Bydd blaenoriaethau newydd i gefnogi twf Diwydiannau Creadigol Cymru yn cael eu hamlinellu yn ystod digwyddiad gan Gymru Greadigol a BAFTA yng Ngaleri Caernarfon heno.
Lansiwyd Cymru Greadigol ym mis Ionawr â'r nod o sicrhau mai Cymru yw'r lle i fusnesau creadigol ffynnu.
Yn ystod y digwyddiad, a gynhelir gan BAFTA Cymru a Chymru Greadigol, bydd y ffilm Nuclear, a gafodd ei ffilmio yng Ngogledd Cymru, yn cael ei dangos, ac wedyn bydd sesiwn holi ac ateb a gyflwynir gan yr actor, yr enillydd BAFTA, yr ysgrifennwr a'r cynhyrchwr Celyn Jones, gydag aelodau o'r cast Sienna Guillory (Resident Evil, Love Actually) ac Emilia Jones (Locke and Key, Horrible Histories the Movie – Rotten Romans). Un o Gaergybi yw Celyn, ac yn ei rôl nesaf bydd yn un o gyd-sêr Judi Dench ac Eddie Izzard mewn cynhyrchiad gan y cwmni Mad as Birds o'r enw Six Minutes to Midnight, a fydd yn cael ei rhyddhau ym mis Mai. Bydd yr ysgrifennwr-gyfarwyddwr Catherine Linstrum a'i chyd-ysgrifennwr David-John Newman hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb.
Wrth lansio Cymru Greadigol y mis diwethaf dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Rydyn ni wedi bod yn genedl o storïwyr erioed. Mae ein meddyliau creadigol wedi cael eu hogi drwy drosglwyddo chwedlau o genhedlaeth i genhedlaeth – mewn geiriau, delweddau a chân. Heddiw, er bod y dechnoleg wedi newydd mae’r un diben yn parhau: i harneisio ein sgiliau creadigol er mwyn cwrdd â phobl, difyrru pobl a rhannu syniadau a gwybodaeth.
“Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru Greadigol yw creu sefydliad a fydd yn adeiladu ar y llwyddiannau presennol yn y diwydiant sgrin i sbarduno twf ar draws yr holl sector creadigol, gan ddatblygu sail sgiliau o'r radd flaenaf, ehangu cefnogaeth y tu hwnt i ffilmiau a theledu a sicrhau mai Cymru yw'r lle ar gyfer busnesau creadigol.
Yn ystod y digwyddiad yng Ngaleri dywedodd Cyfarwyddwr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans:
"Yn ogystal â lansio Cymru Greadigol i'n partneriaid yng Ngogledd Cymru, mae hwn hefyd yn ddathliad o gyfoeth ac amrywiaeth y diwydiannau creadigol yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda’r sector yng Ngogledd Cymru a’i gynnwys yn ein gwaith yn fwy nag erioed, i sicrhau dyfodol llwyddiannus ar gyfer ein diwydiannau creadigol yn yr ardal.
Prif flaenoriaethau Cymru Greadigol yw:
- ysgogi twf yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru, gyda rhagor o bwyslais ar y rhanbarthau ac is-sectorau
- datblygu'r sgiliau cywir ar draws y sector i ategu'r twf parhaus hwn, gan gydnabod na ellir gwneud hwn yn ar ein pennau ein hunain, ac y bydd angen gweithio'n agosach â phartneriaid yn y diwydiant a'r undebau llafur
- codi safonau a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb. Bydd hyn yn cynnwys datblygu ymrwymiadau gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio rhagorol
- symleiddio cymorth ariannol ar gyfer y diwydiant creadigol a sicrhau ein bod yn gallu addasu i sector sy’n datblygu’n gyflym. Bydd yr holl gyllid yn cael ei ddarparu drwy gontract economaidd
- arwain y ffordd wrth farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd, drwy frand newydd Cymru Greadigol
Er mwyn cefnogi'r diwydiant, bydd gan Gymru Greadigol ffrwd ar gyfer cyllid cyfalaf a ffrwd ar gyfer cyllid refeniw, a fydd yn ymateb i anghenion y sector mewn modd cyflym a hyblyg. Gwerth y ddwy ffrwd hyn ar gyfer 2020–21 fydd £7 miliwn.
Yn ogystal â chefnogi'r sector ffilm a theledu yng Nghymru fydd Cymru Greadigol hefyd yn canolbwyntio ar y diwydiant cerddoriaeth, y sector digidol a gemau a'r sector cyhoeddi.
Dywedodd Garffild Lewis o Ogledd Creadigol:
"Fel Cadeirydd Gogledd Creadigol, dw i'n cefnogi'n llawn lansio Cymru Greadigol ac yn croesawu eu hymroddiad i'r diwydiant yng Ngogledd Cymru. Mae'r sector creadigol yma yn ddynamig ac yn llwyddiannus, ond mae'n rhaid inni atgyfnerthu'r sector ac atgyfnerthu ei botensial yn yr ardal, o ran sicrhau buddsoddiadau a datblygu cyfleoedd. Mae angen inni hefyd ymateb i anghenion hyfforddiant a sgiliau'r sector. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Chymru Greadigol i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i sicrhau dyfodol disglair a llwyddiannus ar gyfer y diwydiant yma yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:
"Rydyn ni wedi bod yn cefnogi'r rhai sydd am weithio yn y sector ffilm, gemau a theledu yng Ngogledd Cymru drwy gynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer ein haelodau cynyddol a'r cyhoedd ehangach, ac mae wedi bod yn werthfawr ymuno â Chymru Greadigol i ddangos y ffordd mae’r Llywodraeth, BAFTA (yr elusen fwyaf yng Nghymru ar gyfer y cyfryngau creadigol) a sefydliadau cefnogi eraill yn gallu gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ragor o ddigwyddiadau'n dathlu'r gwaith sy'n cael ei greu ledled Cymru.
Dywedodd Gareth Williams, Rondo:
“Mae’r diwydiannau creadigol yn rhan allweddol o dwf a llwyddiant Cymru - yma yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Rydym yn hynod o falch o groesawu Cymru Greadigol a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl y datblygiad newydd hwn i adeiladu ar lwyddiant y sector wrth gefnogi ystod eang o brosiectau creadigol - wrth ddenu prosiectau a chynyrchiadau sylweddol i Gymru law yn llaw â hybu a chefnogi’r busnesau hynod werthfawr sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru.
Mae'r diwydiannau creadigol yn un o'r sectorau yng Nghymru sy'n tyfu gyflymaf, gyda throsiant blynyddol o dros £1.9 biliwn, a 56,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan y sector – 52% yn fwy na deng mlynedd yn ôl.
Mae'r broses i recriwtio Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd bellach ar agor, ac mae rhagor o fanylion ar wefan Creadigol Cymru.