelli yng Nghanolfan Selwyn Samuel, gyda dros 30 o stondinau yn cynnig gwybodaeth, bwyd, cerddoriaeth, diwylliant a hanes o bob cwr o'r byd
  • Dathliad Windrush Canolfan Gymunedol Affricanaidd a chymunedau Congolaidd Abertawe, gyda diwrnod o straeon, cerddoriaeth a dawns o ynysoedd Caribïaidd Affricanaidd a'r Gymanwlad yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand yn Abertawe
  • Lansio Diwrnod Windrush yn Nhorfaen gyda Chymdeithas Jamaicaidd De Cymru a Race Council Cymru
  • Cyflwyniad mewn ysgolion ar draws Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili, Blaenau Gwent, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Bangor ac eraill, wedi'i drefnu gan Race Council Cymru a'u partneriaid rhanbarthol.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip sy'n gyfrifol am gydraddoldebau:

Wrth i ni ddathlu digwyddiad diwylliannol pwysig yn ein hanes, rydyn ni'n manteisio ar y cyfle i groesawu a dathlu cyfraniadau gwerthfawr mudwyr Windrush i Gymru. Rydyn ni'n llwyr gydnabod arwyddocâd hanesyddol a chyfredol y diwrnod hwn fel rhan bwysig o hanes Cymru. 

Roedd yn fraint gweld cynifer o geisiadau yn cael eu cyflwyno - o bob cwr o'r wlad - i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gofio Windrush. Daeth cymaint o geisiadau i law nes i ni godi swm ein cefnogaeth ni o £40,000 i £55,000 er mwyn sicrhau bod Cenhedlaeth Windrush yn cael eu hanrhydeddu'n bwrpasol.

Dywedodd y Barnwr Ray Singh CBE, Cadeirydd Race Council Cymru:

Mae'n bleser cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r holl sefydliadau partner i nodi Diwrnod Cenedlaethol Windrush 2019 i gydnabod cyfraniad Cenhedlaeth Windrush a'u disgynyddion i Gymru. 

Mae'r digwyddiadau heddiw yn dangos yn glir bod Cymru'n dathlu ac yn gwerthfawrogi cyfraniadau hynafgwyr Windrush a'u teuluoedd sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth diflino i gymdeithas Cymru dros y 71 mlynedd ddiwethaf a mwy. 

Mae Race Council Cymru hefyd yn cymeradwyo gwaith a chyfraniad yr holl fudwyr sy'n parhau i wasanaethu eu cymunedau a sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector ar draws Cymru.