Mae Arweinydd y Tŷ, Julie James heddiw wedi cyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i nodi 100 mlwyddiant rhoi'r hawl i fenywod bleidleisio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron i £300k i nodi Canmlwyddiant Rhoi'r Bleidlais i Fenywod gydag amrywiol weithgareddau ar y themâu Dathlu, Addysgu a Chymryd Rhan.
Bydd cymunedau ledled Cymru yn medru gwneud cais am grantiau ar gyfer digwyddiadau i ddathlu llwyddiannau menywod. Bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd bleidleisio er mwyn penderfynu pa ddwy fenyw ddylai gael eu cofio mewn cerflun am eu cyfraniad i gymdeithas a hanes Cymru.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James:
"Heddiw rydym ni'n dathlu canmlwyddiant arwyddocaol iawn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, a basiwyd ar 6 Chwefror 1918. Roedd y Ddeddf hon yn galluogi pob dyn a rhai menywod dros 30 oed i bleidleisio am y tro cyntaf.
Mae'n werth nodi, fodd bynnag, mai deng mlynedd yn ddiweddarach y cafodd menywod yr hawl i bleidleisio ar yr un telerau â dynion, pan basiwyd Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 gan roi hawl i fenywod bleidleisio yn 21 oed. Felly ar 2 Gorffennaf eleni gallwn nodi 90 mlwyddiant y Ddeddf honno.
Rwy'n sylweddoli hefyd bod y canmlwyddiant hwn yn gorgyffwrdd â rhaglen Cymru'n Cofio 1914-1918 Llywodraeth Cymru, sy'n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd cyfraniad menywod at ymdrechion y rhyfel ar y pryd o'r pwys mwyaf ac yn rhan o'r ysgogiad dros sefydlu Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918."
Mewn datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, amlinellodd raglen o weithgareddau i ddathlu a chydnabod llwyddiannau menywod, sydd bron yn anweledig yn rhy aml yn ein hanes.
Mae Llywodraeth Cymru wedi noddi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i gyflawni prosiect i ddathlu'r '100 uchaf' o fenywod Cymru.
Yn yr hydref, bydd cyfle i'r cyhoedd bleidleisio dros y menywod o Gymru y maen nhw'n teimlo sydd wedi eu hysbrydoli fwyaf. Bydd dau gerflun yn cael eu comisiynu o ganlyniad i'r prosiect hwn.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chwarae Teg a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu cynllun i gomisiynu placiau porffor i gynifer â phosib o'r 100 a enwebwyd yn wreiddiol.
Ychwanegodd Julie James:
"Bydd y canmlwyddiant a'r gweithgareddau cysylltiedig yn edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl. Ein nod yw tynnu sylw at fenywod hynod Cymru ddoe a heddiw, er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch eu llwyddiannau a choffau nifer sylweddol ohonynt, gan adrodd eu straeon yng nghyd-destun eu cymunedau lleol. Maen nhw'n esiamplau pwerus i fenywod a merched heddiw.
Mae'n iawn ein bod ni'n dathlu'r cynnydd a wnaed dros y can mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn iawn cofio'r ymdrechion a'r aberth a wnaed i sicrhau'r cynnydd hwn. Rhaid i ni gynnal ein momentwm, er mwyn cryfhau democratiaeth ymhellach, cynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau pwysig, a pharhau i herio anghydraddoldeb a chamwahaniaethu annheg."